Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, unwaith eto, Weinidog, ac ymddiheuriadau os yw fy nghwestiwn cyntaf yn swnio'n gyfarwydd braidd, ond ni chafodd ei glywed ar gyfer y cofnod felly rwyf am ei ailadrodd eto. Rydym wedi cael digwyddiadau heddiw i goffáu Carl Sargeant, a wnaeth lawer o waith da fel y Gweinidog tai a chymunedau a'ch rhagflaenodd. Rwyf newydd fod yn edrych drwy'r ffeil o gwestiynau o'r adeg pan oeddwn yn arfer cysgodi Carl, ac rwy'n gweld ein bod, 18 mis yn ôl, yn trafod amryw o fentrau safleoedd tir llwyd. Roeddwn yn gofyn yn benodol am y defnydd o dir sy'n eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru a allai gael ei ryddhau ar gyfer tai ar safleoedd tir llwyd. Dywedodd y Gweinidog fod ei dîm yn yr adran dai mewn trafodaethau gyda Ken Skates a'i adran, yn edrych ar ba dir a oedd yn eiddo i Lywodraeth Cymru a allai fod ar gael ar gyfer datblygu tai. Roedd y trafodaethau hyn hefyd yn cynnwys yr adran iechyd ar y pryd. Roedd hyn ym mis Ebrill 2017. Roeddwn yn meddwl tybed a ydych mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar y syniad hwn o ryddhau tir Llywodraeth Cymru ar gyfer tai ar safleoedd tir llwyd?