Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 6 Tachwedd 2018.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad cynhwysfawr heddiw? Ddydd Sul, ledled Cymru a gweddill y DU, bydd aelodau ein lluoedd arfog, cyn-filwyr a llawer o sefydliadau, ynghyd â'r cyhoedd, yn dod at ei gilydd i anrhydeddu'r rhai a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu'r wlad hon. Y flwyddyn hon yw canmlwyddiant tawelu'r gynau ar ddiwedd y rhyfel byd cyntaf ac mae hynny'n ei gwneud yn amser arbennig o deimladwy. Ond mae'n werth nodi, ers diwedd yr ail ryfel byd, mai dim ond un flwyddyn a fu, sef 1968, pan nad oedd ein lluoedd arfog yn cymryd rhan mewn gwrthdrawiad arfog rywle yn y byd.
Mae'r ŵyl i goffáu trueiniaid rhyfel yn goffadwriaeth barchus a chymwys iawn, ond yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, mae gennym ddynion a menywod sy'n gadael y lluoedd arfog ac wedyn yn cael anhawster mawr i addasu i'r hyn sydd bellach iddyn nhw yn amgylchedd dieithr. Ar ôl gadael, maen nhw'n tueddu i golli'r ddisgyblaeth, y gwerthoedd cyffredin a'r ymdeimlad o berthyn sy'n bodoli yn y lluoedd. Mae cydnabod ac ymdrin â hyn yn mynd y tu hwnt i adsefydliad syml. Mae'n ymwneud â chreu rhwydwaith o gymorth parhaus. Ni ddylai'r lluoedd orfod ymdrin â hynny ar eu pennau eu hunain. Mae'n ddyletswydd i'r Llywodraeth, yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru hefyd, i sicrhau bod mesurau, sefydliadau a seilwaith ar waith i helpu i hwyluso'r broses orau posibl o bontio ar gyfer yr aelodau hynny o'r lluoedd arfog, os ydyn nhw wedi cael niwed corfforol neu feddyliol neu beidio, i fywyd sifil.
Un o elfennau pwysicaf yr addasu hwn fydd y cyfle i gael gwaith. Drwy gyflogaeth, daw hunan barch ac ymdeimlad o gyflawni ac o berthyn. Mae'n ddyletswydd ar y ddwy Lywodraeth i sicrhau bod y cyfleoedd iawn yn cael eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr bod pob un o gyn-aelodau ein lluoedd arfog yn gallu ymgysylltu â bywyd sifil eto. Mae'n braf gweld bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r mater hanfodol hwn drwy'r llwybr cyflogaeth a gweithio gyda'r gymuned fusnes i ddatblygu pecyn cymorth cyflogwyr. Ar hyn o bryd rwy'n adleisio galwad Mark Isherwood am gomisiynydd lluoedd arfog a fyddai'n goruchwylio'r holl ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid inni gydnabod, yn eu rhoi ar waith mewn gwirionedd.
I gloi, Dirprwy Lywydd, mae gan bob un ohonom ddyled enfawr i'n lluoedd arfog, yn sgil y ddau ryfel mawr, ond hefyd yn sgil y gwrthdrawiadau y maen nhw wedi mynd i'r afael â nhw oddi ar hynny. Nid yw'n ddigon inni gofio a chydnabod eu haberth yn syml. Mae'n rhaid dal ati i gefnogi'r sefydliadau hynny sy'n darparu ar eu cyfer pan fydd dyddiau eu gwasanaeth wedi dod i ben.