Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Cyfaddawd arall sy'n mynd yn rhy bell yw gofal iechyd. Nid cyd-ddigwyddiad yw bod y ddau fwrdd iechyd sy'n gwasanaethu'r rhan fwyaf o'r Gymru wledig yn wynebu anawsterau mawr. Mae'r byrddau iechyd hyn wedi llywyddu dros brosesau ad-drefnu mawr dadleuol, sy'n anelu i ganoli gwasanaethau ac arbed arian. Fodd bynnag, yn aml anwybyddir barn y boblogaeth leol. Gallai fod yn fwy effeithlon yn economaidd i ganoli gwasanaethau mewn un neu ddau o ysbytai mawr, ond a yw'n sicrhau canlyniadau iechyd a lles i'r boblogaeth wledig? Yn bersonol, rwy'n rhyfeddu bob amser at y ffordd y mae gwledydd gwledig go iawn fel Awstralia yn gallu sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i ddarparu gwasanaethau ar draws miloedd o filltiroedd sgwâr. Eto, er gwaethaf cyllideb o £9 biliwn, ni all Llywodraeth Cymru ei wneud. Nid y canlyniadau'n unig sy'n peri pryder imi, ond y gallu i ddenu'r gweithlu priodol i gefnogi'r systemau gofal hyn, sydd mor bwysig mewn cymunedau gwledig. Er mwyn i bobl ddewis gweithio ym maes gofal iechyd mewn cymunedau gwledig, maent eisiau ysgolion lleol da ar gyfer eu plant a swydd weddus i aelodau eraill eu teuluoedd.
Felly, er bod addysg ac iechyd yn edafedd cwbl hanfodol ar gynfas bywyd cefn gwlad, economi cefn gwlad Cymru yw'r edefyn aur. Rhaid inni greu a chadw economi wledig ffyniannus a all gefnogi ein cymunedau. Daw'r ffyniant rydym yn ei geisio o amaethyddiaeth, twristiaeth, chwaraeon, y sector cyhoeddus ac amrywiaeth anhygoel o fusnesau mawr a bach. Boed yn siop bapur newydd leol yn Ninbych-y-pysgod, y cyflenwr matiau amaethyddol byd-eang yn Llanglydwen, y cwmni siocled sy'n tyfu'n gyflym yn Llanboidy, neu'r siop fwtîg arbenigol yn Arberth, maent hwy, a llawer o entrepreneuriaid eithriadol eraill ledled Cymru gyfan, yn cyfuno i greu cyfleoedd go iawn i economi wledig ffyniannus. A heb amheuaeth, yr ystof sy'n rhedeg drwy'r cyfan ar gynfas cefn gwlad yw ffermio. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn unedig yn ein dealltwriaeth o bwysigrwydd y diwydiant amaeth i economi Cymru, ond nid wyf yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn deall hynny. Oherwydd, heb ffermio wrth galon yr economi wledig, byddwn yn colli nid yn unig ffermydd, nid yn unig y genhedlaeth nesaf, nid yn unig y busnesau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth, ond byddwn yn colli'r amgylchedd, cefn gwlad sy'n denu twristiaid, ac yn olaf, byddwn colli'r bobl.
Mae'n briodol fod ffermwyr yn poeni ynglŷn â pha gymorth fydd ar gael pan ddaw'r taliad sengl i ben ac yn bersonol rwy'n pryderu'n fawr am yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir', gan fod yr ymgynghoriad hwn yn awgrymu y bydd ffermwyr yn dod yn ddim mwy na cheidwaid cefn gwlad, a chael eu gwobrwyo'n ariannol am fynd i'r afael â phroblemau megis ansawdd aer ac ansawdd dŵr gwael a'r risg o lifogydd, ond nid yw hyn yn cydnabod y rôl allweddol y maent eisoes yn ei chwarae, na'r modd ardderchog y maent yn gwarchod yr amgylchedd, neu'r ffaith mai ffocws craidd busnes ffermio yw cynhyrchu bwyd. Os nad ydym yn gweld gwerth ansawdd a llawnder ein hardaloedd gwledig ac yn mynd ati'n syml i wthio ffermwyr i ymgymryd â rôl rheoli tir, beth am yr holl fusnesau eraill sy'n dibynnu ar ffermwyr—y rhai sy'n cynhyrchu bwyd anifeiliaid, yn trwsio peiriannau, yn gwerthu cyflenwadau, yn brocera'r cynnyrch? Felly, Weinidog, rwy'n annog y Llywodraeth i wrando ar y 12,000 o ymatebion i ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'. Gallem fod yn newid natur ffermio am byth, ac ochr yn ochr â hynny, yn newid cefn gwlad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rhaid inni gofio effaith sector amaethyddol cryf ar ein heconomi wledig. Gwae i Lywodraeth Cymru anwybyddu'r ffaith bod amaethyddiaeth yn sail i ddiwydiant bwyd a diod sy'n werth biliynau lawer o bunnoedd ac sy'n cyflogi dros 222,000 o bobl, gan ei wneud yn gyflogwr mwyaf Cymru, sy'n werth dros £6.9 biliwn i'r economi. Felly, pam—drwy haerllugrwydd, esgeulustod, neu ddifaterwch—y mae'n ei ddinistrio? Ac os mai amaethyddiaeth yw'r ystof yn ein cynfas, busnesau yw'r gwald, ac mae busnesau gwledig yn ei chael hi'n anodd.
Yn y gyllideb yr wythnos diwethaf, cefnogodd Llywodraeth San Steffan y stryd fawr drwy dorri traean oddi ar ardrethi busnes am ddwy flynedd, ond rydym eto i glywed a roddir ystyriaeth i gymorth ar gyfer strydoedd mawr yng Nghymru. Mewn cymunedau gwledig, mae nifer yr ymwelwyr yn aml yn dymhorol, mae cyfraddau siopau gwag yn uchel, ac mae digonedd o siopau elusennol, mae mwy a mwy o siopau cadwyn yn ymddangos ar gyrion trefi, a phan fydd stryd fawr yn dechrau marw, mae'n anodd iawn gwrthdroi'r broses. Bellach mae gan Gymru ardrethi busnes uwch nag unman arall yn y DU, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod hyn yn gosod baich annheg ac andwyol ar fusnesau ledled Cymru ac yn bygwth lles economaidd llawer iawn o fusnesau. A'r strydoedd mawr hyn sy'n ategu un o asedau mwyaf y Gymru wledig: ein cefn gwlad eithriadol. Mae twristiaeth cyrchfannau yn gysyniad y mae Llywodraeth Cymru yn sôn cryn dipyn amdano: cael pobl i ddod i weld ein parciau cenedlaethol gwych, mawredd y moroedd sy'n torri ar ein tir, harddwch tawel mynyddoedd, bryniau a chymoedd y gefnwlad, perswadio pobl i seiclo, rhedeg, cerdded, rhwyfo a chrwydro—pobl sengl, cyplau, teuluoedd—ac ar ôl blino'n lân, neu wedi iddi lawio ar eich pen, gallwch anelu am y cestyll a'r eglwysi, y siopau a'r atyniadau, yr amgueddfeydd a'r bwytai.