Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i fonitro effaith y grant datblygu disgyblion yn agos a sicrhau gwerth am arian, ac rydym yn croesawu hynny. Dywedodd Estyn wrth y pwyllgor fod dwy ran o dair o ysgolion yn defnyddio'r grant yn effeithiol. Nododd Estyn ac Ysgrifennydd y Cabinet fod hyn i'w ddisgwyl gan ei fod yn adlewyrchu'r gyfran o ysgolion gydag arweinyddiaeth dda neu well. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn credu na ddylem fodloni ar sefyllfa lle nad yw traean yr ysgolion yn defnyddio'r grant datblygu disgyblion yn effeithiol a byddai'n gofyn am sicrwydd pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y pwynt hwn.
Mae'r grant datblygu disgyblion wedi bod ar waith ers dros chwe blynedd bellach, a buddsoddwyd bron i £400 miliwn ynddo. Mae consortia gwella ysgolion bellach wedi penodi arweinwyr grant datblygu disgyblion ym mhob un o'r pedwar rhanbarth. Rydym wedi argymell y dylent wneud llawer mwy i herio defnydd aneffeithiol o'r grant. Dyma rywbeth y canfu'r gwerthusiad gan Ipsos MORI a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru nad oedd yn digwydd yn ddigonol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhellion yn hyn o beth, yn enwedig ynglŷn â sut y gellir defnyddio'r grant datblygu disgyblion i wella presenoldeb disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a'u hymgysylltiad â'u haddysg.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am ganolbwyntio yn awr ar un neu ddau o'r argymhellion y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwrthod. O 2018-19, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion ddefnyddio'r grant datblygu disgyblion ar ddisgyblion sydd wedi bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim yn y naill neu'r llall o'r ddwy flynedd flaenorol; mae hyn yn cynnig hyblygrwydd sydd i'w groesawu. Fodd bynnag, nid yw ysgolion wedi cael unrhyw arian ychwanegol i wneud hyn, gan fod eu dyraniadau grant datblygu disgyblion yn seiliedig ar nifer y disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim mewn un flwyddyn. Os yw Llywodraeth Cymru am i ysgolion fabwysiadu diffiniad mwy hyblyg ar gyfer targedu'r grant, mae'r pwyllgor yn argymell y dylai ymrwymo i ariannu hyn yn llawn.
At hynny, mewn perthynas â dyraniadau, roedd y pwyllgor yn cydnabod y rhesymeg dros ddefnyddio data cyfrifiad ysgol blynyddol 2016: roedd y ffigurau prydau ysgol am ddim yn uwch yn y flwyddyn honno, gan alluogi mwy o arian i gael ei neilltuo ar gyfer y grant datblygu disgyblion. Fodd bynnag, roeddem yn bryderus ynglŷn ag ysgolion sy'n mynd yn groes i'r duedd ac a allai gael nifer uwch o ddisgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn 2017 neu 2018. O'r herwydd, galwasom am bennu dyraniadau'r grant datblygu disgyblion i ysgolion ar sail pa un bynnag sydd uchaf, naill ai nifer y disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn 2016 neu'r cyfrif diweddaraf sydd ar gael.
Gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion ynghylch effaith y grant datblygu disgyblion ar gyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a chanlyniadau anfwriadol newidiadau i fesurau perfformiad cyfnod allweddol 4. Dengys data cyrhaeddiad gynnydd calonogol ar gau'r bwlch yng nghyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn cael prydau am ddim, o leiaf hyd at 2016. Fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn bryderus iawn ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd yn dilyn newidiadau Llywodraeth Cymru i fesurau perfformiad cyfnod allweddol 4 yn 2017, a leihaodd y pwysoliad a roddwyd i gymwysterau galwedigaethol oherwydd pryderon fod gormod o ddisgyblion yn cael eu cofrestru ar eu cyfer.
Gwn nad oes modd cymharu cyfraddau cyflawniad y mesurau trothwy lefel 2 rhwng 2017 a blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, yr hyn a oedd yn peri pryder gwirioneddol i'r pwyllgor oedd y bwlch a oedd yn tyfu rhwng disgyblion a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim a'u cyfoedion. Canfuom nad oes cymhelliad i ysgolion gofrestru disgyblion ar gyfer cymwysterau galwedigaethol, hyd yn oed lle gallai fod yn iawn ar gyfer disgyblion unigol, ac mae hyn wedi effeithio'n anghymesur ar ddisgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim. Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar fyrder i ymchwilio i'r canlyniad anfwriadol hwn a dysgu gwersi ar y cyfle cyntaf. Rydym yn cydnabod bod mesurau perfformiad dros dro newydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer haf 2019. Fodd bynnag, o gofio bod y canlyniadau 2018 dros dro yn dangos sefyllfa debyg i 2017, byddem yn croesawu sicrwydd pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet fod carfannau prydau ysgol am ddim 2017 a 2018 heb gael eu heffeithio'n annheg ac yn niweidiol gan y newidiadau blaenorol. Sut y mae'r grant datblygu disgyblion wedi lliniaru, neu wedi methu lliniaru yn erbyn hyn?
Gellir dweud yr un peth am blant sy'n derbyn gofal; mae eu bwlch cyrhaeddiad o'i gymharu â'u cyfoedion wedi ehangu ers 2016 ar ôl blynyddoedd o gynnydd da ar gau'r bwlch. Gan symud ymlaen at yr elfen o'r grant datblygu disgyblion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant wedi'u mabwysiadu, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r gwerthusiad a gomisiynodd gan ICF Consulting i wella'r rhaglen yn y dyfodol. Clywodd y pwyllgor nad oedd yr agwedd hon ar y grant datblygu disgyblion wedi bod yn ddigon strategol tan yn weddol ddiweddar, pan wellodd y consortia rhanbarthol y ffordd y maent yn targedu ac yn gweinyddu'r grant.
Roedd pryder mwyaf y pwyllgor, fodd bynnag, yn ymwneud â'r ffordd y caiff y grant datblygu disgyblion ei ddefnyddio neu'r ffordd na chaiff ei ddefnyddio ar blant wedi'u mabwysiadu. Ceir oddeutu 4,000 o blant sy'n derbyn gofal plant yng Nghymru, a 3,000 i 3,500 amcangyfrifedig o blant wedi'u mabwysiadu. Er bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gonsortia dargedu'r grant datblygu disgyblion ar gyfer plant wedi'u mabwysiadu yn ogystal â phlant sy'n derbyn gofal, nid yw'r dyraniad cyllid ond yn seiliedig ar niferoedd y plant sy'n derbyn gofal yn unig. Mae hyn yn golygu un o ddau beth: naill ai nad yw'r grant datblygu disgyblion yn cael ei ddefnyddio ar gyfer plant wedi'u mabwysiadu neu os yw'n cael ei ddefnyddio, mae'r swm y pen o £1,150 wedi ei wanhau bron i'w hanner i bob pwrpas.
Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn edrych ar sut y gellir mynd ati'n fwy rhagweithiol i nodi plant sydd wedi'u mabwysiadu a'u cefnogi wedyn drwy'r grant datblygu disgyblion. Fodd bynnag, rydym yn siomedig fod ein hargymhelliad y dylai'r grant datblygu disgyblion gael ei ddyrannu i gonsortia yn seiliedig ar y niferoedd plant sy'n derbyn gofal a phlant wedi'u mabwysiadu wedi ei wrthod, er ein bod yn nodi y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei adolygu'n rheolaidd.
Gan droi at Her Ysgolion Cymru, rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein pedwar argymhelliad, er mai mewn egwyddor y mae wedi derbyn un ohonynt. Er bod y gwelliannau a ddangoswyd gan ysgolion sy'n rhan o'r rhaglen yn amrywiol, gwnaeth rhai ysgolion yn dda iawn o ganlyniad i'r her a'r cymorth ychwanegol, yn enwedig yn rhanbarth canol de Cymru. Mae'n hanfodol na chollir momentwm yn yr ysgolion hyn yn dilyn cau rhaglen, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi cytuno y dylai'r consortia rhanbarthol fonitro'r sefyllfa yn agos. Clywsom wahanol ddehongliadau o ran y bwriad i gynnal Her Ysgolion Cymru am gyfnod penodol yn unig, ond gwelwyd consensws cyffredinol yn ein tystiolaeth fod gwir angen i raglen o'r fath redeg am fwy na thair blynedd i gael effaith barhaol.
Nododd y pwyllgor safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet fod Her Ysgolion Cymru wedi cyflawni ei diben tra bo'r consortia'n magu gwraidd, ac y gallant bellach gymryd yr awenau o ran targedu gwaith gwella ysgolion ar gyfer ysgolion penodol. Ond ni allai'r pwyllgor ddeall pam fod y penderfyniad i ddod â Her Ysgolion Cymru i ben saith mis cyn i'r gwerthusiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun, gael ei gwblhau. Roeddem hefyd yn bryderus o glywed am ddiffyg ymrwymiad i ddysgu gwersi gan Her Ysgolion Cymru gyda'r rhai sy'n ganolog i'r gwaith o gyflawni'r rhaglen yn dweud wrth y pwyllgor eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu cau allan rywfaint.
Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru a'r consortia wneud mwy i ddysgu gwersi gan Her Ysgolion Cymru er mwyn cymhwyso'r rhain i'r gwaith o wella ysgolion yn fwy cyffredinol, ac rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i wneud hyn. Roedd y pwyllgor yn pryderu, yn dilyn cau'r rhaglen, y byddai ei chyllideb flynyddol yn mynd yn ôl i gronfeydd wrth gefn, yn hytrach nag i fannau eraill o fewn y gyllideb addysg. Yn wir, mae'r ymchwiliad hwn wedi amlygu mater ehangach yn ymwneud ag ariannu ysgolion, sydd wedi codi dro ar ôl tro mewn gwahanol ymchwiliadau a wnaeth y pwyllgor. Bydd y pwyllgor yn edrych ar y materion hyn a'r broses o ddyrannu cyllidebau ysgol yn ei ymchwiliad sydd ar y ffordd i gyllido ysgolion, ac mae hyn, wrth gwrs, yn fater allweddol ar gyfer cyllideb ddrafft 2019-20, yn enwedig o ystyried y pryderon a fynegwyd ynghylch lefel y cyllid ar gyfer cyllidebau ysgolion.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r rhanddeiliaid am y ffordd y maent wedi ymwneud yn gadarnhaol â'r ymchwiliad ac am eu cyfraniadau gwerthfawr, yn ogystal â'r ysgolion yr ymwelwyd â hwy. Hoffwn ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb cadarnhaol i'r ymchwiliad hwn ac i'n hargymhellion. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gynorthwyo disgyblion difreintiedig i gyflawni eu potensial llawn a chodi safonau ysgolion yn fwy cyffredinol. Gobeithiaf fod ein hadroddiad wedi dangos gwerth monitro'n rheolaidd fod dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn bendant yn werth yr arian.
Mae ein holl ddisgyblion, beth bynnag yw eu cefndir, yn haeddu cael yr effaith fwyaf a'r gwerth gorau am arian o ddull wedi'i dargedu. Diolch.