1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 7 Tachwedd 2018.
10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar dir comin? OAQ52863
Diolch. Gwelir gwerth tir comin o ran ei gyfraniad i dreftadaeth naturiol a chenedlaethol Cymru. Nod polisi tir comin yw diogelu tir o'r fath, hyrwyddo ffermio cynaliadwy a mynediad cyhoeddus i gefn gwlad, wedi'u cydbwyso â buddiannau bywyd gwyllt a chadwraeth. Bydd ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' yn dylanwadu ar ein polisi yn y dyfodol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n ymwybodol iawn o werth mawr y tir comin helaeth yn fy etholaeth, sy'n cynnwys tir comin Merthyr a Gelligaer. Rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod bod arian yr UE wedi bod ar gael i helpu i reoli tir comin ac i ffermwyr lleol allu cydweithredu a marchnata eu cynnyrch drwy siop gigydd leol, Cig Mynydd Cymru, yn Nhreharris. A fydd y system newydd ar gyfer ffermio a rheoli tir a gyflwynwn yng Nghymru ar ôl Brexit yn parhau i gefnogi menter wledig o'r fath?
Mae'n debyg mai'r ateb byr yw 'bydd'. Yn sicr rydym am weld mwy o gydweithio a sicrhau bod gennym gadwyni cyflenwi cadarn. Fel y byddwch wedi fy nghlywed yn dweud fwy nag unwaith y prynhawn yma, rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad, felly ni allaf roi sylwadau ar gynnwys unrhyw gynllun penodol yn y dyfodol. Ond wrth gwrs, o ran sefydliadau megis Cyswllt Ffermio, er enghraifft, y gwn ei fod wedi darparu cefnogaeth i sefydlu'r cwmni cydweithredol y cyfeirioch chi ato—. Rwy'n sicr yn awyddus iawn i Cyswllt Ffermio barhau ar ôl Brexit i gefnogi ffermwyr a choedwigwyr.
Mae rhan sylweddol o'r Gŵyr yn fy rhanbarth yn cynnwys tir comin, fel y gwyddoch, ac rwyf wedi gofyn ichi o'r blaen i edrych, efallai, ar is-ddeddfwriaeth a'r pwerau y gallai ei roi i chi i ffrwyno arfer anghyfrifol ar yr hawliau hynny. Gwn fod fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies, a Hefin David yn wir, wedi sôn wrthych am y broblem groes i hynny yn y gorffennol, lle mae rhai ffermwyr wedi cael eu hatal rhag arfer hawliau ar dir comin. Os ydw i'n iawn, credaf eich bod wedi cyfarfod â rhai o Aelodau'r Cynulliad ynglŷn â hyn, felly tybed a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn ag unrhyw gamau a gymerwyd ar ôl y cyfarfod hwnnw i gefnogi ffermwyr gyda'u hawliau pori a thirfeddianwyr cyfagos, ac a oes unrhyw beth yn y rheoliadau a allai eich helpu i ddatrys rhai o'r problemau parhaus hyn.
Diolch. Rydych chi'n hollol iawn. Cyfarfûm â Hefin David ac Andrew R.T. Davies a Mick Antoniw—rwy'n ceisio meddwl a oedd unrhyw un arall yno; nid wyf yn credu bod—y llynedd mae'n debyg. Buaswn yn sicr yn hapus iawn i rannu'r ohebiaeth gyda'r Aelod yn dilyn y cyfarfodydd a gawsom.