Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Gyda chaniatâd y Llywydd, ni chyfeiriaf at benderfyniadau unigol awdurdodau unigol, ond hoffwn allu dweud bod pob un ohonom, ar bob ochr i'r Siambr, am weld democratiaeth fywiog ym mhob rhan o'r wlad ac mae hynny'n golygu sicrhau bod awdurdodau lleol, ni ein hunain fel Aelodau lleol, ac Aelodau o Senedd y DU yn ogystal, oll yn cymryd rhan mewn trafodaethau lleol ar ddyfodol ein cymunedau.
Rwy'n croesawu'n fawr y penderfyniad yn y Cynulliad Cenedlaethol i gyflwyno Senedd Ieuenctid Cymru a gwn fy mod eisiau siarad â'r bobl sy'n sefyll am sedd Blaenau Gwent, lle mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn ceisio—[Anghlywadwy.] Nid wyf yn meddwl bod fy nyddiau o sefyll etholiad i unrhyw sefydliad ieuenctid o fy mlaen, gadewch i mi ddweud. [Chwerthin.] Gobeithio y bydd pawb ohonom yn cymryd rhan yn y ddadl honno—