Democratiaeth Leol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:46, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Ni oedd y dyfodol. [Chwerthin.] A gobeithio y bydd pawb ohonom yn gallu ymuno â'r bobl ifanc hynny i gymryd rhan mewn dadl ynghylch natur ein democratiaeth.

Nod y cynigion a gyflwynwyd gan fy rhagflaenydd, yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau ar gryfhau democratiaeth leol, oedd gwneud yn union hynny: cryfhau cyfranogiad gwleidyddol, cryfhau cyfranogiad wrth wneud penderfyniadau a chryfhau atebolrwydd y rhai sy'n gwneud penderfyniadau'n lleol. Pan fyddwn yn trafod y Bil hwn, rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom, ar bob ochr i'r Siambr, yn cymryd rhan yn y drafodaeth honno ac yn sicrhau ein bod yn myfyrio ar sut y gallwn gryfhau atebolrwydd democrataidd ymhellach ym mhob rhan o'r wlad hon.