Part of the debate – Senedd Cymru am 6:57 pm ar 7 Tachwedd 2018.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? A gaf fi ofyn ichi, a nodaf fod Gweinidog y Gymraeg yn eistedd wrth eich ymyl, a yw eich cynllun economaidd, sy'n cydnabod yr holl ranbarthau, hefyd yn pwysoli ac yn cynnwys y ffactor fod y Gymraeg yn byw'n gryf iawn mewn llawer o ardaloedd gwledig? Oni bai eich bod yn cefnogi'r ardaloedd gwledig hynny—twristiaeth, iechyd, addysg, y gweddill i gyd—mewn gwirionedd, bydd y Gymraeg hefyd yn dioddef o ganlyniad i ddirywiad y Gymru wledig.