Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Rwyf i hefyd, yn croesawu'r datganiad ac, yn wir, yr adroddiad, sy'n gloddfa o wybodaeth, y byddwn rwy'n siŵr, ar ôl ei ystyried yn llawn, yn ei gael yn ddefnyddiol mewn sawl ffordd.
Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywed yr Ysgrifennydd Iechyd am dargedau, ond rwy'n credu y dylem ni gydnabod, heb fethiant trawiadol y Llywodraeth i gyflawni'r targedau a osododd hi ar ei chyfer ei hun, mae'n annhebygol y byddem ni wedi cael yr adroddiad hwn yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid inni barhau i gael targedau, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i'r targedau hynny fod yn dargedau ystyrlon. Mae hwnnw'n bwynt na ellir dadlau yn ei erbyn ac yn sicr nid oes angen targedau camarweiniol arnom ni. Serch hynny, rwy'n pryderu ynghylch tudalen yn yr adroddiad—tudalen 23—sydd mewn gwirionedd yn ceisio wfftio targedau, rwy'n credu os edrychwch chi arni'n ofalus. Dywed, er enghraifft:
'Mae gwerth amser ymateb fel mesur o effaith ac ansawdd gofal gwasanaeth ambiwlans yn … amheus'
'os yw gwasanaethau iechyd â'u holl fryd ar gyflawni targedau, yna mae gwir brofiad y claf yn eilaidd', ac amryw o ymadroddion eraill o'r fath. Rwy'n credu wrth gwrs, bod y cyhoedd yn gyffredinol, eisiau i wasanaethau ambiwlans gael eu darparu cyn gynted â phosibl, ac mae methu â gwneud hynny'n achosi straen anorfod, ac mae'r straen hwn yn cael effaith wrth gwrs, ar staff ambiwlans eu hunain, sy'n ceisio rhoi'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd.
Mae llawer o hyn efallai y tu hwnt i reolaeth yr Ysgrifennydd Iechyd hyd yn oed. Fe wyddom ni i gyd am broblemau anghenion y gwasanaeth iechyd o ran bod mwy o alw na'r hyn y gellir ei gyflenwi, a fydd yno o hyd. Ond fe hoffwn i'r Ysgrifennydd Iechyd roi sicrwydd inni, oherwydd bod y Llywodraeth wedi methu'n gyson â chyflawni llawer o'r targedau, ac weithiau'n methu eu cyflawni o bell ffordd, sy'n cael ei amlygu a'i ddarlunio yn yr adroddiad ei hun—ac, yn wir, dywed yr Ysgrifennydd Iechyd yn ei ddatganiad ei hun bod amser canolrif ymateb ar gyfer galwadau oren wedi cynyddu ar gyfartaledd o saith munud yn ystod y cyfnod adolygu ei hun—. Mae hyn yn newyddion annerbyniol iawn, ond mae bodolaeth targedau yn hanfodol os cânt eu defnyddio'n iawn, nid yn unig fel ffon i guro rheolwyr, ond fel offeryn i wella'r gwasanaeth, ac maen nhw'n hanfodol i sicrhau'r canlyniad y mae pawb yn y lle hwn am ei weld, sef gwell gofal iechyd i gymaint o bobl â phosibl. Ac, os gallwn ni sgwario'r cylch hwnnw, yn amlwg, mae hynny'n mynd i effeithio ar gyfraddau salwch staff hefyd. Rwy'n credu bod cyfradd salwch staff o 7 y cant yn gondemniad, ar un ystyr, nid o reidrwydd condemniad ar y Llywodraeth, ond anallu'r wlad mewn gwirionedd i gynnal dadl iawn ynglŷn â'r arian y dylid ei roi i'r gwasanaeth iechyd a'r ffordd y gellir gwneud hynny er mwyn cael y canlyniadau mwyaf effeithiol. Ond, yn y pen draw, yr ydym ni i gyd yn ceisio cyflawni'r un amcan, ond mae'n rhaid inni gael y wybodaeth gywir er mwyn gwneud y penderfyniadau gwleidyddol angenrheidiol ynghylch dyrannu adnoddau a sut i'w rheoli nhw, sydd yn hanfodol er mwyn cael gwasanaeth iechyd llwyddiannus yng Nghymru.