Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Credaf y gall cynghorau cymuned chwarae rhan bwysig iawn yn cryfhau cyfranogiad democrataidd pobl a'r teimlad fod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn ffordd sy'n berthnasol iddynt hwy. Un o argymhellion y panel adolygu annibynnol ar gynghorau cymuned a thref oedd y dylai Cymru gyfan gael ei chynrychioli gan gynghorau cymuned a thref—nid yw hynny'n wir yn awr wrth gwrs—er mwyn darparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar le fel y rhagwelwyd yn yr adroddiad hwnnw. Tybed beth yw eich barn ar hynny, Weinidog. Er mwyn cryfhau cynghorau cymuned, a oes camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gynyddu'r gronfa o glercod cynghorau tref a chymuned cymwys a phriodol ar draws Cymru? Gwn fod rhai o'r cynghorau cymuned llai o faint yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn enwedig yn cael trafferth weithiau i ddod o hyd i'r person cywir i'w cefnogi.