Gwarchod Rhywogaethau Prin a Rhai sydd mewn Perygl yng Nghymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:09, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n cofio llawer o deithiau plentyndod i Sw Mynydd Cymru fy hun, a gwn eich bod yn hyrwyddwr balch dros y wiwer goch, sydd i'w gweld yn eich etholaeth chi mewn gwirionedd, yng Nghlocaenog. Pan euthum i ymweld â'r fan honno ar ddiwrnod iachus yng ngogledd Cymru yn gynharach eleni, roedd y saith wiwer goch a ryddhawyd yn y goedwig yn teimlo braidd yn rhy swil i ymddangos o flaen y camera ar y diwrnod hwnnw, ac yn anffodus, ni welais yr un ohonynt.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i gefnogi prosiectau o'r fath, o ran gweithio gyda rhywogaethau mewn perygl. Ni allaf sôn yn benodol am Sw Mynydd Cymru, ond mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n barod i edrych arno ar ran yr Aelod a chyfarfod ag ef i'w drafod rywbryd yn y dyfodol.