Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Yn amlwg, rydym yn darparu cyllid craidd i Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr y gallant gyflawni eu cyfrifoldebau statudol. Maent hefyd yn cael tua £1 filiwn y flwyddyn o arian y drwydded bysgota â gwialen. Gwn eich bod wedi ysgrifennu ataf ynglŷn â hyn, ac rwy'n disgwyl ymateb i'w anfon yn ôl atoch. Byddaf hefyd yn cyfarfod â'r cadeirydd dros dro a'r prif weithredwr, yn ogystal â Gweinidog yr Amgylchedd, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru—yr wythnos nesaf rwy'n credu. Byddaf yn sicr o'i ddwyn i'w sylw. Ond yr ateb byr yw: na, nid wyf yn cytuno â hynny.