Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Yn ddiweddar, pasiodd Cyngor Sir Powys gynnig yn unfrydol a oedd yn datgan bod awdurdodau lleol yn rhy aml yn colli hyder yr etholwyr ynddynt, oherwydd eu bod yn ymddangos yn bell ac yn anatebol, a chefnogodd cynghorwyr o bob plaid y cynnig a gyflwynwyd gan gynghorydd sir Dolforwyn, Gareth Pugh. Cytunwyd bod angen gwneud rhagor i ennyn diddordeb a brwdfrydedd yr etholwyr i wneud llywodraeth leol yn rhan fwy bywiog a pherthnasol o'n cymunedau. Daw'r pryderon hyn o ganlyniad i'r ffaith nad oedd yr awdurdod lleol wedi ymgysylltu cymaint ag y gallent fod wedi'i wneud ynglŷn â chais cynllunio cyfleuster ailgylchu mawr yn Aber-miwl yn fy etholaeth. O'ch rhan chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i roi arweiniad i gynghorau sir lleol ynglŷn â sut y gallant wella'u hymgysylltiad ag etholwyr mewn perthynas â phenderfyniadau mawr pwysig?