– Senedd Cymru am 2:40 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ganfyddiadau'r rhaglen garlam annibynnol i adolygu galwadau melyn. Vaughan Gething.
Diolch i chi, Llywydd. Yn fy natganiad ar 15 Mai 2018, hysbysais yr Aelodau fy mod wedi comisiynu adolygiad annibynnol o gategori oren y gwasanaeth ambiwlans, o dan arweiniad clinigol. Rwyf yn falch o allu darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn dilyn cwblhad yr adolygiad hwnnw. Bydd yr Aelodau'n cofio bod gwerthusiad annibynnol o'r model ymateb clinigol, a wnaed yn 2017, wedi cael cydnabyddiaeth gyffredinol o fewn y gwasanaeth ambiwlans a chan bartneriaid allanol mai symud tuag at y model newydd oedd y peth cywir i'w wneud. Canfu fod y model ymateb clinigol newydd wedi helpu gwasanaeth ambiwlans Cymru i ganolbwyntio ar ansawdd y gofal y mae cleifion yn ei gael yn ogystal â gwella effeithlonrwydd wrth ddefnyddio adnoddau ambiwlans. Gwnaeth argymhellion ar gyfer gwelliant pellach hefyd, gan gynnwys adolygiad o'r categori oren.
Yng ngoleuni’r argymhelliad hwnnw, ceisiodd yr adolygiad oren a orchmynnais sefydlu pa un a yw cleifion yn y categori oren yn aros yn rhy hir am ymateb ambiwlans, ac os felly pa un a yw hyn yn arwain at ganlyniadau a phrofiadau gwaeth i gleifion. Mae'n galonogol nodi bod yr adolygiad oren wedi adleisio canfyddiadau'r adolygiad annibynnol blaenorol—bod ein model ymateb clinigol yn ddiogel. Mae ein model yn parhau i sicrhau bod y rhai â’r angen mwyaf yn derbyn yr ymateb cyflymaf i wella eu cyfleoedd o gael canlyniad cadarnhaol, wrth ddarparu gofal priodol ac amserol hefyd i gleifion nad oes ganddynt gyflyrau angheuol.
Rwyf eisoes wedi amlinellu’r broses adolygu sydd ar waith i gadw’r holl godau blaenoriaethu o dan adolygiad parhaus. Mae'r broses adolygu hon, a wnaed gan arbenigwyr yn y maes, yn sicrhau bod neilltuo’r codau i gategorïau coch, oren a gwyrdd yn parhau i mhwyslais ar fesuriad sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n ddiddorol gweld bod yr adolygiad wedi cynghori yn erbyn cyflwyno targedau newydd sy'n seiliedig ar amser ar gyfer gwasanaethau ambiwlans. Yn hytrach, byddwn yn parhau i fynd ar drywydd mesur llwybr cyfan gyda chyflyrau megis strôc, gan ddatblygu dangosyddion clinigol a mesuriadau ar gyfer canlyniadau a phrofiadau cleifion sy’n unol â ‘Cymru Iachach’.
Bydd digwyddiadau yn y categori oren yn gyffredinol yn cael ymateb golau a seiren las, yn debyg iawn i’r rhai sydd yn y categori coch. Y prif wahaniaeth yw bod yr holl adnoddau gerllaw ar gael ar gyfer digwyddiadau coch, tra bod yr ymateb agosaf a mwyaf addas yn cael ei anfon ar gyfer y categori oren. Dylai hyn helpu cleifion i gael gofal arbenigol cywir ynghynt. Dywedodd y rhan fwyaf o staff y gwasanaeth ambiwlans a gymerodd ran yn yr adolygiad eu bod nhw’n credu bod y system flaenoriaethu’n gweithio'n dda, a bod nifer y cerbydau sy’n mynd i alwadau oren wedi gostwng. A dylai hynny roi hyder i ni ein bod ni’n sicrhau bod yr adnoddau cywir yn cyrraedd pobl y tro cyntaf yn fwy aml. Dylai hynny wella canlyniadau clinigol ar gyfer pobl â chyflyrau megis strôc, clefyd y galon a chluniau wedi eu torri.
Mae canfyddiadau'r adolygiad hefyd, wrth gwrs, yn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer gwelliannau. Mae canolrif yr amser ymateb ar gyfer galwadau oren wedi cynyddu saith munud ar gyfartaledd yn ystod y cyfnod adolygu, rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2018. Mae’n amlwg nad yw hynny'n dderbyniol a rhoddir sylw i hyn drwy waith cydweithredol â phwyslais. Mae'r canfyddiadau’n awgrymu bod prydlondeb wedi effeithio ar nifer o ffactorau sy’n cyfyngu ar y gallu. Mae hynny er gwaethaf buddsoddiad ychwanegol o £11 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau gofal cleifion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a £38 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf yn ystod yr un cyfnod.
Mae angen sylw ar unwaith ar oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys a salwch staff gyda chynigion system gyfan a lles gwell i staff. Disgwyliaf i fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru weithio gyda phartneriaid i gymryd cyfrifoldeb am y materion hyn a chymryd camau ar unwaith i ymdrin â nhw. Wrth gwrs, byddwn yn monitro’r cynnydd yn ofalus.
Roedd yr adolygiad yn gallu defnyddio technegau arloesol i olrhain data ar lefel y cleifion drwy'r system. Ni chanfuwyd perthynas uniongyrchol rhwng amseroedd aros hir am ymateb ambiwlans a chanlyniadau gwaeth ar gyfer y rhan fwyaf o gleifion. Fodd bynnag, bydd profiadau cleifion a'u teuluoedd yn cael eu heffeithio’n negyddol a chefnogir hynny gan adborth y cyhoedd. Disgwyliaf i gamau gael eu cymryd er mwyn galluogi gwiriadau sicrwydd a lles i gael eu darparu pan fo pobl yn aros yn hwy am ambiwlans i gyrraedd.
Canfu'r adolygiad mai digwyddiadau sy'n ymwneud â phobl sydd wedi cael codwm sy’n cyfrif am y nifer mwyaf o alwadau o fewn y categori oren. Yng ngoleuni hyn, rwyf wedi penderfynu dyrannu £140,000 i brif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans ar gyfer prosiect ar y cyd i ymateb i godymau gan gynnwys St John Cymru Wales.
Awgrymodd tystiolaeth anecdotaidd gan staff gweithredol bod nifer sylweddol o alwadau gan gartrefi nyrsio ar gyfer cleifion a oedd wedi syrthio ac y byddai’n fuddiol pe byddai gan bob cartref nyrsio gyda glustogau codi. Bydd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu, felly, yn cyllido clustogau codi ar gyfer cannoedd o gartrefi nyrsio a gofal ledled y wlad. Dylai'r ddwy fenter hyn leihau anfon adnoddau ambiwlans brys yn ddiangen i bobl sydd wedi cael codwm ond nid wedi eu hanafu ac y gellir eu hailsefydlu’n ddiogel.
Canfu'r adolygiad dystiolaeth i awgrymu bod cyfleoedd i reoli pobl yn y gymuned yn well, naill ai drwy ddarparu cyngor clinigol dros y ffôn, drwy gyfeirio at wasanaethau eraill neu drwy eu rhyddhau yn y lleoliad. Awgryma adborth y cyhoedd i’r adolygiad ei bod hi’n bwysig i bobl eu bod nhw’n osgoi mynd i'r ysbyty os nad yw'n angenrheidiol. Dywedodd wyth deg pedwar y cant o'r rhai a holwyd y byddai'n well ganddyn nhw aros gartref, ac roedd 88 y cant o’r bobl yn teimlo ei bod hi’n bwysig iddyn nhw fod cyngor meddygol yn cael ei ddarparu dros y ffôn. Roedd staff y gwasanaeth ambiwlans hefyd yn teimlo bod ehangu'r niferoedd a swyddogaethau’r clinigwyr yn yr ystafell reoli yn hanfodol er mwyn rheoli'r galw’n effeithiol. O ystyried y canfyddiadau hyn, rwyf wedi cytuno i gyllido’r gwaith o recriwtio mwy o barafeddygon a nyrsys i ddarparu cyngor clinigol i’r cyhoedd dros y ffôn i helpu i reoli galw yn y gymuned.
Bydd buddsoddiad o oddeutu £450,000 ar gyfer gweddill y flwyddyn hefyd yn cynnwys cynllun arbrofol y gaeaf o nyrsys cyswllt iechyd meddwl mewn canolfannau cyswllt clinigol ambiwlans, ac mae hynny'n seiliedig ar adborth gan staff y ganolfan gyswllt glinigol, a ddywedodd nad ydyn nhw’n cael yr hyfforddiant sy'n ofynnol i gefnogi pobl mewn trallod meddwl. Maen nhw’n credu y byddai cael arbenigwr iechyd meddwl yn y ganolfan rheoli yn helpu i leddfu'r pwysau ac yn caniatáu i fwy o bobl mewn trallod gael eu trin yn y gymuned.
Wrth gwrs, byddwn yn parhau i weithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, byrddau iechyd a phrif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans i weithredu argymhellion yr adolygiad gyda chyflymder a phwrpas. Edrychaf ymlaen at gwestiynau gan yr Aelodau.
Diolch i chi, Llywydd. Yn gyntaf oll, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch i chi am y sesiwn briffio technegol gan eich swyddogion a gynigiwyd gennych y bore yma. Roedd yn ddefnyddiol iawn. Mae'n adroddiad mawr, mae llawer iawn ynddo ac mae'n ddeunydd darllen diddorol, llawer ohono i'w groesawu, rhywfaint ohono yn peri pryder.
Roedd pedwar maes yn arbennig yn tynnu fy sylw o ran ystadegau pur a oedd yn peri pryder imi. Y cyntaf yw, dros y ddwy flynedd diwethaf, arhosodd dros 7,000 o bobl dros dair awr y tu allan i ysbyty yn disgwyl cael eu trosglwyddo i mewn i'r ysbyty, ac arhosodd dros 15,000 o bobl dros dair awr am ambiwlans ym mha le bynnag yr oeddent ar adeg y digwyddiad. Bu cynnydd yn yr oriau rhwng trosglwyddo a chlirio, sy'n amlwg yn faes y mae angen i ni edrych arno, ac, wrth gwrs, un maes sy'n peri pryder mawr yw'r cynnydd mewn achosion o salwch ymhlith staff ambiwlans a cheisio dirnad pam: Ai straen sy'n gyfrifol? Beth yw'r problemau yn y fan yma? O'r pedwar maes hynny eu hunain, mae dau yn dangos pryd nad ydym yn perfformio'n dda, ac mae dau yn dangos ble y gallai fod tagfeydd yn y system.
Mae'r adroddiad yn ei gyfanrwydd yn gwneud rhai argymhellion diddorol iawn, ond mae'n cyfeirio dro ar ôl tro at osod clinigwyr mewn lleoliadau megis ystafelloedd rheoli, cartrefi nyrsio, gwasanaethau heddlu fel ffordd o wella rheolaeth y gwasanaeth ac asesu'r sefyllfa. O ran gweithredu, pa mor sicr ydych chi bod gennych chi'r nifer angenrheidiol i osod y clinigwyr hynny yn y lleoliadau? A ydym ni'n ymwybodol o faint o swyddi y bydd eu hangen a ble y maen nhw? Oherwydd mae'n ddigon hawdd i'r adroddiad hwn ddweud, 'Gallwn ni wneud yn well o lawer petai gennym ni bobl yn y fan acw, yn y fan acw ac yn y fan acw'. ceir datganoli mawr o wasanaeth ambiwlans Cymru, a gallai hynny fod yn iawn—yn sicr nid wyf yn dadlau hynny—ond yr hyn sy'n peri pryder i mi yw ei bod yn hawdd dweud, 'Gadewch i ni roi'r clinigwyr hyn yn yr ystafell reoli'; 'Gadewch i ni roi mwy o bobl yn y fan yma, y fan acw ac ym mhob man', ond rydym ni'n gwybod bod staff yn brin. Felly, byddai diddordeb gennyf mewn cael gwybod beth yr ydych chi wedi ei wneud i asesu'r mater penodol hwnnw. Ac, unwaith eto, ynghylch lleihau amseroedd aros cleifion megis cleifion sy'n cael codwm heb ddioddef anaf—sy'n tueddu i fod ein poblogaeth hŷn—unwaith eto, mae hyn, yn gofyn am nyrsys ardal a gweithwyr gofal cymdeithasol. Felly, sut bydden nhw'n cael eu hymgorffori'n well yn llwybrau gofal yr unigolion hyn? Sut ydych chi'n bwriadu cynyddu'r capasiti hwnnw?
Rwyf yn croesawu'r cynlluniau pwrpasol gyda'r byrddau iechyd lleol, ond mae gweithredu'r cynlluniau hyn yn ddibynnol iawn ar y byrddau iechyd hynny. Fe wyddom ni fod gwasanaethau ambiwlans wedi cael buddsoddiad cyfalaf ychwanegol yng nghyllideb eleni, ond er mwyn sbarduno newid, sut y byddwch, sut y bydd byrddau iechyd yn cael eu cefnogi i roi'r gwelliannau hyn ar waith? A fyddwch chi'n gofyn iddyn nhw ddangos sut y byddant yn gwneud hynny yn eu cynlluniau tymor canolig integredig, oherwydd os na fyddwch yn monitro hyn, gallai yn hawdd iawn fynd ar goll yn y gymysgfa?
O ran gwella'r gwasanaeth, ar y dechrau roeddem ni'n disgwyl i'r adolygiad hwn gael ei gyhoeddi ym mis Medi, ac erbyn hyn mae'n wythnos gyntaf mis Tachwedd. Dywed un dyfyniad o'r adolygiad,
Er mwyn osgoi'r cyfuniad o ffactorau a welwyd yn ystod y gaeaf diwethaf, mae'n rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans a'r GIG ehangach sicrhau ei fod yn achub ar bob cyfle i sicrhau bod mwy o adnoddau ar gael a'u bod yn cynyddu eu heffeithlonrwydd er mwyn i gleifion o Gymru gael ymateb ambiwlansys o fewn amser priodol ac o'r safon uchaf.
Felly, sut mae byrddau iechyd lleol yn mynd i gael hyn yn barod i'w weithredu ar gyfer y gaeaf hwn a chyfnod y Nadolig? A oedden nhw'n gwybod am yr adolygiad hwn cyn i ni gael gwybod amdano yma yn y Cynulliad? A ydyn nhw wedi sefydlu cynlluniau cydnerthedd cyn y gaeaf?
Llywydd, mae gennyf i un cwestiwn arall. Yng nghefn yr adolygiad hwn ceir rhestr o gardiau protocol a ddefnyddir gan staff y ganolfan alwadau, ac yr oeddwn i'n synnu gweld nad oes cerdyn protocol ar gyfer sepsis. Fel y gwyddoch, mae sepsis yn lladd mwy o bobl bob blwyddyn na chanser y coluddyn, canser y brostad a chanser y fron gyda'i gilydd. A cheir dangosyddion allweddol. Fe wn i ei fod yn debyg i gameleon, ond mae arwyddion o oerfel a chryndod, dryswch a lleferydd aneglur, poen difrifol yn y cyhyrau, anadlu cyflym a thymheredd uchel iawn neu isel iawn yn ddangosyddion clir fod rhywun efallai'n dioddef o sepsis. Fe wyddwn os gallwn achub pobl yn gynnar, y bydd ganddyn nhw fwy o siawns o adferiad llwyr a llawn. Dim cerdyn protocol. A wnewch chi addo edrych os gwelwch yn dda ar hynny a gweld os byddai'n briodol i gynnwys cerdyn protocol a'i ychwanegu at y 19 o gardiau protocol eraill y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn gweithio yn unol â nhw ar hyn o bryd?
Diolch ichi am y sylwadau a'r amrywiaeth o gwestiynau. Fe geisiaf ymdrin â nhw yn y modd gorau y gallaf yn yr amser sydd ar gael. Fe gyfeirioch chi, wrth gwrs, at ystod o ffigurau ar y dechrau, yn enwedig y pwyslais ar drosglwyddo cleifion ac eraill, ac, wrth gwrs, mae gennych chi 475,000 o alwadau i'r gwasanaeth. Ond cydnabyddir bod angen mwy o welliant ar sail fwy cyson ledled y wlad, oherwydd ceir rhywfaint o amrywiad yn y wlad nid yn unig o ran cyfraddau trosglwyddo, ond un rhan o'r system gyfan yw hynny. Yr hyn y mae'r adolygiad yn ceisio ei wneud yw gosod hynny yng nghyd-destun y system gyfan. Felly, llawer o welliant wrth gael yr ymateb iawn i'r bobl iawn. Mae angen hynny arnyn nhw er mwyn rhyddhau yn lleoliad y digwyddiad pan fo'n bosibl, ac, os oes angen iddyn nhw fynd i'r ysbyty, yna eu rhyddhau'n briodol, a hefyd eu bod yn gallu gadael yr ysbyty'n brydlon. Felly, mae'n rhan o system ehangach.
Rwyf yn cydnabod eich pwyntiau ynglŷn â salwch. Yn sicr y mae mesurau i'w cymryd, ac rwyf yn falch o ddweud y byddan nhw'n cael eu dwyn ymlaen gan gyflogwyr, ynghyd ag undebau llafur hefyd. Ac wn i ddim os ydych chi wedi gweld yr ymateb adeiladol i'r undebau llafur cydnabyddedig yn y gwasanaeth, ond mae'n gadarnhaol; ceir cydnabyddiaeth o'r angen i wella cyfraddau salwch yn enwedig yn y gwasanaeth, ac, wrth gwrs, cydnabyddir hynny'n rhannol hefyd yn y sgyrsiau a'r trafodaethau ynghylch cyflog ac amodau sydd wedi eu cynnal yn y misoedd diweddar.
O ran eich pwynt ynghylch recriwtio staff clinigol priodol i ganolfannau cyswllt, fe fyddai'n werth cofio bod tair canolfan gyswllt glinigol yn y wlad, felly, tair canolfan i recriwtio staff ar eu cyfer. Bydd her yn y fan yna o ran sicrhau bod gennym ni'r staff cywir i'w recriwtio. Rydym ni'n ffyddiog y byddwn yn gallu gwneud hynny, yn ogystal â staff o fewn y system ehangach. Ac, mewn gwirionedd, yn y system ehangach a'r pwyntiau a wnaethoch chi yn hynny o beth, mewn gwirionedd rydym ni'n ystyried ceisio bwrw ymlaen â chynlluniau'r gaeaf, a luniwyd gan iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd, gan gynnwys y gwasanaeth ambiwlans. Felly, mae'r arian hwnnw yn seiliedig ar ariannu'r cynlluniau hynny ar ben y £10 miliwn a gyhoeddais o'r blaen, ynghyd â Huw Irranca-Davies, y Gweinidog, i'w roi yn y system gofal cymdeithasol mewn gwirionedd. Rydym ni'n ystyried y system gyfan yn rhan o hynny, ac mae'r cynlluniau hynny yn gyson â chanfyddiadau'r adolygiad oren.
Fe soniasoch hefyd am arweinyddiaeth glinigol ac atebolrwydd er mwyn symud hyn ymlaen. Ac yn hyn o beth, rydym ni mewn sefyllfa gadarnhaol oherwydd bod gennych chi arweinyddiaeth o fewn gweithlu'r parafeddygon sy'n gadarnhaol ynghylch ein cyfeiriad ni, gan gynnwys yr angen i fuddsoddi yn y nifer o bobl sydd gennym ni. Felly, mae hynny yn ymwneud â hyfforddiant, cadw'r fwrsariaeth yn ogystal â recriwtio staff profiadol. Mae hefyd yn ymwneud â buddsoddi yn sgiliau gweithlu'r gwasanaeth gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd. Rwy'n gobeithio eich bod wedi cael amser i edrych ar rywfaint o'r buddsoddiad yn nyfodol uwch barafeddygon hefyd, beth y gallant ei wneud, yn y ganolfan gyswllt a hefyd yn eu swyddi ar lawr gwlad, y gallu i weld a thrin, a chlywed a thrin, hefyd. Rwy’n falch iawn bod Jo Mower, yr arweinydd cenedlaethol gofal heb ei drefnu, yn cael effaith gyda'i chydweithwyr yn y system gofal heb ei drefnu ehangach. Mae ganddi hi hygrededd gwirioneddol oherwydd ei bod yn parhau i fod yn glinigwr sy'n gwasanaethu. Mae hi'n ymgynghorydd mewn meddygaeth frys, ac mae hi'n gweithio'n rhan-amser yn y swydd honno ac yn rhan-amser fel arweinydd gofal heb ei drefnu. Felly, mae ganddi hygrededd gwirioneddol ymhlith cydweithwyr ym mhob rhan o'r system.
Fe wna i ymdrin â'ch pwynt ynghylch sepsis hefyd, oherwydd, os edrychwch chi ar y sgorau rhybudd cynnar cenedlaethol sy'n cael eu defnyddio, mae hynny'n rhan o'r system rhybudd cynnar ar gyfer sepsis. Nawr, rwy'n hapus i edrych ar y manylion a grybwyllwyd gennych, ond fe hoffwn i bwysleisio bod hyn yn her i'r system gyfan. Ac mewn gwirionedd, yn ystod fy nghyfnod i yn y swydd hon a chyn hynny yn Ddirprwy Weinidog, rwyf yn sicr wedi gweld dros y cyfnod hwnnw, broffil llawer uwch i sepsis o fewn canolfannau ambiwlans, lle y lleolir staff, gyda deunydd llawer mwy gweladwy, ac, mewn gwirionedd, fe wyddom ni ein bod yn gwella.
Bellach, yr her yw beth arall allem ni ei wneud a beth ddylem ni ei wneud i barhau i wella. Felly, nid yw'n ymwneud â llaesu dwylo; Mae'n nodi gwelliant a wnaed a beth mwy y gallem ni ei wneud. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod y sgorau NEWYDD a'r ffaith eu bod nhw yma fel mesur a ddefnyddiwn ni, yn ddefnyddiol iawn, oherwydd dylai hynny ein helpu ni i adnabod pobl mewn perygl o gael sepsis ac i sicrhau bod y risg honno yn cael ei datrys yn gywir ac yn briodol. O safbwynt hyn, fe wn i ein bod yn rhannu'r un amcan o eisiau gwneud mwy, i weld mwy o fywydau yn cael eu hachub ac i weld llai o anabledd diangen yn digwydd o fewn ein system iechyd a gofal.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Mae pethau yn yr adroddiad sydd yn amlwg i'w croesawu, fel y mae Angela Burns wedi ei ddweud eisoes, ac yn eich datganiad chi. Fe fyddwn â diddordeb arbennig i weld sut y mae'r prosiect ymateb i godymau gydag Ambiwlans Sant Ioan yn datblygu, ac rwy'n gobeithio y dewch chi'n ôl atom i ddweud wrthym ni. Rwyf yn obeithiol iawn y bydd hwnnw'n cael rhai canlyniadau cadarnhaol.
Croesewir hefyd y buddsoddiad ariannol yr ydych yn sôn amdano yn eich datganiad. A wnewch chi gadarnhau i ni heddiw mai arian newydd ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans yw hwnnw? A wnewch chi hefyd, efallai nid heddiw—. Os mai arian newydd yw hwnnw, bydd yn amlwg wedi dod o ran arall o'r gyllideb iechyd ac fe fyddem yn ddiolchgar iawn pe byddech yn ysgrifennu at yr Aelodau i gadarnhau o ba ran o'r gyllideb gofal iechyd y mae'r arian newydd ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans—os mai arian newydd yw hwnnw—wedi dod.
Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, ac rwyf yn ei chael hi'n anodd braidd i weld sut yn union y mae eich datganiad yn adlewyrchu'r argymhellion, ond fe fyddwn yn derbyn ei fod yn gwneud hynny i raddau, mewn ysbryd. Hoffwn dynnu eich sylw at un argymhelliad yn benodol lle mae'r adroddiad yn argymell rhaglen o ymgysylltu er mwyn sicrhau eglurder ynglŷn â swyddogaeth y gwasanaethau ambiwlans brys a sut mae galwadau yn cael eu blaenoriaethu a'u categoreiddio. A ydych chi'n derbyn yr argymhelliad penodol hwnnw ac, os felly, a wnewch chi ddweud wrthym pa un a fydd y rhaglen hon o ymgysylltu yn cynnig cyfleoedd i ddatgan pryderon unwaith eto ynghylch ystod eang y galwadau sy'n cael eu cynnwys yn y categori oren? Dywed eich datganiad y dylai blaenoriaethu, fel y saif:
wella canlyniadau clinigol pobl sydd â chyflyrau megis strôc, clefyd y galon a thorri cluniau.
Ond a fyddech chi'n derbyn, Ysgrifennydd y Cabinet, bod y rhain yn gyflyrau gwahanol iawn mewn gwirionedd ac, i rai ohonyn nhw, maen nhw'n llawer mwy sensitif o ran amser nag eraill? Fe fyddwn i'n awgrymu, er enghraifft, bod cael strôc yn llawer mwy sensitif o ran amser, o safbwynt y canlyniad terfynol i'r claf, nag achosion o dorri asgwrn. Yn wir, mae'r adroddiad yn dangos bod y gwasanaeth yn fewnol yn defnyddio cod oren 1 a chod oren 2 mewn gwirionedd, yn ogystal â phrotocolau i flaenoriaethu yn seiliedig ar yr wybodaeth o'r hyn sy'n digwydd ar gyfer y claf. Ac mae hefyd yn nodi bod y berthynas rhwng amser a gofal wedi'i sefydlu ar gyfer nifer o gyflyrau, megis cnawdnychiant myocardaidd acíwt y galon a strôc. Felly, onid ydych chi'n derbyn bod hyn yn dangos bod amser mewn gwirionedd yn bwysig i gleifion a bod y categoreiddio mewnol hwn yn adlewyrchu hynny? A fyddech chi'n barod i ystyried, wrth i chi weithio gyda'r ymddiriedolaeth ambiwlans i symud hyn ymlaen, pa un a yw'n bryd edrych eto ar ffurfioli'r targed, yn enwedig ar gyfer y galwadau oren 1 hynny? Rwy'n deall yr amharodrwydd i roi gormod o bwysau ar y system gyda thargedau—ni fyddai neb ohonom yn dymuno gwneud hynny—ond pan fo'r galwadau hynny yn sensitif o ran amser i gleifion megis cleifion sydd wedi cael strôc, rwy'n synnu braidd eich bod yn amharod i o leiaf ystyried gosod targed.
O ran categoreiddio, mae'r adroddiad hefyd yn nodi y bydd, weithiau, galwadau yn cael eu hystyried yn rhai oren i ddechrau ac wedyn yn cael eu huwchraddio i alwadau coch oherwydd bod gwybodaeth ychwanegol yn dod ar gael. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi y ceir adegau pan fydd y staff yn teimlo nad ydyn nhw'n gallu gwyro oddi wrth y system oherwydd ei bod yn gaeth, a tybed a allech chi ailedrych ar hynny i weld a ddylai hi fod yn haws i staff ddefnyddio barn glinigol i symud galwadau i gategori uwch, i goch neu efallai o oren 2 i oren 1, os oes angen.
Ac yn olaf, a gaf i ofyn ichi unwaith eto ychydig yn fwy —? Fe wnaethoch chi ymateb i gwestiwn Angela Burns am y cyfraddau salwch a'r straen y gallwn dderbyn yn ôl pob tebyg sydd wrth wraidd y cyfraddau salwch hynny. Fe soniasoch chi yn eich ateb i Angela Burns y byddwch yn disgwyl i'r byrddau iechyd lleol a'r ymddiriedolaeth ambiwlans weithio ar hynny ac i weithio gyda'r undebau llafur ar y mater hwnnw. Ond a wnewch chi roi inni ychydig mwy o fanylion ynghylch beth yn union fydd cynnwys y gwaith hwn a beth fydd yr amserlen ar ei gyfer? Oherwydd fe wyddoch yn iawn, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, bod ein gwasanaethau iechyd a gofal—a'n gwasanaeth ambiwlans yn arbennig—yn dibynnu'n llwyr ar ein staff, ac, os oes cwestiwn ynglŷn â lles y staff, rwy'n credu y byddem ni i gyd yn hoffi cael sicrwydd ynghylch sut yr ymdrinnir â'r cwestiynau hynny o ran eu lles.
Diolch. Fe wnaf i ymdrin â'r pwynt olaf yn gyntaf. Mae'r her ynghylch ymdrin â lles staff yn amlwg yn bwysig, ac mae'n fater pwysig nawr. Felly, rwyf wedi ei gwneud hi'n glir y dylai'r gwaith ddechrau ar unwaith yn rhan o'r sgwrs rhwng cyflogwyr a'r undebau llafur. Ceir sgwrs barhaus a rheolaidd am les staff ym mhob rhan o'n gwasanaeth iechyd gwladol, yn enwedig wrth i ni—yn dilyn y cytundeb cyflog tair blynedd—geisio lleihau lefelau salwch. Golyga hynny bod angen inni ddeall rhai o'r rhesymau pam mae staff yn mynd yn sâl. Nid yw'n ymwneud â rheoli pobl yn effeithiol yn unig; mae'n ymwneud â deall y pwysau sy'n bodoli. Rwyf wedi cyhoeddi dros y flwyddyn ddiwethaf amrywiaeth o fesurau i geisio cefnogi staff, gan fod y swydd hon yn un â phwysau arbennig. Felly, mae'n rhaid iddo ddod o'r hyn y mae ein staff, drwy eu hundebau llafur fel eu cynrychiolwyr etholedig, yn ei ddweud wrth gyflogwyr, ac i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwy'n disgwyl cael adroddiad o fewn cyfnod o fisoedd ynghylch sut y mae hyn yn edrych o safbwynt y cyflogwyr. Bydd yn rhan o'r sgyrsiau rheolaidd yr wyf yn eu cael, nid yn unig gyda chadeirydd yr ymddiriedolaeth ambiwlans, ond hefyd gyda phrif gomisiynydd gwasanaethau ambiwlans a chadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.
Mae hynny'n fy arwain yn ôl at eich pwynt ynghylch arian. Mae'r arian a gyhoeddwyd yn newydd ar gyfer ymddiriedolaeth y gwasanaeth ambiwlans. Ceir her ynghylch o ble y daw'r arian, oherwydd bydd rhywfaint yn dod o gronfa ganolog. Ond dylech chi gofio bod hwn yn wasanaeth a gomisiynir gan fyrddau iechyd. Mae'n fodel a gafodd ei sefydlu yn dilyn yr adolygiad a gynhaliwyd gan yr Athro Siobhan McClelland, ac felly byrddau iechyd ddylai dalu am y gwasanaeth y maen nhw'n ei gomisiynu. Ni allan nhw ddisgwyl i'r gwasanaeth hwnnw ddarparu mesurau newydd ac ychwanegol heb edrych weithiau nid yn unig ar effeithlonrwydd y defnydd o adnoddau, ond faint sydd ohonynt hefyd. Cafwyd adegau yn y gorffennol pan wnaethom ni ymyrryd i wneud yn siŵr bod arian yn cael ei ddarparu gan y byrddau iechyd. Fe fyddai'n well gennyf i beidio â gorfod gwneud hynny yn y dyfodol. Gallwn bob amser roi arian cyllideb i'r gwasanaeth. Weithiau mae hynny'n briodol i sicrhau ei fod yn digwydd yn gyflym, ond gan symud ymlaen gyda'r ystod o argymhellion, fe fyddwn i'n disgwyl i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud gan y system yn ei chyfanrwydd.
Ynghylch ymateb i godymau, y gwnaethoch ei grybwyll ar ddechrau eich datganiad, fe fyddwn i'n hapus i ddychwelyd at yr Aelodau i roi'r newyddion diweddaraf ar effaith y £140,000 a gyhoeddais ar gyfer y prosiect ar y cyd â Sant Ioan, ac am brosiectau ynghylch darparu clustogau codi ac effaith hynny. O ran eich pwynt ehangach ynghylch adolygu'r categorïau o gyflyrau clinigol, a pha un a ydyn nhw yn y targed cywir o goch, oren neu wyrdd, mewn rhai ffyrdd, mae hyn yn mynd yn ôl at y rheswm pam y mae gennym ni fodel ymateb clinigol newydd. Mae'n dal yn gymharol newydd. Oherwydd ein bod ni'n deall bod gennym ni darged 40 mlwydd oed, a oedd yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyflyrau, nad oedd mewn gwirionedd yn gwneud fawr o les i'r claf. Roedd yn anfon adnoddau i wahanol gyfeiriadau i geisio bodloni targed nad oedd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r canlyniadau. Dyna oedd yr unig fesur a oedd gennym ni yn y gwasanaeth ambiwlans. Rydym mewn sefyllfa well o lawer erbyn hyn gan fod gennym ni gategori galwadau coch priodol, pan fo amser yn gwneud gwahaniaeth, a thrwy gael mesurau ansawdd eraill sy'n cael eu cyhoeddi bob chwarter ar ansawdd y gofal a ddarperir. Ceir llawer mwy o graffu erbyn hyn ar yr hyn y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei wneud—a'r pethau da y mae'n ei wneud—nag a fu yn y gorffennol.
Gallwch weld fod hwn yn benderfyniad da nid yn unig oherwydd yr adolygiad annibynnol a wnaethom yn 2017, nac ychwaith oherwydd yr un yma, ond oherwydd bod y gwaith yr ydym wedi'i wneud yn cael ei ddilyn a'i ailadrodd yn UDA, Canada, Awstralia, Chile a thu hwnt yn rhyngwladol. Ac yma yn y DU, mae dull tebyg yn cael ei ddilyn yn Lloegr a'r Alban. Un o'r gwahaniaethau yw bod Lloegr wedi cyflwyno, heb dystiolaeth sydd wedi argyhoeddi'r adolygiad annibynnol yma, targed amser mewn rhai rhannau o'r hyn sydd gennym ni yn y categori oren. Mae'r Alban, fodd bynnag, wedi mabwysiadu'r union ddull o weithredu â ni sef dweud nad yw'n briodol i gyflwyno targed amser o fewn y categori oren. Er hynny rydym ni—fel yr ydym wedi ei weld yn yr adolygiad a'r briffio y cawsoch chi'r cyfle i fynd iddo heddiw—yn edrych ar y dull o weithredu llwybr cyfan ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys strôc, er enghraifft, pryd mae'r llwybr cyfan yn bwysig. Rydym ni'n gweithio ochr yn ochr â phobl fel y Gymdeithas Strôc i ddeall yr hyn sy'n briodol i'w fesur i roi inni wir ddealltwriaeth o'r hyn y mae'r system gyfan yn ei wneud, yn ogystal â rhan y gwasanaeth ambiwlans yn hyn. Ond nid wyf yn bwriadu, ar sail adolygiad sydd wedi datgan yn glir na ddylem ni gyflwyno targed amser, serch hynny, fel rheidrwydd gwleidyddol, ceisio cyflwyno un. Nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd iawn i redeg y gwasanaeth. Rwy'n credu mai gweithredu'r argymhellion yn yr adolygiad hwn o ddifrif ac yn gyflym yw'r peth iawn i'w wneud ar gyfer ein staff a'r cyhoedd y maen nhw'n ei wasanaethu.
Rwyf i hefyd, yn croesawu'r datganiad ac, yn wir, yr adroddiad, sy'n gloddfa o wybodaeth, y byddwn rwy'n siŵr, ar ôl ei ystyried yn llawn, yn ei gael yn ddefnyddiol mewn sawl ffordd.
Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywed yr Ysgrifennydd Iechyd am dargedau, ond rwy'n credu y dylem ni gydnabod, heb fethiant trawiadol y Llywodraeth i gyflawni'r targedau a osododd hi ar ei chyfer ei hun, mae'n annhebygol y byddem ni wedi cael yr adroddiad hwn yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid inni barhau i gael targedau, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i'r targedau hynny fod yn dargedau ystyrlon. Mae hwnnw'n bwynt na ellir dadlau yn ei erbyn ac yn sicr nid oes angen targedau camarweiniol arnom ni. Serch hynny, rwy'n pryderu ynghylch tudalen yn yr adroddiad—tudalen 23—sydd mewn gwirionedd yn ceisio wfftio targedau, rwy'n credu os edrychwch chi arni'n ofalus. Dywed, er enghraifft:
'Mae gwerth amser ymateb fel mesur o effaith ac ansawdd gofal gwasanaeth ambiwlans yn … amheus'
'os yw gwasanaethau iechyd â'u holl fryd ar gyflawni targedau, yna mae gwir brofiad y claf yn eilaidd', ac amryw o ymadroddion eraill o'r fath. Rwy'n credu wrth gwrs, bod y cyhoedd yn gyffredinol, eisiau i wasanaethau ambiwlans gael eu darparu cyn gynted â phosibl, ac mae methu â gwneud hynny'n achosi straen anorfod, ac mae'r straen hwn yn cael effaith wrth gwrs, ar staff ambiwlans eu hunain, sy'n ceisio rhoi'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd.
Mae llawer o hyn efallai y tu hwnt i reolaeth yr Ysgrifennydd Iechyd hyd yn oed. Fe wyddom ni i gyd am broblemau anghenion y gwasanaeth iechyd o ran bod mwy o alw na'r hyn y gellir ei gyflenwi, a fydd yno o hyd. Ond fe hoffwn i'r Ysgrifennydd Iechyd roi sicrwydd inni, oherwydd bod y Llywodraeth wedi methu'n gyson â chyflawni llawer o'r targedau, ac weithiau'n methu eu cyflawni o bell ffordd, sy'n cael ei amlygu a'i ddarlunio yn yr adroddiad ei hun—ac, yn wir, dywed yr Ysgrifennydd Iechyd yn ei ddatganiad ei hun bod amser canolrif ymateb ar gyfer galwadau oren wedi cynyddu ar gyfartaledd o saith munud yn ystod y cyfnod adolygu ei hun—. Mae hyn yn newyddion annerbyniol iawn, ond mae bodolaeth targedau yn hanfodol os cânt eu defnyddio'n iawn, nid yn unig fel ffon i guro rheolwyr, ond fel offeryn i wella'r gwasanaeth, ac maen nhw'n hanfodol i sicrhau'r canlyniad y mae pawb yn y lle hwn am ei weld, sef gwell gofal iechyd i gymaint o bobl â phosibl. Ac, os gallwn ni sgwario'r cylch hwnnw, yn amlwg, mae hynny'n mynd i effeithio ar gyfraddau salwch staff hefyd. Rwy'n credu bod cyfradd salwch staff o 7 y cant yn gondemniad, ar un ystyr, nid o reidrwydd condemniad ar y Llywodraeth, ond anallu'r wlad mewn gwirionedd i gynnal dadl iawn ynglŷn â'r arian y dylid ei roi i'r gwasanaeth iechyd a'r ffordd y gellir gwneud hynny er mwyn cael y canlyniadau mwyaf effeithiol. Ond, yn y pen draw, yr ydym ni i gyd yn ceisio cyflawni'r un amcan, ond mae'n rhaid inni gael y wybodaeth gywir er mwyn gwneud y penderfyniadau gwleidyddol angenrheidiol ynghylch dyrannu adnoddau a sut i'w rheoli nhw, sydd yn hanfodol er mwyn cael gwasanaeth iechyd llwyddiannus yng Nghymru.
Rwy'n cytuno â pheth o'r naratif cyffredinol, hyd yn oed os wyf i'n anghytuno â'r casgliad y daw'r Aelod iddo ar rai o'r pwyntiau. Rwy'n siŵr, gyda'r adroddiad hwn—. Bydd yna gyfle i'r Llywodraeth ymddangos gerbron y pwyllgor i'w drafod, ar ryw bwynt, rwy'n siŵr. Rwy'n gweld nad yw eich cymydog yn y Siambr ar hyn o bryd, ond rwy'n siŵr y bydd y cymrawd Lloyd yn dymuno ystyried yr adroddiad yn fanylach.
Nid wyf yn rhannu eich barn chi na'ch datganiad y bu methiant aruthrol i gyflawni'r targedau a dyna pam y mae gennyf i'r adroddiad hwn yn y lle cyntaf. Fe wnaethom ni mewn gwirionedd symud i system wahanol ar dargedau cyn i chi gyrraedd y lle hwn, a'r penderfyniad a gymerais fel y Dirprwy Weinidog. Roedd yn her i gydnabod bod gennym ni darged amhriodol. Hyd yn oed pe byddem ni wedi cyflawni'r targed, ni fyddai wedi darparu'r gofal cywir i gleifion. Ac roedd yn farn a rannwyd yn eang o fewn y gweithlu o barafeddygon, yn enwedig; roedden nhw'n teimlo'n rhwystredig iawn ynghylch gorfod ceisio cyflawni targed hyd yn oed os nad oedd yn gwneud unrhyw les i'r cyhoedd. Felly, fe wnaethom ni gynnal adolygiad; cynhaliodd yr Athro McClelland adolygiad. Wedyn gwnaethom benderfyniad i dreialu model ymateb clinigol newydd, mewn gwirionedd, ar ôl adolygiad priodol a ystyriodd, mewn gwirionedd, effeithiolrwydd yr hen darged a chynnig ffordd bosibl ymlaen, sef gwell ffordd o weithredu ein system. A dyna pam mae gennym ni darged gwahanol. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny, a bellach mae gwledydd eraill y DU yn ein dilyn ni, ond nid dim ond oherwydd bod gennym ni darged gwahanol—mae'n darged mwy priodol, a dyna'r pwynt.
Pan eich bod chi'n cyfeirio at yr adroddiad, ynghylch a yw targedau yn cael eu wfftio, os edrychwch chi o ddifrif ar y cyfeiriad ato, mewn gwirionedd mae'n ystyried amseroedd ymateb fel yr unig ddangosydd o'r gwasanaeth, ac mewn gwirionedd, nid yw hynny'n ffordd briodol o edrych ar y ffordd y mae'r gwasanaeth cyfan yn darparu gofal. Unwaith eto, yr her hyd yn oed yn hynny o beth, os mai dim ond targed sy'n seiliedig ar amser sydd gennych chi, hyd yn oed os yw hwnnw'n fesur priodol ar gyfer y rhan honno o'r gwasanaeth, yw ein bod ni i gyd yn gwybod y caiff ei ddefnyddio wedyn fel ffordd o geisio barnu llwyddiant neu fethiant y gwasanaeth cyfan.
Ar eich pwynt ynghylch barn y cyhoedd, barn y cyhoedd am wasanaethau ambiwlans, wrth gwrs, yw eu bod eisiau ymateb prydlon, ond, wrth gynnal yr adolygiad annibynnol hwn, gyda chymorth gan y Picker Institute, nodwyd mai barn y cyhoedd yw bod prydlondeb yn bwysig, ond bod ymateb cywir yn bwysicach, ac mae pobl yn barod i aros cyfnod ychydig yn hwy am yr ymateb cywir. Ond nid yw hynny'n golygu bod pobl yn contractio allan i aros am ymateb hir iawn, iawn o dan yr holl amgylchiadau neu unrhyw amgylchiadau; rydym yn cydnabod bod rhai amseroedd aros yn rhy hir, a bydd camau gweithredu yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â nhw. Rwy'n siŵr y caf y cyfle hyfryd i'r Aelodau yn y fan hon neu yn y pwyllgor i graffu arnaf i weld a ydym ni mewn gwirionedd yn llwyddo i gyflawni hynny yn y dyfodol gweddol agos.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n galonogol gweld bod y model clinigol newydd yn cyflawni'r amcanion a osodwyd gennym ar ei gyfer a'i fod yn ddiogel yn glinigol. Ond, fel y cydnabyddwch yn eich datganiad, mae'n ymddangos bod profiad y claf yn parhau i fod yn ddiffygiol mewn rhai meysydd. Yn anochel, os ydych chi'n newid blaenoriaeth o un maes i'r llall, fe fydd rhai yn gorfod aros yn hwy. Dywedwch yn eich datganiad nad oes unrhyw berthynas uniongyrchol rhwng amseroedd aros hir a chanlyniadau gwaeth ar gyfer y rhan fwyaf o gleifion, ond ceir effaith negyddol ar brofiad y claf, ac rwy'n credu na ddylem ni ddiystyru hynny. Mae profiad y claf yn bwysig, ac fe hoffwn i gael wybod ychydig yn fwy am yr hyn y bwriadwn ni ei wneud ar wahân i sicrhau bod y cleifion sy'n aros yn parhau i fod yn ddiogel yn glinigol. Heblaw am hynny, beth ydym ni'n mynd i wneud i sicrhau nad yw profiad y claf ei hun yn mynd yn rhy negyddol? Fe ddywedasoch chi yn ystod y cyfnod adolygu bod amser ymateb canolrif ar gyfer galwadau oren wedi cynyddu i saith munud ar gyfartaledd, sy'n peri pryder. Dywedwch y bydd hyn yn cael sylw drwy waith cydweithredol a phenodol, a'i fod yn cael ei effeithio gan nifer o ffactorau capasiti. Efallai y gwnewch chi ddweud ychydig am hynny wrthym ni. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i barhau i graffu ar hyn. Rwy'n credu ei fod yn beth da ei fod yn ddiogel, ond eto mae llawer mwy i'w wneud. Rydych chi'n dweud bod yr adolygiad yn annibynnol, ac, wrth gwrs, y mae'n annibynnol ar y gwasanaeth ambiwlans, ond mae'n dal i fod yn adolygiad gan y GIG, a tybed a fyddech chi'n ystyried cynnwys Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn darparu rhywfaint o sicrwydd allanol hefyd.
Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, gyda'i rhaglen eu hun, yn penderfynu'n rheolaidd beth i'w ystyried o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus, ac nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i Swyddfa Archwilio Cymru ddangos mwy o ddiddordeb yn ein sefyllfa bresennol ni. Rwy'n siŵr, ar ryw adeg, y byddan nhw eisiau gwneud hynny, pan fyddan nhw wedi penderfynu, yn ei barn nhw fod yr amser yn briodol.
O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â beth yr ydym ni'n ei wneud ynghylch capasiti, yn rhannol mae hynny'n mynd yn ôl at y sylwadau a wnaed gyda Angela Burns ynglŷn â chael y capasiti cywir mewn gwahanol rannau o'r system, pa un ai'r ganolfan gyswllt leol neu nifer y staff sydd gennym yn gweithio, ar y sifft, ar yr adeg gywir, a'r gwahanol frigau a phantiau o ran galw sy'n gymharol ragweladwy drwy gydol y flwyddyn hefyd. Ac rwy'n disgwyl adrodd am fwy na hynny, fe welwch yn y dangosyddion ansawdd chwarterol ambiwlans amrywiaeth o wybodaeth ynghylch sut yr ydym ni'n gallu ateb y galw drwy gydol y flwyddyn gyfan. Er enghraifft, yn yr adran oren rydym ni'n cyhoeddi gwybodaeth bob chwarter am ymateb cyfartalog ar y pumed ganradd a thrigain a'r bymthegfed ganradd a phedwar ugain, felly gallwch ddweud faint o amseroedd aros hir sydd o fewn y system; a gallwch ddweud lle maen nhw mewn gwahanol rannau o'r system fesul Bwrdd Iechyd hefyd.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud y gaeaf hwn ar unwaith hefyd yw ceisio cael yr hyn y cyfeirir atynt fel archwiliadau lles. Yr her yn y fan yna yw pa un a yw pobl yn galw yn ôl i wirio, os oes rhywun yn dal i aros, sut y maen nhw, oherwydd bod pobl yn aml yn adrodd yn ôl pan fo dirywiad eisoes wedi digwydd a hynny beth amser yn ôl. Mae pobl yn aml yn aros cyn galw'n ôl a dweud, 'Mae'r person hwn yn waeth o lawer', ac felly mewn gwirionedd mae rhywbeth ynghylch gallu galw'r person yn ôl a dweud, ' Dyma'r sefyllfa. A oes unrhyw newid yn y cyflwr?' Mae hynny'n mynd yn ôl at alwad gan rywun yn y ganolfan gyswllt, neu'r clinigwr yn eu ffonio nhw'n ôl, i weld a ddylid newid categori eu galwad. Nid ceisio datrys y system yw'r bwriad. Fe wneir hyn os oes gwybodaeth ychwanegol yn dangos bod cyflwr y person hwnnw wedi newid, a dyna'r peth iawn i'w wneud. Felly, fe wnawn ni wneud yn siŵr y gaeaf hwn y bydd y galwadau lles hynny yn cael eu gwneud drwy'r gaeaf, pan fydd eu hangen.
Ynghylch eich pwynt o ran ba un a yw amseroedd aros hir yn achosi niwed, mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod ei fod yn her ynghylch profiad cleifion; yr ydych yn gywir i nodi hynny. Ond mae'r berthynas rhwng niwed yn gymhleth ac ansicr. Dyna pam y mae angen mwy o waith, oherwydd dywed rhesymeg, ar gyfer rhai cyflyrau, os arhoswch chi am gyfnod hir, gallai hyn achosi niwed, neu efallai bydd y cyflwr yn gwaethygu. Mae angen inni ddeall hynny'n well, i ddeall a oes angen i ni newid unrhyw beth yn y system i gyfarfod a deall pobl â'r cyflyrau hynny'n iawn.
Felly, mae tystiolaeth wedi ein harwain at y pwynt hwn. Mae'r dystiolaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd wedi arwain at argymhellion y byddwn yn eu gweithredu, ac rwy'n sicr y cawn ni ragor o dystiolaeth yn y dyfodol yn sgil y cwestiynau sydd heb eu hateb a ysgogwyd gan yr adolygiad. Felly, rydym ni'n gwbl agored ynghylch ein sefyllfa, ac fel y dywedaf, nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i Swyddfa Archwilio Cymru ychwanegu ei barn ynghylch pa mor lwyddiannus neu aflwyddiannus y buom ni o ran creu gwasanaeth ambiwlans gwell yma yng Nghymru.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Symud at y model clinigol ar gyfer ymateb ambiwlans oedd un o'r newidiadau pwysicaf a wnaed i ofal heb ei drefnu. Roedd sicrhau bod cleifion yn cael yr ymateb iawn yn seiliedig ar eu hangen hefyd yn cyflymu amseroedd ymateb ar gyfer y cleifion mwyaf agored i niwed.
Yn anffodus, mae ffactorau eraill wedi llesteirio gallu gwasanaeth ambiwlans Cymru i ymdrin â'r nifer fawr o alwadau a geir nad ydynt yn achosion pan fo bywyd mewn perygl ar unwaith. Cafodd gwasanaeth ambiwlans Cymru bron i hanner miliwn o alwadau y llynedd—tua 1,300 o alwadau bob dydd—y mwyafrif helaeth ohonyn nhw'n alwadau oren. Cymerwyd mwy na 30 munud i ymateb i bron i 50 y cant o'r galwadau oren hynny. Cymerodd rai ymatebion rai oriau. Rydym ni'n colli miloedd o oriau bob mis oherwydd oedi wrth drosglwyddo cleifion yn yr ysbyty. Yn ôl y dangosyddion ansawdd ambiwlans diweddaraf, mae hyn tua 4,000 o oriau ar gyfartaledd bob mis.
Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad a wnaethoch chi o'r effaith mae toriadau i nifer gwelyau'r BILl yn ei gael ar wasanaeth ambiwlans Cymru? Mae'r rhan fwyaf o'n hysbytai bellach yn gweithredu ar gapasiti gwelyau o tua 90 y cant. A ydych chi'n ystyried hyn yn lefel diogel neu a fyddwch chi'n gwrthwynebu rhagor o doriadau yn nifer y gwelyau?
Treth arall ar adnoddau yw'r galwadau niferus gan yr un galwyr mynych, sef rhwng 6 y cant i 7 y cant o'r holl alwadau misol. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau nifer y bobl sy'n ffonio'n aml?
Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn recriwtio mwy o nyrsys a pharafeddygon i ddarparu cyngor clinigol dros y ffôn, er mwyn helpu i reoli'r galw. A yw hyn yn ychwanegol at y gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth 111, ac a wnewch chi amlinellu sut y mae cyflwyno'r gwasanaeth 111 yn mynd rhagddo? Sut bydd hyn yn ategu gwasanaeth ambiwlans Cymru?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae nifer fawr o alwadau i'r gwasanaeth ambiwlans bob mis yn ymwneud â phroblemau deintyddol, a materion deintyddol yw'r rheswm mwyaf dros alwadau i Galw Iechyd Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda rhai cleifion yn wynebu taith o 90 milltir i weld deintydd y GIG a channoedd o bobl yn barod i aros am bum awr i gofrestru gyda deintydd y GIG, mae'n amlwg bod prinder yn cael effaith ar y GIG yn gyffredinol. Felly, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw prinder staff mewn un maes o'r GIG yn arwain at gynnydd yn y galw ar wasanaethau gofal heb ei drefnu, yn enwedig gwasanaeth ambiwlans Cymru?
Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn rhan hanfodol o'r GIG, ac rwy'n gobeithio y bydd gweithredu argymhellion y tîm adolygu oren yn arwain at fwy o welliannau i gleifion a staff. Mae pobl Cymru'n cefnogi'r dull o weithredu sy'n darparu'r ymateb gorau, hyd yn oed os nad hwnnw yw'r cyflymaf. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu ein bod yn gadael cleifion i aros am oriau mewn poen. Rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad oren yn cyflawni gwelliannau tebyg i'r rhai a welsom ni gydag ymatebion galwadau coch. Diolch.
Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau, ac rwy'n croesawu'r ganmoliaeth a chydnabyddiaeth ar gyfer y model a'r cynnig i roi hynny ar waith. Nid oedd hwnnw'n benderfyniad syml nac o reidrwydd yn un poblogaidd ar y pryd.
Fe geisiaf ymdrin yn eu tro, rwy'n credu, â'r pedwar maes y cyfeiriasoch chi atyn nhw ar doriadau i nifer y gwelyau a'r gwasanaeth ambiwlans. Nid wyf i'n credu mai nifer y gwelyau mewn gwirionedd yw'r her i'r ambiwlansys o ran pam maen nhw'n treulio gormod o amser y tu allan i ysbytai pan fo angen rhyddhau cleifion. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r llif drwy ein system gyfan. Mae'n broblem i'r system gyfan. Ac, mewn gwirionedd, rydym ni'n gwybod y bydd datgloi llif mewn perthynas well â rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd a pherthynas well â gwasanaeth gofal cymdeithasol yn sicrhau canlyniadau ledled y system. Dyna pam, mewn gwirionedd, mae'r Gweinidog a minnau yn rhoi arian i bartneriaeth rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, i geisio gwneud yn siŵr bod iechyd yn cydnabod ei fod er ei les hefyd i weithio gyda llywodraeth leol i wneud hynny ac nid trosglwyddo'r cyfrifoldeb rhwng y ddau yn unig, yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd yn cymryd rheolaeth a pherchnogaeth dros yr hyn y gallai ac y dylai ei wneud i weld llif drwy'r system gyfan.
Ynghylch eich pwynt am alwyr mynych, ceir dau bwynt yn y fan yma. Mae un am unigolion. Gwnaed llawer o waith ar amrywiaeth o ddyfarniadau GIG Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf ynghylch galwyr mynych. Yn aml, nid ydyn nhw angen ymateb ambiwlans brys, angen gofal iechyd gwahanol sydd arnyn nhw. Felly, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru, ynghyd â rhannau gwahanol o'r gwasanaeth iechyd ac, weithiau, llywodraeth leol a phartneriaid a'r trydydd sector hefyd, wedi mynd at yr unigolion hynny a thrafod eu hanghenion, hyd yn oed os yw'n glir nad gwasanaeth ambiwlans argyfwng yw hynny.
Rydym ni mewn gwirionedd wedi gweld gostyngiad yn y nifer o alwyr mynych dros y ddwy flynedd diwethaf. Ni ddigwyddodd hynny yn sgil cyfarwyddeb weinidogol, ond oherwydd ein bod wedi cael mwy o graffu ar ein ffigurau ni, mwy o wybodaeth, ac mae ein staff wedi dewis ymdrin â hynny oherwydd y maen nhw'n cydnabod ei fod er eu lles nhw a'u swyddi, ac er lles hefyd yr unigolion a'u hanghenion gofal iechyd.
Ail ran mater y galwyr mynych yw rhai cartrefi gofal. Ceir her yn y fan yma, oherwydd bod rhai cartrefi gofal yn llawer mwy tebygol o alw nag eraill. Yn aml, mae'n ymateb i godwm, pobl heb eu hanafu ond staff yn gwrthod ymgymryd â chodi'r unigolyn. Felly, dyna yn rhannol pam yr ydym ni'n buddsoddi mewn cynllun treialu gwasanaeth codi. Mae gennyf i a'r Ysgrifennydd dros lywodraeth leol ychydig o waith i'w wneud ynghylch swyddogaeth y gwasanaeth tân ac achub hefyd, fel ateb posibl ar gyfer gwasanaeth codi. Dyna pam hefyd, yn fy natganiad, y cyfeiriais at glustogau codi, oherwydd y mae'n rhaid inni leihau'r lefel o alwadau diangen a ddaw o gartrefi gofal. Maen nhw'n rhan o her y galwyr mynych a wynebwn ni.
O ran 111, cafodd ei gyflwyno'n llwyddiannus. Rwy'n fodlon iawn ar y ffordd y digwyddodd pethau ym Mhowys yn ogystal â'r pwynt cyswllt nesaf. Rydym ni'n gweld, o amgylch y wlad, gwasanaeth llwyddiannus yn cael ei gyflwyno, ac mae'n cael ei redeg a'i weinyddu drwy Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Nhw mewn gwirionedd sy'n rhedeg y ganolfan alwadau ar ei gyfer, ond y mae mewn partneriaeth â phob un o'r byrddau iechyd yn gyffredinol. Felly, yr wyf yn fodlon ei bod yn stori newyddion da i Gymru. Rydym ni'n cyflwyno gwasanaeth llwyddiannus ar y cyflymder iawn mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Yn olaf, ein gwasanaethau deintyddol, nid wyf i am ymdrin â'r cwestiwn yn iawn heddiw oherwydd bydd cyfle gennyf yn ystod yr wythnosau nesaf i gyflwyno datganiad gwahanol ar wasanaethau deintyddol a diwygio yng Nghymru.
Yn olaf, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fe wnaethoch chi sôn am wasanaethau tân ac achub. Tybed a allech chi roi ryw syniad inni o'ch meddylfryd ynglŷn â swyddogaeth cyd-ymatebwyr o ran ymateb i alwadau oren. Byddwch yn ymwybodol, yn amlwg, o'r gwasanaeth maen nhw'n ei darparu. Rydych chi wedi crybwyll effeithiau poen ac ati ar alwad oren, ond maen nhw hefyd mewn sefyllfa dda iawn i sylwi pan allai galwad oren droi yn alwad categori coch. Rwyf wedi sôn am enghreifftiau yn y Siambr cyn hyn ble gellir dadlau bod presenoldeb ac absenoldeb cyd-ymatebwyr, mewn gwirionedd, wedi golygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth ar alwadau oren. A allwch chi roi sicrwydd imi yn awr na wneir unrhyw beth i gyfyngu ar swyddogaeth cyd-ymatebwyr i alwadau coch yn unig, ac y gall eich term 'yr ymateb mwyaf addas' gynnwys cyd-ymatebwyr yn ymateb i rai galwadau oren i'w atal rhag troi'n goch ac, yn amlwg, i atal yr holl boen a'r dioddefaint yna, ac, mewn rhai achosion, y perygl sy'n gallu codi pan fo galwad oren yn troi'n goch? Diolch.
Gallaf roi sicrwydd ichi mai os cyd-ymatebwyr yw'r ymateb priodol, yna dyna beth ddylai ddigwydd. Dylai hynny fod yn fater o farn glinigol ynghylch yr ymateb cywir, yn hytrach nag yn unrhyw fath o gyfarwyddyd gan fy hun neu bennaeth y gwasanaeth i beidio â defnyddio cyd-ymatebwyr os mai nhw yw'r adnoddau cywir ar gyfer y person cywir ar yr adeg honno.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.