Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Rydym yn ymwybodol bod rhai cyn-filwyr yn cael trafferth i gael tai i fyw ynddyn nhw. Felly, i ategu ein llwybr cyfeirio tai, rydym wedi datblygu cardiau cyngor a thaflenni ar gyfer cyn-filwyr sydd yn anffodus yn cysgu ar y stryd. Mae'r rhain yn cynnwys manylion cyswllt porth y cyn-filwyr, sy'n cynnig pwynt cyswllt pwysig wrth geisio am dŷ, yn ogystal â'r ystod eang o wasanaethau eraill sydd ar gael.
Roeddwn wrth fy modd o glywed am brosiect Tŷ Ryan yn Wrecsam, a'r gwaith da a wneir gan brosiect hunan-adeiladu'r cyn-filwyr. Mae hwn yn cefnogi cyn-filwyr i ennill sgiliau adeiladu gwerthfawr a lle i fyw yn un o'r tai y maen nhw eu hunain wedi helpu i'w adeiladu. Mae cael eich cartref eich hun yn hanfodol ar gyfer eich lles ac wrth sicrhau cyflogaeth, ac am gynifer o resymau ymarferol yn ogystal â'n lles cyffredinol.
Pan fo cyn-aelodau'r lluoedd arfog yn dod gerbron y system cyfiawnder troseddol, mae angen rhoi cefnogaeth iddyn nhw a rhoi pob cyfle iddyn nhw adsefydlu. Mae prosiect SToMP neu Cefnogaeth gyda Phontio i Bersonél Milwrol yn sicrhau bod y rheini sydd yn y ddalfa yn cael cymorth arbenigol yn ystod eu carcharu ac wrth eu rhyddhau. Gall cyn-filwyr fod ag anghenion cymhleth, ac mae prosiectau fel hyn yn sicrhau bod yr anghenion hyn yn cael eu nodi a'u darparu ar eu cyfer. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r tîm wedi gweithredu eu llwybr system gyfan ledled holl garchardai Cymru, lle'r anogir cyn-filwyr i wella eu haddysg a dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr i'w helpu i addasu i fywyd sifil.
Y llynedd, llwyddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gael cyllid y cyfamod i benodi swyddogion cyswllt lluoedd arfog i ddarparu cymorth cyson i gyn-filwyr a'u teuluoedd ledled yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru. Rwyf wedi clywed yn uniongyrchol am y gwaith gwerthfawr y maen nhw'n ei wneud, fel trefnu diwrnod i gael cipolwg ar y byd adeiladu, a oedd yn rhoi cyfle i filwyr sy'n gadael gwasanaeth a chyn-filwyr gwrdd â chyflogwyr yn y sector adeiladu a pheirianneg sifil.
Mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog hefyd wedi rhoi canllawiau'r cyfamod ar waith drwy'r rhan fwyaf o'r awdurdodau lleol yng Nghymru. Arweiniodd hyn at godi ymwybyddiaeth a hyfforddiant i staff fel y gallant nodi a rhoi sylw i anghenion y gymuned hon, gan gynnwys adolygu polisïau tai a chymorth a chyngor ar gyflogaeth, camddefnyddio sylweddau ac addysg. Ar draws awdurdodau lleol y gogledd, mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog wedi datblygu gwefan ranbarthol a fydd yn cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd am waith gwirfoddol, digwyddiadau cymunedol a chymorth gyda defnyddio gwasanaethau. Bydd y mentrau hyn yn helpu'r gymuned hon o ran ei hiechyd a'i lles, ond hefyd yn cefnogi aelodau'r gymuned trwy amseroedd anodd yn eu bywydau.
Dirprwy Lywydd, roedd y cyllid hwn i fod dod i ben yn 2019, ond rwy'n awyddus iawn i'r gwaith da barhau. Dyna pam yr wyf i heddiw yn cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith am ddwy flynedd ymhellach o 2019 gyda phecyn ariannu o £500,000. Dylai hyn ganiatáu i'r gwasanaethau a gaiff y gymuned o gyn-filwyr i gael eu hymgorffori mewn cymorth prif ffrwd gan awdurdodau lleol yn y blynyddoedd i ddod.
Rwy'n hynod falch o ddweud bod Cymru wedi gwneud yn well na'r disgwyl o ran sicrhau arian y cyfamod: cafodd £1.37 miliwn ei ddyfarnu i brosiectau yng Nghymru yn ystod 2017-18, gan ddarparu cyfle inni adeiladu ar y gwasanaethau a roddwn i gymuned ein lluoedd arfog. Ddoe, roeddwn yn bresennol mewn cyfarfod o fwrdd cyfamod a chyn-filwyr gweinidogol y DU, lle cytunodd holl wledydd y Deyrnas Unedig ar strategaeth newydd ar gyfer cyn-filwyr. Yng Nghymru, byddwn yn cyflwyno strategaeth newydd pan fyddwn wedi cwblhau'r ymarfer cwmpasu presennol i nodi bylchau mewn gwasanaethau. Bydd canfyddiadau'r adroddiad hwn ar gael yn y gwanwyn.
Gan gydnabod bod gan gyflogaeth ran ganolog yn y pontio llwyddiannus i fywyd sifil, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i ddatblygu llwybr cyflogaeth. I ategu'r llwybr, rydym yn gweithio hefyd gyda Busnes yn y Gymuned i ddatblygu pecyn cymorth i gyflogwyr. Cynlluniwyd y pecyn cymorth i gyflogwyr i'w helpu i ddeall y sgiliau a'r priodoleddau y gall cyn-filwyr eu cynnig i ddarpar gyflogwyr. Bydd y dogfennau pwysig hyn yn llywio ac yn cyflwyno dewisiadau i filwyr sy'n gadael y lluoedd arfog a chyn-filwyr i gael gwaith ystyrlon. Hoffwn gymryd y cyfle heddiw i gyhoeddi y bydd y llwybr cyflogaeth yn cael ei lansio yn yr ychydig ddyddiau nesaf, a chadarnhau y byddwn yn lansio pecyn cymorth y cyflogwyr cyn toriad y Nadolig.
Yn y gwanwyn, bydd y Llywodraeth hon hefyd yn darparu adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wnaed yn cyflawni ein hymrwymiadau ar gyfer y gymuned hon. Rwy'n gobeithio y bydd gwaith y Llywodraeth hon wedi rhoi hyder i'r Aelodau ein bod yn cefnogi cymuned y cyn-filwyr. Rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen, ond mae'n amlwg fod yna lawer mwy i'w wneud eto. Rwy'n siŵr y byddwn ni, gan weithio ar y cyd â'n partneriaid a Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, yn parhau i wneud gwahaniaeth i'r gymuned hon. Hoffwn orffen y datganiad hwn gan ailadrodd yn syml eiriau'r Lleng Brydeinig Frenhinol: diolch i chi.