1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 7 Tachwedd 2018.
12. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amddiffyn pysgodfeydd yng nghanolbarth Cymru? OAQ52843
Diolch. Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw amddiffyn pysgodfeydd dŵr croyw, ac mae ganddynt ddyletswydd statudol i gynnal, gwella a datblygu pysgodfeydd dŵr croyw. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb tebyg i ddiogelu pysgodfeydd morol.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pysgotwyr wedi bod yn cysylltu â mi ers peth amser ynglŷn â diffyg capasiti o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru i ddiogelu ein pysgodfeydd a'n llynnoedd yn y dalgylch o gwmpas canolbarth Cymru yn benodol. Nawr, dywedir wrthyf fod potsio am eogiaid yn dod yn fwy cyffredin, sydd wrth gwrs yn difetha dyfodol stoc pysgota. Priodolir y pryder yn rhannol i ddiffyg swyddogion yn yr ardal ac sy'n byw yn yr ardal i blismona'r sefyllfa ac i weithio hefyd gyda chlybiau pysgota, ffermwyr a pherchnogion pysgodfeydd. Felly, a ydych yn cydnabod bod diffyg pŵer plismona o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru yn y maes hwn? Ac os felly, os ydych yn cytuno â hynny, beth y gellir ei wneud i ddatrys y sefyllfa?
Yn amlwg, rydym yn darparu cyllid craidd i Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr y gallant gyflawni eu cyfrifoldebau statudol. Maent hefyd yn cael tua £1 filiwn y flwyddyn o arian y drwydded bysgota â gwialen. Gwn eich bod wedi ysgrifennu ataf ynglŷn â hyn, ac rwy'n disgwyl ymateb i'w anfon yn ôl atoch. Byddaf hefyd yn cyfarfod â'r cadeirydd dros dro a'r prif weithredwr, yn ogystal â Gweinidog yr Amgylchedd, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru—yr wythnos nesaf rwy'n credu. Byddaf yn sicr o'i ddwyn i'w sylw. Ond yr ateb byr yw: na, nid wyf yn cytuno â hynny.