Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Rwy’n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei eiriau hefyd. Rydw i'n credu ei fod e, fel minnau, yr un fath o oedran lle rydym ni yn cofio siarad ag aelodau’r teulu ac aelodau’r gymuned a oedd wedi ymladd yn y rhyfel cyntaf. Mae gen i gof o siarad ag aelodau o’r teulu, a gweld pobl yr oeddwn i’n meddwl ar y pryd oedd yn hen iawn—siŵr o fod yn eu 50au; yr un oedran a finnau nawr—pan oeddwn i’n blentyn yn Nhredegar, a oedd wedi brwydro yn y rhyfel cyntaf, a’r impact roedd hynny wedi ei gael, reit drwy gydol eu bywydau nhw. Mae’n rhywbeth y mae’n rhaid inni i gyd ei ystyried pan fyddwn ni’n cofio digwyddiadau ganrif yn ôl. Ac fel rydych chi wedi ei ddweud wrth orffen eich cyfraniad, diolch i Dduw na fydd rhaid i’n plant ymladd yn ein cyfandir ein hunain yn y ffordd buodd pobl yn arfer gwneud dros y blynyddoedd. Rydw i'n credu bod pob un ohonom ni, pan fyddwn ni’n cofio’r aberth a wnaeth lot fawr o bobl, yn meddwl beth allwn ni ei wneud i sicrhau nad ydym ni jest yn cofio ein hanes ni, ond ein bod ni’n sicrhau nad ydym ni’n ail-fyw’r hanes yn y dyfodol. Rydw i'n credu bod hynny’n wers i bob un ohonom ni.
Mae’r Aelod, Dirprwy Lywydd, wedi gofyn cwestiwn pwysig iawn hefyd, amboutu sut rydym ni’n rhannu data. Mae hyn yn rhywbeth rydym ni wedi bod yn ei drafod. Mae yna broject yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd lle rydym ni yn gweithio gyda’r adran iechyd yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod hyn y digwydd. Mae hyn wedi cael ei drafod ddwywaith yn y bwrdd roeddwn i’n rhan ohono fe ddoe, ac mae progress wedi cael ei wneud. Ond mae’r Aelod yn hollol gywir yn ei ddadansoddiad fod yna broblemau wedi bod o ran rhannu gwybodaeth a rhannu data. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ddatrys, ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydweithio ar hyn o bryd i sicrhau ein bod ni yn datrys y problemau yma.