Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:32, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, dyna ymateb amserol iawn, oherwydd, ers ichi ddod i'ch swydd flwyddyn yn ôl, rydych wedi pedlera'r stori'n barhaus fod cynghorwyr Ceidwadol yng Nghymru yn fodlon ar yr arian y maent wedi'i gael ac na fyddent eisiau polisïau'r Ceidwadwyr yng Nghymru. Dywedasoch wrth fy nghyd-Aelod, Russell George, y mis diwethaf,

'Rwy'n dweud wrth grŵp y Ceidwadwyr nad yw eu cynghorwyr eisiau polisïau Ceidwadol yng Nghymru; maent yn falch iawn o gael Llywodraeth Lafur sy'n darparu cymorth a chyllid i awdurdodau lleol mewn modd na all cynghorau Ceidwadol yn Lloegr ond breuddwydio amdano. Felly, pan fyddaf yn cyfarfod â chynghorau Ceidwadol, maent yn dweud wrthyf mai'r hyn y maent ei angen yw Llywodraeth Lafur.'

Rhywbeth digon tebyg i'r hyn rydych eisoes wedi'i ddweud wrthym heddiw. Felly, awgrymais hynny wrth arweinwyr grwpiau Ceidwadol ledled Cymru. Yr ymateb cyntaf a gefais oedd, 'Tipyn o jôc.' Yr ail,

Mae wedi dangos dro ar ôl tro nad oes ganddo unrhyw ddealltwriaeth go iawn o'r problemau rydym yn eu hwynebu mewn llywodraeth leol, a phethau fel, 'Mae'r fformiwla ariannu yn drychineb llwyr, nid yw'n addas at y diben', ac roeddent yn dweud bod eich honiadau'n 'hurt' ac yn 'nonsens'. Rwy'n dyfynnu.

At hynny, mae'n ymddangos bod hyd yn oed cynghorwyr Llafur wedi bod yn gefnogol i rai o bolisïau Ceidwadwyr y DU, megis y digwyddiad democratiaeth yfory. Ddydd Llun, daeth arweinydd Llafur Casnewydd allan i gefnogi datganoli ardrethi busnes i awdurdodau lleol, a datgelodd fod y sawl sy'n cystadlu am yr arweinyddiaeth Lafur a gymeradwyir gennych hefyd o blaid datganoli ardrethi busnes i awdurdodau lleol.

Felly, a wnewch  chi roi'r gorau yn awr i geisio osgoi'r materion difrifol sy'n wynebu awdurdodau lleol, rhoi'r gorau i'r safbwynt gwrthwynebol rydych wedi'i ddatblygu dros y 12 mis diwethaf, a gweithio gyda chynghorau o bob lliw, gyda llawer ohonynt yn glymbleidiau, i ddod o hyd i ffordd ymlaen fel bod eu cyllid yn deg, gan gydnabod nad yw'r pwyntiau a wneuthum heddiw yn bethau a dynnais, fel y byddech chi'n ei ddweud, o bapur plaid ar safbwyntiau i'w harddel, rhywbeth nad wyf yn edrych arno'n aml iawn ac na fyddaf bron byth yn ei ddefnyddio. Rhoddwyd y rhain i mi yn uniongyrchol gan y personau a ddyfynnaf, naill ai mewn pwyllgor neu mewn ymateb i fy ngheisiadau gan y cyrff dan sylw.