Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Mae'n debyg mai'r ateb byr yw 'bydd'. Yn sicr rydym am weld mwy o gydweithio a sicrhau bod gennym gadwyni cyflenwi cadarn. Fel y byddwch wedi fy nghlywed yn dweud fwy nag unwaith y prynhawn yma, rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad, felly ni allaf roi sylwadau ar gynnwys unrhyw gynllun penodol yn y dyfodol. Ond wrth gwrs, o ran sefydliadau megis Cyswllt Ffermio, er enghraifft, y gwn ei fod wedi darparu cefnogaeth i sefydlu'r cwmni cydweithredol y cyfeirioch chi ato—. Rwy'n sicr yn awyddus iawn i Cyswllt Ffermio barhau ar ôl Brexit i gefnogi ffermwyr a choedwigwyr.