Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Mae'n ymddangos fy mod yn cael fy nghyhuddo o gysondeb, sy'n sicr yn gyhuddiad gwreiddiol i'w wneud. A gaf fi ddweud hyn: rwy'n deall mai rôl y llefarydd Ceidwadol yn y lle hwn yw gwneud yr achos gwaethaf posibl yn erbyn y polisïau y mae'r Llywodraeth hon yn mynd ar eu trywydd a chraffu arnom ar sail hynny? Ond mae dod yma ac awgrymu bod unrhyw arweinydd cyngor, o unrhyw liw, yn dod at Lywodraeth Cymru ac yn dweud, 'Rydym am weld toriadau yr un mor ddwfn i gyllid llywodraeth leol ag y gwelsom dros y ffin' yn anhygoel a dweud y gwir. Ac yn syml iawn, nid yw'n safbwynt credadwy i'w arddel. Nid oes unrhyw awgrym fy mod yn clywed gan unrhyw arweinydd awdurdod lleol, o unrhyw gefndir gwleidyddol, eu bod am weld eu cyllidebau'n cael eu torri 26 y cant, sef yn union yr hyn a ddigwyddodd dros y ffin, ac nid wyf yn credu bod llefarydd y Ceidwadwyr yn gredadwy o gwbl wrth iddo geisio cynnal y ddadl honno. Y broblem y mae llawer o'r bobl hynny'n ei dwyn i'n sylw yw faint o gyllid sydd ar gael—nid ei ddosbarthiad yn unig, ond faint sydd ar gael i ni. Ac rydym yn gwybod, o gyllideb y Canghellor yr wythnos diwethaf, fod cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn mynd i gael ei dorri yn y maes hwn dro ar ôl tro. A phan fydd y Llywodraeth Geidwadol yn cael gwared yn y diwedd ar y grant cynnal ardrethi yn Lloegr, efallai y bydd yn gweld pa mor ffôl yw ei safbwynt.