Gwarchod Rhywogaethau Prin a Rhai sydd mewn Perygl yng Nghymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:08, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, nid yng nghefn gwlad Cymru yn unig y ceir rhywogaethau prin a rhai sydd mewn perygl. Maent hefyd yn byw mewn sawl sw ledled Cymru, gan gynnwys Sw Mynydd Cymru, sef sw cenedlaethol Cymru, wrth gwrs, yn fy etholaeth i. Mae ganddi raglenni rhywogaethau mewn perygl sy'n gweithio i warchod y wiwer goch, wrth gwrs, rhywogaeth rwy'n hyrwyddwr drosti, ond hefyd pandaod coch, llewpartiaid eira, tsimpansîaid a llawer o rywogaethau eraill. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwaith cadwraeth o'r fath, lle mae rhywogaethau dan fygythiad ledled y byd yn byw yn sŵau Cymru, a pha gymorth penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu gyda Sw Mynydd Cymru yn fy etholaeth?