Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pysgotwyr wedi bod yn cysylltu â mi ers peth amser ynglŷn â diffyg capasiti o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru i ddiogelu ein pysgodfeydd a'n llynnoedd yn y dalgylch o gwmpas canolbarth Cymru yn benodol. Nawr, dywedir wrthyf fod potsio am eogiaid yn dod yn fwy cyffredin, sydd wrth gwrs yn difetha dyfodol stoc pysgota. Priodolir y pryder yn rhannol i ddiffyg swyddogion yn yr ardal ac sy'n byw yn yr ardal i blismona'r sefyllfa ac i weithio hefyd gyda chlybiau pysgota, ffermwyr a pherchnogion pysgodfeydd. Felly, a ydych yn cydnabod bod diffyg pŵer plismona o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru yn y maes hwn? Ac os felly, os ydych yn cytuno â hynny, beth y gellir ei wneud i ddatrys y sefyllfa?