Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal i goffáu Carl Sargeant, eich rhagflaenydd Llywodraeth Cymru fel y Gweinidog tai. Wrth gwrs, fe wnaeth lawer o bethau da yn y maes hwnnw. Rwyf wedi mynd trwy ffeil o gwestiynau a ofynnais ychydig—[Anghlywadwy.]—a gwelaf fod—[Anghlywadwy.]. Roeddwn yn gofyn yn benodol ar y dyddiad hwnnw ynghylch y defnydd o dir sy'n eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru y gellid ei ddefnyddio ar gyfer tai ar safleoedd tir llwyd. Dywedodd y Gweinidog fod ei dîm yn yr adran dai mewn trafodaethau gyda Ken Skates a'i adran, yn edrych ar ba dir a oedd yn eiddo i Lywodraeth Cymru a allai fod ar gael ar gyfer datblygu tai. Roedd y trafodaethau hyn hefyd yn cynnwys yr adran iechyd. Nawr, nid wyf yn cofio unrhyw sôn am y syniad hwn o ddatblygu tir sy'n eiddo cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru ers hynny. Roedd hyn yn ôl ym mis Ebrill 2017. Felly, a ydych mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y syniad hwn o dir llwyd ar gyfer tai ar dir sy'n eiddo cyhoeddus?