Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Mae rhan sylweddol o'r Gŵyr yn fy rhanbarth yn cynnwys tir comin, fel y gwyddoch, ac rwyf wedi gofyn ichi o'r blaen i edrych, efallai, ar is-ddeddfwriaeth a'r pwerau y gallai ei roi i chi i ffrwyno arfer anghyfrifol ar yr hawliau hynny. Gwn fod fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies, a Hefin David yn wir, wedi sôn wrthych am y broblem groes i hynny yn y gorffennol, lle mae rhai ffermwyr wedi cael eu hatal rhag arfer hawliau ar dir comin. Os ydw i'n iawn, credaf eich bod wedi cyfarfod â rhai o Aelodau'r Cynulliad ynglŷn â hyn, felly tybed a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn ag unrhyw gamau a gymerwyd ar ôl y cyfarfod hwnnw i gefnogi ffermwyr gyda'u hawliau pori a thirfeddianwyr cyfagos, ac a oes unrhyw beth yn y rheoliadau a allai eich helpu i ddatrys rhai o'r problemau parhaus hyn.