– Senedd Cymru am 6:37 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel? Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Angela Burns i siarad ar y pwnc a ddewisodd—Angela.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Mohammad Asghar, Janet Finch-Saunders a Russell George.
Mae cefn gwlad Cymru nid yn unig yn gynfas ysgubol sy'n sail i'n cenedl ac yn diffinio ein ffiniau a'n hunaniaeth, mae hefyd yn gefndir i ffordd o fyw nad yw bob amser yn cael ei deall neu ei gwerthfawrogi fel y dylai. Eto mae'r Gymru wledig yn gartref i oddeutu 33 y cant o boblogaeth Cymru. Mae traean ohonom yn byw mewn trefi, pentrefi a chymunedau lle mae ein tirwedd yn bur wahanol i weddill Cymru, a lle rydym yn aml yn teimlo na roddir pwyslais haeddiannol ar ein cyfraniad gwerthfawr i gefnogi economi Cymru a'i threftadaeth ddiwylliannol a chymdeithasol gyfoethog.
Fel llawer o wledydd, mae Cymru'n gweld rhaniad rhwng ei chanolfannau trefol a'u cefnwledydd gwledig. Yn rhy aml, mae polisi Llywodraeth yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr y darperir ar gyfer y canolfannau trefol mawr ar draul siroedd gwledig mwy anghysbell a llai poblog Cymru. Ni ellir gweithredu polisïau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, addysg a thwf economaidd drwy ddull unffurf o weithredu, ac mae angen i'r Llywodraeth gofio bod y ffordd wledig o fyw, i lawer o bobl, yn golygu ymdrech i oroesi a gwaith caled ac nid y darlun cerdyn post, bywyd da sentimental y mae llawer o bobl eraill yn ei feddwl.
Mae pob un ohonom yn pwyso a mesur llawer o ffactorau wrth benderfynu ble i fyw ac mae'r rheini sydd eisiau byw mewn ardaloedd gwledig yn aml yn barod i gyfaddawdu, i dderbyn y gallai swyddi fod yn anos eu cael, y gallai gwasanaethau fod ychydig ymhellach i ffwrdd, y gallai'r ysgolion fod yn llai o faint, na fyddwn yn ennill cymaint nac yn cael cymaint o gyfleoedd i wario'r hyn a enillwn yn wir a bod ein ffordd o fyw yn costio ychydig bach mwy. Ond bellach mae Llywodraeth Cymru yn gofyn inni gyfaddawdu gormod. Er enghraifft, addysg: mae mynediad at ysgol bentref leol a'r gymuned a ddaw gyda hi yn rheswm allweddol i lawer o bobl dros ddewis byw lle maent yn byw ond o dan Lafur Cymru, rydym wedi gweld ysgolion yn cau a chymunedau'n chwalu; mae pentrefi wedi colli eu canolbwynt. Cefnogwyd y camau hyn gan Lywodraeth Cymru, ac er fy mod yn falch o weld y cod trefniadaeth ysgolion yn cael ei ddiwygio, gan gyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig o'r diwedd, mae'n rhy hwyr i ormod o athrawon, i ormod o ddisgyblion, a gormod o rieni. Wedi'r cyfan, caewyd tair o bob pump ysgol rhwng 2006 a 2016.
Cyfaddawd arall sy'n mynd yn rhy bell yw gofal iechyd. Nid cyd-ddigwyddiad yw bod y ddau fwrdd iechyd sy'n gwasanaethu'r rhan fwyaf o'r Gymru wledig yn wynebu anawsterau mawr. Mae'r byrddau iechyd hyn wedi llywyddu dros brosesau ad-drefnu mawr dadleuol, sy'n anelu i ganoli gwasanaethau ac arbed arian. Fodd bynnag, yn aml anwybyddir barn y boblogaeth leol. Gallai fod yn fwy effeithlon yn economaidd i ganoli gwasanaethau mewn un neu ddau o ysbytai mawr, ond a yw'n sicrhau canlyniadau iechyd a lles i'r boblogaeth wledig? Yn bersonol, rwy'n rhyfeddu bob amser at y ffordd y mae gwledydd gwledig go iawn fel Awstralia yn gallu sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i ddarparu gwasanaethau ar draws miloedd o filltiroedd sgwâr. Eto, er gwaethaf cyllideb o £9 biliwn, ni all Llywodraeth Cymru ei wneud. Nid y canlyniadau'n unig sy'n peri pryder imi, ond y gallu i ddenu'r gweithlu priodol i gefnogi'r systemau gofal hyn, sydd mor bwysig mewn cymunedau gwledig. Er mwyn i bobl ddewis gweithio ym maes gofal iechyd mewn cymunedau gwledig, maent eisiau ysgolion lleol da ar gyfer eu plant a swydd weddus i aelodau eraill eu teuluoedd.
Felly, er bod addysg ac iechyd yn edafedd cwbl hanfodol ar gynfas bywyd cefn gwlad, economi cefn gwlad Cymru yw'r edefyn aur. Rhaid inni greu a chadw economi wledig ffyniannus a all gefnogi ein cymunedau. Daw'r ffyniant rydym yn ei geisio o amaethyddiaeth, twristiaeth, chwaraeon, y sector cyhoeddus ac amrywiaeth anhygoel o fusnesau mawr a bach. Boed yn siop bapur newydd leol yn Ninbych-y-pysgod, y cyflenwr matiau amaethyddol byd-eang yn Llanglydwen, y cwmni siocled sy'n tyfu'n gyflym yn Llanboidy, neu'r siop fwtîg arbenigol yn Arberth, maent hwy, a llawer o entrepreneuriaid eithriadol eraill ledled Cymru gyfan, yn cyfuno i greu cyfleoedd go iawn i economi wledig ffyniannus. A heb amheuaeth, yr ystof sy'n rhedeg drwy'r cyfan ar gynfas cefn gwlad yw ffermio. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn unedig yn ein dealltwriaeth o bwysigrwydd y diwydiant amaeth i economi Cymru, ond nid wyf yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn deall hynny. Oherwydd, heb ffermio wrth galon yr economi wledig, byddwn yn colli nid yn unig ffermydd, nid yn unig y genhedlaeth nesaf, nid yn unig y busnesau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth, ond byddwn yn colli'r amgylchedd, cefn gwlad sy'n denu twristiaid, ac yn olaf, byddwn colli'r bobl.
Mae'n briodol fod ffermwyr yn poeni ynglŷn â pha gymorth fydd ar gael pan ddaw'r taliad sengl i ben ac yn bersonol rwy'n pryderu'n fawr am yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir', gan fod yr ymgynghoriad hwn yn awgrymu y bydd ffermwyr yn dod yn ddim mwy na cheidwaid cefn gwlad, a chael eu gwobrwyo'n ariannol am fynd i'r afael â phroblemau megis ansawdd aer ac ansawdd dŵr gwael a'r risg o lifogydd, ond nid yw hyn yn cydnabod y rôl allweddol y maent eisoes yn ei chwarae, na'r modd ardderchog y maent yn gwarchod yr amgylchedd, neu'r ffaith mai ffocws craidd busnes ffermio yw cynhyrchu bwyd. Os nad ydym yn gweld gwerth ansawdd a llawnder ein hardaloedd gwledig ac yn mynd ati'n syml i wthio ffermwyr i ymgymryd â rôl rheoli tir, beth am yr holl fusnesau eraill sy'n dibynnu ar ffermwyr—y rhai sy'n cynhyrchu bwyd anifeiliaid, yn trwsio peiriannau, yn gwerthu cyflenwadau, yn brocera'r cynnyrch? Felly, Weinidog, rwy'n annog y Llywodraeth i wrando ar y 12,000 o ymatebion i ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'. Gallem fod yn newid natur ffermio am byth, ac ochr yn ochr â hynny, yn newid cefn gwlad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rhaid inni gofio effaith sector amaethyddol cryf ar ein heconomi wledig. Gwae i Lywodraeth Cymru anwybyddu'r ffaith bod amaethyddiaeth yn sail i ddiwydiant bwyd a diod sy'n werth biliynau lawer o bunnoedd ac sy'n cyflogi dros 222,000 o bobl, gan ei wneud yn gyflogwr mwyaf Cymru, sy'n werth dros £6.9 biliwn i'r economi. Felly, pam—drwy haerllugrwydd, esgeulustod, neu ddifaterwch—y mae'n ei ddinistrio? Ac os mai amaethyddiaeth yw'r ystof yn ein cynfas, busnesau yw'r gwald, ac mae busnesau gwledig yn ei chael hi'n anodd.
Yn y gyllideb yr wythnos diwethaf, cefnogodd Llywodraeth San Steffan y stryd fawr drwy dorri traean oddi ar ardrethi busnes am ddwy flynedd, ond rydym eto i glywed a roddir ystyriaeth i gymorth ar gyfer strydoedd mawr yng Nghymru. Mewn cymunedau gwledig, mae nifer yr ymwelwyr yn aml yn dymhorol, mae cyfraddau siopau gwag yn uchel, ac mae digonedd o siopau elusennol, mae mwy a mwy o siopau cadwyn yn ymddangos ar gyrion trefi, a phan fydd stryd fawr yn dechrau marw, mae'n anodd iawn gwrthdroi'r broses. Bellach mae gan Gymru ardrethi busnes uwch nag unman arall yn y DU, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod hyn yn gosod baich annheg ac andwyol ar fusnesau ledled Cymru ac yn bygwth lles economaidd llawer iawn o fusnesau. A'r strydoedd mawr hyn sy'n ategu un o asedau mwyaf y Gymru wledig: ein cefn gwlad eithriadol. Mae twristiaeth cyrchfannau yn gysyniad y mae Llywodraeth Cymru yn sôn cryn dipyn amdano: cael pobl i ddod i weld ein parciau cenedlaethol gwych, mawredd y moroedd sy'n torri ar ein tir, harddwch tawel mynyddoedd, bryniau a chymoedd y gefnwlad, perswadio pobl i seiclo, rhedeg, cerdded, rhwyfo a chrwydro—pobl sengl, cyplau, teuluoedd—ac ar ôl blino'n lân, neu wedi iddi lawio ar eich pen, gallwch anelu am y cestyll a'r eglwysi, y siopau a'r atyniadau, yr amgueddfeydd a'r bwytai.
Diolch byth, ni ddaeth dim o'r dreth twristiaeth; cafodd ei diystyru gan Lafur Cymru wedi iddynt ddeall pa mor gryf oedd y teimladau yn ei herbyn o du'r cymunedau gwledig. Oherwydd mae gennym gyfleusterau llety gwych yn y Gymru wledig, o westai moethus yn edrych dros lynnoedd a mynyddoedd, i ddarpariaeth gwely a brecwast wrth ymyl llwybr yr arfordir, yr holl ffordd drwodd i barciau gwyliau a bythynnod fferm. Dyma'r rhesymau pam y bydd cymaint o bobl yn ymweld, a thros chwe mis cyntaf y flwyddyn hon gwnaed 430,000 o deithiau dydd i Gymru, gan gyfrannu dros £167 miliwn i economi Cymru.
Heb amheuaeth, Weinidog, edefyn arall yn ein cynfas gwledig, a rhan o DNA llawer iawn o bobl y wlad, yw hela, sy'n denu pobl i saethu, pysgota, heboga a ffureta o'r tu mewn a'r tu allan i Gymru. Credaf fod pob un ohonom yn cydnabod yr angen i ddatblygu diwydiant twristiaeth sy'n gweithredu trwy gydol y flwyddyn. Mae saethu, er enghraifft, yn cyfrannu'n sylweddol at dwristiaeth 365 diwrnod y flwyddyn trwy gynnal cyflogaeth mewn amgylcheddau a allai fod yn heriol fel arall, ac mae'n darparu incwm hanfodol i westai, llety gwely a brecwast a thafarnau yn ystod misoedd y gaeaf.
Weinidog, nid busnesau'n unig sy'n cael budd o'r diwydiant hela; mae'r amgylchedd yn elwa hefyd. Er bod ffermio wedi chwarae rhan enfawr yn llunio'r tirweddau hyn, saethu sydd wedi sicrhau bod y ffermydd hyn yn parhau i gynnwys digonedd o wrychoedd, coetiroedd bach, llynnoedd a phyllau dŵr. Fodd bynnag, mae cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru wedi cynnwys penderfyniad i wahardd saethu adar hela ar dir cyhoeddus. Nid oes sail wyddonol dros y penderfyniad, a chafodd hynny ei gadarnhau gan adroddiad a luniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a ddywedai nad oedd angen newid y deddfau presennol. Rwy'n pryderu'n fawr y bydd y lobïwr trefol, nad oes arno angen gwneud i fywyd y wlad weithio, yn gwthio'r Llywodraeth i wahardd saethu ar holl dir y Llywodraeth, fel coedwigaeth a'r parciau cenedlaethol, yn sgil hynny. Wedyn, a fydd y pysgotwyr yn cael eu hel o afonydd a dyfrffyrdd Cymru? Ble mae pen draw hyn? Amcangyfrifir bod saethu yng Nghymru yn cyfrannu gwerth ychwanegol gros o £75 miliwn yn uniongyrchol i economi Cymru bob blwyddyn. Mae saethwyr yn talu am lety a gwasanaethau lle bynnag y byddant yn teithio. Caiff byrddau mewn tafarndai a bwytai, ac ystafelloedd mewn gwestai a llety gwely a brecwast eu harchebu gan saethwyr o bedwar ban byd drwy gydol y tymor hela, sy'n cyd-daro â misoedd twristiaeth y gaeaf sy'n dawelach fel arall. Mae 64 y cant o'r holl rai sy'n darparu heldiroedd yn dweud bod eu staff yn byw o fewn 10 milltir i'w gweithle, gan sicrhau bod cyflogau'n cael eu gwario ar gefnogi busnesau a gwasanaethau lleol.
Mae saethu'n cefnogi'r hyn sy'n cyfateb i 2,400 o swyddi amser llawn yng Nghymru ac mae'n chwarae rhan yn y broses o reoli 380,000 hectar o dir gwledig. Mae saethwyr yn cyflawni dros 120,000 o ddyddiau o waith cadwraeth bob blwyddyn—gwaith cadwraeth, Weinidog, bob blwyddyn—ar draws cefn gwlad Cymru, a gwerir bron i £8 miliwn bob blwyddyn ar gadwraeth a chynnal a chadw cynefinoedd gan ystadau saethu yma yng Nghymru. Mae'r gwaith rheoli hwn o fudd i adar cân prin, gwyddau a rhydwyr, gan ddarparu lloches, bwyd a diogelwch rhag ysglyfaethwyr, ac ni fydd yn syndod pan ddaw'r gwaith rheoli ar gyfer saethu i ben, mai bywyd gwyllt sy'n agored i niwed, gan gynnwys rhywogaethau ar y rhestr goch, fel grugieir a chornicyllod, sy'n mynd i ddioddef.
Fel y soniais yn gynharach, rwy'n pryderu am bysgota. Eisoes mae canŵ-wyr a physgotwyr yn cystadlu am ein dyfrffyrdd. Mae'r canŵ-wyr yn grŵp lobïo llafar sy'n ysgubo i mewn i Gymru am ddiwrnod neu ddau, ac eto mae pysgota'n rhan bwysig o'n heconomi wledig hefyd. Mae trwyddedau pysgota â gwialen yn codi ymhell dros £1 filiwn y flwyddyn, ac mae'r ffioedd yn cael eu defnyddio ar gyfer rheoli dŵr mewndirol. Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, mae cyfanswm gwerth pysgota i economi Cymru yn £38 miliwn.
Mae angen sawl edefyn arall ar gynfas ein heconomi wledig, megis seilwaith gweddus a band eang cynhwysfawr, ac wrth gwrs, mae llawer o edafedd eraill eisoes wedi'u tynnu, megis cau nifer o swyddfeydd post a banciau gwledig. Ond Weinidog, rwy'n pryderu ynglŷn â'r hyn y mae llawer yn ei weld fel diffyg dealltwriaeth sylfaenol o'r edafedd sy'n gweu'r economi wledig a'r ffordd wledig o fyw. O'u tynnu at ei gilydd, yr edafedd hyn yw'r cynfas o ddydd i ddydd ar gyfer un rhan o dair o bobl Cymru, ac felly rwy'n eich annog i roi eich cefnogaeth i gydnabod y gwerth y mae ein heconomi wledig yn ei gynnig i ffyniant ein gwlad. Wrth wneud y penderfyniadau anghywir, rydych mewn perygl o niweidio cefn gwlad a'n heconomi sydd mor hanfodol i ffyniant Cymru yn y dyfodol yn barhaol. Nid ydym eisiau cefn gwlad sy'n wag ac wedi mynd â'i ben iddo.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Angela am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma ar yr economi wledig. Er mwyn i'r economi wledig ffynnu, mae angen rhwydwaith ffyrdd addas at y diben i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd hirdymor. Wrth gwrs, mae lefel y tagfeydd parhaus ar draffordd yr M4 yn llesteirio datblygiad yr economi wledig yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'r ffordd wedi'i melltithio gan lefel enfawr o dagfeydd traffig ers blynyddoedd lawer. Mae taer angen ffordd liniaru, ond dylid gwneud penderfyniad terfynol wedi i'r ymchwiliad cyhoeddus ddod i ben a chan gadw gwerth am arian mewn cof i drethdalwyr Cymru.
Os ydym yn mynd i fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd a gyflwynir gan ddiddymu'r tollau ar bont Hafren, rhaid i ni wella ein cysylltiadau ffordd, awyr a rheilffordd rhwng ardaloedd gwledig canolbarth Cymru, a gogledd Cymru, er mwyn gwella ein heconomi, ac mae posibiliadau mawr ar gael i ni. Rwy'n eithaf sicr, pe baech yn gwella cludiant, y bydd ein heconomi'n gwella. Diolch.
I ddilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Oscar, mae darpariaethau cludiant cymunedol yn elfen bwysig yn y broses o gysylltu Cymru wledig, ac yn darparu rôl hanfodol ym mywydau miloedd o bobl ledled Cymru, gan ddarparu achubiaeth i lawer o bobl sy'n agored i niwed nad ydynt, o bosibl, yn gallu gadael eu cartref na chymryd rhan yn eu cymunedau hyd yn oed, ac sy'n wynebu unigedd cymdeithasol, heb gludiant cymunedol.
Yng Nghymru, gwneir 2 filiwn o deithiau bob blwyddyn gan deithwyr, gan gynorthwyo 142,000 o unigolion. Fodd bynnag, yn ôl yr Ymgyrch Dros Drafnidiaeth Well, torrwyd tua 12 y cant o'r gyllideb ar gyfer cefnogi gwasanaethau bysiau yng Nghymru, gyda 25 o'r gwasanaethau hyn bellach wedi'u diddymu. A dyfalwch beth a ble mae'r gwasanaethau hyn? Yn ein cymunedau gwledig. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio mwy gyda chynghorau lleol i ddiogelu'r gwasanaethau hyn rhag toriadau cyllideb a gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth i gynyddu argaeledd trafnidiaeth o'r fath. Bydd hyn yn gwneud llawer i helpu pobl sy'n agored i niwed i gael mynediad at y gwasanaethau y maent eu hangen ac yn helpu i ddarparu Cymru wledig â chysylltiadau da.
A gaf fi ddiolch i Angela Burns am ganiatáu imi siarad yn fyr ar hyn, gan fy mod yn cynrychioli etholaeth wledig fy hun? Credaf fod twristiaeth yn allweddol i'r economi wledig. Mae gennym dirweddau hardd eithriadol ac mae'n rhaid i ni wneud defnydd ohonynt.
Ceir amrywiaeth o safbwyntiau ar saethu, ac mae fy rhai i wedi'u cofnodi, felly nid wyf am drafod hynny yn awr, ond bydd yn cael effaith ar fy etholaeth, ar y Gymru wledig, o ganlyniad i'r cynigion os cânt eu gwireddu. Ond rwyf am ddweud wrth y Gweinidog, rhaid i chi gydnabod os ydych yn cyflwyno cynigion ac yn gorfodi newid, rhaid i chi gefnogi'r busnesau yr effeithir arnynt a chydnabod canlyniadau eich polisi. Felly, mae hynny'n hynod o siomedig a di-fudd i'r economi wledig. Mae llawer iawn o swyddi parhaol a swyddi rhan-amser neu swyddi tymhorol yr effeithir arnynt hefyd o ganlyniad. Felly, gofynnaf ichi eto, Weinidog, ac rwy'n eich annog i edrych yn ofalus ar hyn eto a meddwl am y canlyniadau i'r gymuned wledig.
A phryder arall wrth gwrs, yw'r ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'—[Torri ar draws.]
A ydych chi'n edrych arnaf fi?
Rwy'n edrych arnoch chi, ydw.
Os felly, rwyf am ddweud yn unig fod effaith ganlyniadol enfawr ar yr economi wledig yn hyn o beth, ar siopau a busnesau lleol sy'n dibynnu ar y diwydiant ffermio. Os yw ffermio'n dod yn anghynaladwy, bydd yn cael effaith ganlyniadol enfawr a byddwch yn datgymalu'r economi leol fel y mae ar hyn o bryd.
A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd i ymateb i'r ddadl? Hannah Blythyn.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac yn arbennig i Angela Burns am gyflwyno'r ddadl fer hon? Ac er efallai na fyddwn yn cytuno ar bob elfen o araith Angela, rwy'n siŵr y bydd pawb yn cytuno â mi wrth i mi ddweud ei bod hi'n araith angerddol a huawdl iawn, yn hyrwyddo rhyfeddodau ein cymunedau gwledig yng Nghymru.
Rwy'n credu mai'r pwynt allweddol gennych a wnaeth fy nharo oedd mai economi cefn gwlad Cymru yw'r edefyn aur. Gwyddom fod economi'r Gymru wledig yn hanfodol i gynifer o gymunedau ar draws ein gwlad. Mae'n economi rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ei chefnogi ac yn awyddus i'w hybu. Yn ystod yr haf, ymwelodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth â busnesau ledled y Gymru wledig i drafod yr heriau a'r cyfleoedd unigryw sy'n wynebu'r ardaloedd hynny. Roedd y busnesau'n cynnwys Siemens Healthineers, sy'n cyflogi 413 o bobl yn Llanberis, PCI Pharma, sy'n cyflogi 360 o bobl yn y Gelli Gandryll, a gwn yn ddiweddar ei fod wedi ymweld â Wynnstay yn Llansantffraid, sy'n cyflogi 400 o bobl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r holl fusnesau hyn mewn un ffordd neu'r llall, ond gwyddom nad dyma'r unig enghreifftiau o fusnesau llwyddiannus sy'n gweithredu yn y Gymru wledig a gefnogwyd gennym yn uniongyrchol. Rydym wedi cefnogi DMM International, sy'n cyflogi 195 o bobl mewn ardal wledig yn bennaf yn Arfon, ac yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, rydym wedi cefnogi Coaltown Coffee, sydd bellach yn fusnes ffyniannus. Os wyf yn gywir, rwyf wedi'i weld yn ystafell de'r Aelodau yma hefyd. Mae pob un o'r rhain yn enghreifftiau pwysig o fusnesau gwledig llwyddiannus sydd wedi cael cymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod yn llwyr, fodd bynnag, nad yw llwyddiant y busnesau hyn yn dibynnu ar gefnogaeth uniongyrchol yn unig. Mae angen inni wneud mwy i dyfu ein heconomi mewn ffordd gynhwysol, gan fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau strwythurol sy'n bodoli yn ein rhanbarthau, a lledaenu cyfleoedd i bob rhan o Gymru.
Mae gan seilwaith a sgiliau rôl allweddol i'w chwarae yn darparu'r cyfle hwnnw, a gwn fod nifer o Aelodau wedi pwysleisio pa mor bwysig yw cysylltedd o ran trafnidiaeth. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol trwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod gennym y ddarpariaeth sgiliau mewn ardaloedd gwledig ar gyfer diwallu anghenion y rhanbarth a'r ardal honno.
Rydym hefyd yn gwybod sut y mae argaeledd seilwaith digidol yn hynod o bwysig yn y byd heddiw i fusnesau a chymunedau mewn ardaloedd gwledig ac mae'r ardaloedd hyn yn aml yn wynebu heriau penodol gyda hynny. Ers ei sefydlu yn 2013, mae Cyflymu Cymru wedi buddsoddi dros £82 miliwn ar gyfer darparu mynediad at fand eang ffibr cyflym i dros 280,000 eiddo ar draws ardaloedd gwledig yn bennaf yn Sir Gaerfyrddin, Powys, Sir Benfro, Ceredig—nid wyf yn gwneud yn dda iawn heddiw—Ceredigion—diolch—Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd ein heconomi wledig. Er enghraifft, y £95 miliwn o fuddsoddiad yn ffordd osgoi'r Drenewydd, sef rhaglen sydd i gael ei chwblhau yn gynnar yn 2019. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i rymuso ein rhanbarthau drwy ein cynllun gweithredu economaidd, er mwyn adeiladu ar eu cryfderau unigol i sicrhau cymaint â phosibl o dwf economaidd i Gymru ac ar gyfer ein pobl. Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn cydnabod bod gan bob rhanbarth ei gyfleoedd a'i heriau ei hun ac na fydd un dull unffurf o weithredu datblygiad economaidd yn mynd yn ddigon pell i sbarduno'r twf economaidd rhanbarthol sydd ei angen ar Gymru.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? A gaf fi ofyn ichi, a nodaf fod Gweinidog y Gymraeg yn eistedd wrth eich ymyl, a yw eich cynllun economaidd, sy'n cydnabod yr holl ranbarthau, hefyd yn pwysoli ac yn cynnwys y ffactor fod y Gymraeg yn byw'n gryf iawn mewn llawer o ardaloedd gwledig? Oni bai eich bod yn cefnogi'r ardaloedd gwledig hynny—twristiaeth, iechyd, addysg, y gweddill i gyd—mewn gwirionedd, bydd y Gymraeg hefyd yn dioddef o ganlyniad i ddirywiad y Gymru wledig.
Bydd, yn hollol. Er gwaethaf fy ynganu gwael heddiw, rwy'n ymdrechu'n galed iawn i ddysgu Cymraeg ac rwy'n deall yn iawn pa mor bwysig yw hi yn enwedig i gymunedau gwledig ledled Cymru. Rhan ohono yw'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol sy'n rhaid ei hystyried yn rhan o hynny. Dyna pam rwy'n dweud na fydd dull unffurf o weithredu'n gweithio, oherwydd gwyddom fod gan bob ardal yng Nghymru nid yn unig ei heriau unigryw, ond ei nodweddion unigryw yn ogystal. Felly, mae'n gwbl hanfodol inni ystyried bod y Gymraeg yn allweddol i hynny.
Yn ogystal, mantais gref ein model rhanbarthol newydd yw ei fod yn darparu ymagwedd gyfannol at greu perthynas â busnesau. Y gobaith yw y bydd yn galluogi gwell cydweithio gyda phartneriaid cyflenwi'r sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol a darparwyr addysg uwch ac addysg bellach. Bydd yn galluogi penderfyniadau seilwaith mwy integredig, gan gynnwys gofynion trafnidiaeth a gofynion digidol yn ogystal â darpariaeth eiddo masnachol o ansawdd da. Mae'r prif swyddogion rhanbarthol newydd bellach yn eu swyddi ac maent yn darparu llais rhanbarthol yn y Llywodraeth. Maent yn gwrando ar bartneriaid lleol ac yn eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau. Maent yn bwydo gwybodaeth leol yn ôl sy'n helpu i deilwra gwaith Llywodraeth Cymru.
Mae'n bwysig cofio, fodd bynnag, fod yr economi wledig wedi elwa'n enfawr o gronfeydd yr UE a'n mynediad ehangach at y farchnad sengl. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir na ddylai Cymru golli dim o'r cyllid hwnnw neu drwy ddiffyg mynediad at y farchnad sengl. Mae economi wledig ffyniannus yn hanfodol i helpu i gynnal cymunedau hyfyw ledled y Gymru wledig er mwyn darparu cyfleoedd cyflogaeth o safon ar gyfer ein pobl, gan gynnwys pobl ifanc yn arbennig ac i helpu i ddiogelu'r Gymraeg yn rhai o'r cadarnleoedd yng nghefn gwlad Cymru. Felly rydym yn gweithio i sicrhau'r canlyniad gorau i Gymru, ond fel Llywodraeth gyfrifol, rydym yn cydnabod yr angen i gynllunio ar gyfer senario 'dim bargen'. Y mis diwethaf, darparodd yr Ysgrifennydd cyllid ddatganiad llafar yn nodi'r camau nesaf yn natblygiad polisi rhanbarthol ar ôl Brexit. Cadarnhaodd y datganiad llafar y bydd unrhyw arian newydd yn cael ei fuddsoddi i gefnogi datblygu rhanbarthol a lleihau anghydraddoldeb. Roedd yn cadarnhau hefyd y byddwn yn parhau i fabwysiadu dull aml-flynyddol o fuddsoddi unrhyw arian newydd i gynnal ffocws hirdymor ar yr heriau strwythurol yn ein heconomi a'r farchnad lafur.
Roedd cyhoeddiad y Canghellor ddydd Llun diwethaf ar fargen twf gogledd Cymru gryn dipyn yn llai na'r hyn roedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi'i obeithio. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, rydym yn parhau'n gwbl ymrwymedig i gyflawni'r cytundeb twf hwn a allai fod yn drawsnewidiol a byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod y pecyn a'r cyfeiriad yn iawn ar gyfer gogledd Cymru, gan gytuno ar brif benawdau'r telerau ar gyfer y fargen cyn gynted â phosibl. Yn yr un modd, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu a sicrhau bargen twf ar gyfer canolbarth Cymru, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid yn y rhanbarth a Llywodraeth y DU.
Rwyf am orffen drwy ddiolch, unwaith eto, i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau a chloi drwy ailddatgan bod y Llywodraeth hon yn ymrwymedig i gefnogi ein cymunedau cefn gwlad a'n heconomi wledig er mwyn sicrhau ffyniant i Gymru gyfan. Diolch yn fawr.
Diolch. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.