1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 7 Tachwedd 2018.
11. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran gwarchod rhywogaethau prin a rhai sydd mewn perygl yng Nghymru? OAQ52856
Rwyf wedi ymrwymo i gadw'r warchodaeth a'r mesurau diogelwch yn safonau cyfredol yr UE ar gyfer amddiffyn rhywogaethau ac adeiladu ar hyn drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ein nod yw ymgorffori adferiad natur ar draws pob un o'n polisïau a'n rhaglenni.
Wrth gwrs, nid yng nghefn gwlad Cymru yn unig y ceir rhywogaethau prin a rhai sydd mewn perygl. Maent hefyd yn byw mewn sawl sw ledled Cymru, gan gynnwys Sw Mynydd Cymru, sef sw cenedlaethol Cymru, wrth gwrs, yn fy etholaeth i. Mae ganddi raglenni rhywogaethau mewn perygl sy'n gweithio i warchod y wiwer goch, wrth gwrs, rhywogaeth rwy'n hyrwyddwr drosti, ond hefyd pandaod coch, llewpartiaid eira, tsimpansîaid a llawer o rywogaethau eraill. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwaith cadwraeth o'r fath, lle mae rhywogaethau dan fygythiad ledled y byd yn byw yn sŵau Cymru, a pha gymorth penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu gyda Sw Mynydd Cymru yn fy etholaeth?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n cofio llawer o deithiau plentyndod i Sw Mynydd Cymru fy hun, a gwn eich bod yn hyrwyddwr balch dros y wiwer goch, sydd i'w gweld yn eich etholaeth chi mewn gwirionedd, yng Nghlocaenog. Pan euthum i ymweld â'r fan honno ar ddiwrnod iachus yng ngogledd Cymru yn gynharach eleni, roedd y saith wiwer goch a ryddhawyd yn y goedwig yn teimlo braidd yn rhy swil i ymddangos o flaen y camera ar y diwrnod hwnnw, ac yn anffodus, ni welais yr un ohonynt.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i gefnogi prosiectau o'r fath, o ran gweithio gyda rhywogaethau mewn perygl. Ni allaf sôn yn benodol am Sw Mynydd Cymru, ond mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n barod i edrych arno ar ran yr Aelod a chyfarfod ag ef i'w drafod rywbryd yn y dyfodol.