Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Wel, fel y dywedwch chi, ni ddylem byth anghofio'r aberth a wnaed yn y rhyfel mawr 1914-18 a'r gwrthdrawiadau sydd wedi bod ar ôl hynny. Roeddech chi'n cyfeirio at y Falklands, gan sôn am Bluff Cove. A gaf i roi teyrnged, ac a fyddech chi'n ymuno â mi i roi teyrnged, i Dr Steven Hughes, sef swyddog meddygol catrodol gydag ail fataliwn y gatrawd barasiwtwyr yn ystod y Falklands? Ef oedd yr un a gerddodd trwy'r dyfroedd oer yn Bluff Cove gyda grŵp o wirfoddolwyr i achub bywydau llawer iawn ar y diwrnod ofnadwy, ofnadwy hwnnw. Yn drist iawn, bu farw ym mis Mai eleni. Cafodd ef ei hun ddiagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma milwrol ryw 12 mlynedd wedi'r gwrthdaro hwnnw. Cefais y pleser a'r fraint o gydweithio ag ef yn ystod yr ymgyrch aflwyddiannus hwnnw, yn anffodus, i brofi bod angen seibiant preswyl a darpariaeth adsefydlu ar gyn-filwyr â phroblemau iechyd meddwl milwrol cymhleth a phroblemau eraill cysylltiedig yng Nghymru. Rwy'n gwybod fy mod i wedi eich holi chi eto'r llynedd am safbwynt cyfredol Llywodraeth Cymru ar adolygu'r angen hwnnw am ddarpariaeth breswyl. Tybed a fyddai modd ichi ddweud wrthym pa waith sydd o bosibl wedi dilyn ers hynny, leiaf oll er cof am Dr Steven Hughes, a oedd yn feddyg ac yn filwr a oedd yn deall yn iawn pa mor enbyd o fawr oedd yr angen hwnnw yng Nghymru a thu hwnt.
Rydych yn cyfeirio at GIG Cymru i Gyn-filwyr, ac rydych yn sôn am swm o £700,000. Rwy'n deall bod GIG Cymru i Gyn-filwyr yn lleihau rhestrau aros ar hyn o bryd, ond mae'n ddibynnol ar gyllid trydydd sector i wneud hynny. Pa ddeialog yr ydych yn ei chael gyda GIG Cymru i Gyn-filwyr i roi cyllid cynaliadwy ar waith i sicrhau y bydd y gostyngiad hwnnw mewn rhestrau aros yn parhau i'r dyfodol yn hytrach nag yn dod i ben pan fydd yr ariannu trydydd sector hwnnw'n dod i ben.
Roeddech chi'n cyfeirio hefyd at Newid Cam, ac roeddwn i'n gysylltiedig â hwnnw o'r cychwyn cyntaf. Siaradais yn ei lansiad ac rwy'n cydnabod y gwaith hanfodol y mae'n ei wneud. Mae Newid Cam hefyd yn ddibynnol ar gyllid trydydd sector. Unwaith eto, pa ddeialog yr ydych yn ei chael, o ystyried eich cydnabyddiaeth chi a'ch rhagflaenwyr o'r gwaith hollbwysig y maen nhw'n ei wneud wrth lenwi'r bylchau hynny na all y sector statudol eu llenwi, ar gyfer sicrhau eto gynaliadwyedd i'r rhaglen honno, o ystyried y profiad herciog a gafodd honno?
Rydych yn cyfeirio at y cronfeydd pwrpasol o £250,000 ar gyfer plant aelodau'r lluoedd arfog. Sut ydych chi'n ymateb i'r pryder bod hwnnw o hyd yn llai na'r swm a fyddai ar gael pe byddai premiwm disgybl lluoedd arfog, sydd ar gael yn Lloegr ac yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn sgil symiau canlyniadol Barnett, ar gael mewn gwirionedd i ddarparu premiwm disgybl lluoedd arfog yn ysgolion Cymru, fel y mae dros y ffin?
Rydych yn cyfeirio at dai, ac rydych yn cydnabod y prosiect hunan-adeiladu yn Nhŷ Ryan yn Wrecsam yn gwbl briodol. Pa ymgysylltu sydd rhyngoch chi yn arbennig â Chymdeithas Dai Dewis Cyntaf ac Alabaré, sydd nid yn unig wedi cefnogi'r prosiect hwnnw ond sydd, unwaith eto, yn gwneud gwaith ardderchog yn darparu tai penodedig i gyn-filwyr mewn mannau yng Nghymru, a thrwy Alabaré, yn aml wedyn yn darparu cymorth iechyd a chymdeithasol yn fwy eang, er mai swyddogion tai yn unig yw ei swyddogion?
Roeddech yn cyfeirio at y Cynllun Cefnogaeth ym Mhontio Personél Milwrol neu SToMP, sy'n gweithio gyda chyn-filwyr mewn carchardai i wella addysg a rhoi'r sgiliau iddyn nhw er mwyn addasu i fywyd sifil. Pa werthusiad o ganlyniadau sydd wedi bod neu a gynhelir fel y gallwn, fel yn achos pob rhaglen effeithiol arall, ddysgu beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd angen ei wneud yn wahanol?
Roeddech yn cyfeirio at gyllid cyfamod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, ac rydych wedi sôn am ddwy flynedd ychwanegol o arian gan Lywodraeth Cymru pan ddaw'r cyllid presennol i ben. Fel y gwyddoch, y llynedd, cynhyrchodd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid adroddiad ar gyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru a'i weithrediad. Roedd hwn yn cynnwys argymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn ystyried penodi Comisiynydd Lluoedd Arfog ar gyfer Cymru er mwyn gwella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus wrth gyflenwi'r cyfamod, a byddai hynny wedi gofyn am gyhoeddi adroddiad blynyddol i'w osod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar ymlyniad at y cyfamod. Cafodd hyn ei gynnig a'i gefnogi gan gymuned y lluoedd arfog a phenaethiaid y lluoedd arfog. Felly, er fy mod yn cydnabod y gwaith pwysig a gwerthfawr y mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn ei wneud ac yn gallu ei wneud, sut fyddwch chi'n llenwi'r bwlch rhwng yr angen i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad, yn genedlaethol, a sicrhau atebolrwydd sefydliadau yn y sector cyhoeddus i'r cyfamod ledled Cymru?
Ac yn olaf, rydych yn cyfeirio at y llwybr cyflogaeth. Unwaith eto, rydych wedi cyfeirio at hyn yn eich datganiad y llynedd ac yn y flwyddyn cyn hynny; cyfeiriodd eich rhagflaenydd at hyn hefyd. Rydych yn dweud nawr ei fod ar fin cael ei lansio, felly mae hir ddisgwyl wedi bod amdano—a gadewch inni obeithio y bydd yn werth yr holl aros. Ond a wnewch chi gadarnhau sut y lluniwyd gweithrediad a chyflawniad hwnnw gyda chyrff y trydydd sector mewn gwirionedd, yr ydych chi'n iawn i'w canmol nhw, ac eraill, ac â'r sefydliadau busnes a chyflogaeth, gan gynnwys o bosibl rai fel Remploy y bydd yn rhaid iddyn nhw gefnogi a chydweithio â'r bobl wrth iddyn nhw deithio ar hyd y llwybr y byddwch yn ei gyhoeddi'n fuan? Diolch.