Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:31, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae bron yr holl bobl rydych wedi'u disgrifio—ac ychydig iawn o bobl yng Nghymru sydd wedi adolygu'r fformiwla mor drylwyr â phrif weithredwr ymadawol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; credaf ei fod wedi eistedd drwy fwy o gyfarfodydd ar y fformiwla hon nag unrhyw Weinidog ar unrhyw adeg—. A gaf fi ddweud hyn: mae'r fformiwla'n agored i'w hadolygu flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn? Ac mae'n cael ei hadolygu flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae arweinwyr Ceidwadol yn cymryd rhan yn hynny. Nawr, os ydynt yn dymuno gofyn am adolygiad sylfaenol o'r brig i'r bôn o'r math a ddisgrifiwyd gennych, gallant wneud hynny, ond wrth gwrs, nid ydynt yn gwneud hynny pan fyddant yn y cyfarfodydd yn cael y sgyrsiau hyn.

Lywydd, rwy'n hapus iawn i sicrhau, ac yn gwneud addewid, os nad yw'r cofnodion hyn eisoes yn gyhoeddus, y byddaf yn eu rhoi yn y llyfrgell fel y gall Aelodau ar bob ochr i'r Siambr ddeall y gwaith a wneir gan yr is-grwpiau cyllid a dosbarthu, ac i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd.