Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:31, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, a gallaf gadarnhau bod y gwaith wedi bod yn parhau ers ichi gael y trafodaethau cychwynnol hynny. Mae grŵp trawslywodraethol, sy'n fy nghynnwys i a'r Gweinidogion sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio, yr economi a chyllid, yn edrych ar draws portffolio Llywodraeth Cymru i nodi parseli o dir y gellid eu cyflwyno ar gyfer tai. Ac rydym yn edrych arnynt mewn ffordd strategol ochr yn ochr â'n blaenoriaethau eraill, er enghraifft y metro arfaethedig ac ati.

Mae'r grŵp hwnnw wedi nodi tri pharsel o dir hyd yn hyn, er ein bod yn edrych ar nifer o rai eraill, ac wrth gwrs, yn ddiweddar cyhoeddais adolygiad o dai fforddiadwy, sy'n cynnwys is-grŵp penodol i edrych ar dir ar gyfer tai a beth arall y gellir ei wneud i gyflwyno tir ar gyfer tai. Dylwn ychwanegu hefyd nad edrych ar dir Llywodraeth Cymru yn unig y mae'r grŵp gweinidogol yn ei wneud; rydym yn edrych ar dir sy'n eiddo i awdurdodau lleol, byrddau iechyd, a'r cylch cyhoeddus yn fwy eang er mwyn nodi'r parseli sy'n strategol bwysig ac sydd heb gael eu cyflwyno eto ar gyfer tai.