Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:39, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiwn hwnnw. Yn bendant, gallaf gadarnhau ers hynny fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar agenda o nodi a rhyddhau tir sy'n eiddo cyhoeddus ar gyfer tai. Ceir grŵp gweinidogol penodol sy'n gweithio gyda, ac yn cynnwys fy nghyd-Aelodau Lesley Griffiths a Ken Skates, ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd ar nodi'r parseli o dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, ond hefyd erbyn hyn rydym yn ceisio edrych ar dir sy'n eiddo i'r ystâd gyhoeddus yn ehangach o lawer—felly, tir sy'n eiddo i fyrddau iechyd, er enghraifft, tir awdurdod lleol. Rydym wedi nodi tri pharsel o dir hyd yn hyn y credwn y byddant yn addas ar gyfer tai, ac felly, rydym yn bwriadu cyflwyno'r rheini cyn gynted â phosibl. Buaswn hefyd yn ychwanegu bod gennym y grŵp tai fforddiadwy, sydd â ffrwd waith benodol o dan hynny sy'n edrych ar dir ar gyfer tai.