Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:34, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, fe sonioch yn eich datganiad rai wythnosau'n ôl eich bod yn gweld rôl fawr i fusnesau bach a chanolig yn y gwaith o ddarparu tai. Wrth gwrs, nid ydynt wedi chwarae rhan fawr yn y sector tai yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, felly rwy'n falch eich bod wedi sôn am hynny eto heddiw. Ac unwaith eto roedd yr hyn a ddywedoch chi yn eich ateb yn galonogol. A ydych yn darparu unrhyw gymhellion penodol eraill i fusnesau bach a chanolig er mwyn eu hannog i gymryd rhan yn y cynlluniau adeiladu tai?