Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Ie, mae gennym ein cronfa datblygu eiddo £40 miliwn, sy'n benodol ar gyfer—cronfa fenthyciadau ar gyfradd ddeniadol yw hi ar gyfer busnesau bach a chanolig. Caiff ei rhedeg drwy Fanc Datblygu Cymru. Yn wreiddiol, cronfa o £10 miliwn oedd hi, ond roedd y galw mor uchel amdani mewn gwirionedd ac roedd hi mor boblogaidd fel ein bod wedi gallu cynyddu'r arian sydd ar gael iddi. Ac unwaith eto, mae hwnnw'n arian a fydd yn cael ei ailgylchu yn ystod oes y cynllun hwnnw.
Rwy'n gweld rôl go iawn hefyd i fusnesau bach a chanolig yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau o ran datgarboneiddio. Newidiodd llawer o fusnesau bach a chanolig o fod yn adeiladu tai at wneud gwaith atgyweirio ar dai, a gwaith adnewyddu, ac ati, ond mewn gwirionedd, yn y dyfodol, buaswn yn hoffi iddynt fod yn rhan o'r rhaglen uchelgeisiol rydym yn ceisio'i datblygu ar gyfer gwneud gwaith ôl-osod ar gartrefi sy'n bodoli eisoes, ac rwy'n gobeithio gallu dweud mwy am hynny maes o law.