Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn. Fel aelod newydd o'r pwyllgor, mae hwn wedi bod yn ddeunydd darllen diddorol iawn, a chyda'r ffocws angenrheidiol iawn ar gyllidebau ysgol bellach, credaf ein bod i gyd yn croesawu'r craffu hwn ar effeithiolrwydd gweithgareddau penodol a sefydlogrwydd y ffrydiau incwm sy'n sail iddynt.
Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn gweld a yw arweinwyr ysgolion yn gwneud penderfyniadau gwariant ar sail yr hyn y credant y bydd yn gweithio orau ac yn gobeithio y gallant ddod o hyd i adnoddau digonol ar gyfer y penderfyniadau hynny yn nes ymlaen, neu a yw'n fater o ddod o hyd i'r cyllid yn gyntaf, gan arwain, efallai, at gynnig i blant sy'n llai na'r gorau sy'n bosibl. Oherwydd gellid dadlau yn y ddau achos, nad yw'r naill benderfyniad na'r llall mor effeithiol ag y mae angen iddo fod. Yn y cyntaf, mae'r ansawdd yno, ond gallai fod yn anfforddiadwy ac felly'n anghyflawnadwy, ac yn yr ail, efallai na fydd yr opsiwn rhatach yn cyrraedd y nod yn llwyr o ran yr amcanion mwy heriol ar gyfer plant penodol. Yn amlwg, rwy'n sylweddoli bod hyn yn gorsymleiddio'r cyfyng-gyngor sy'n wynebu arweinwyr ysgol—nid yw'r cyfan yn ymwneud ag arian—ond fel y mae argymhelliad 1 yn yr adroddiad hwn yn egluro, mae gwerth am arian a chost cyfle yn ystyriaethau ar gyfer y Cynulliad hwn, o ystyried y cyfyngiadau ariannol sydd arnom.
Rydym yn cydnabod yr hyn y gobeithiwch ei gyflawni drwy'r grant datblygu disgyblion, Ysgrifennydd y Cabinet, a byddem yn disgwyl amddiffyniad cadarn ohono pan ymddengys nad yw'n cyrraedd y nod, ond yr hyn y byddwn yn chwilo amdano'n benodol yw esboniad credadwy o pam y mae'n gweithio pan yw'n gweithio a gwerthusiad gonest pam nad yw'n gweithio pan nad yw'n gweithio. Oherwydd, os yw'n llythrennol ond yn ymwneud ag arian yn unig, byddwn yn cefnogi eich dadleuon i'r Ysgrifennydd cyllid dros gael mwy o arian. Fodd bynnag, os yw'n ymwneud â gwendidau o ran arweinyddiaeth ysgol neu gonsortia neu awdurdodau lleol, neu hyd yn oed o fewn Llywodraeth Cymru neu Estyn, rhaid i chi fod yn onest gyda ni. Felly, er fy mod yn derbyn gwerth systemau olrhain a chasglu data yn llwyr, a gwelaf eich bod wedi sôn am hynny yn eich ymateb i argymhelliad 1, mae gennyf ddiddordeb hefyd yn yr hyn y gallech ei alw'n—nid yw 'rheoli perfformiad' yn hollol gywir, ond y modd y byddwch yn casglu gwybodaeth ystyrlon am hynny i chi allu gweithredu arno wedyn.
Fel y gwyddoch, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn ariannu ysgolion yn fwy uniongyrchol ac ymddiried mewn athrawon ac aelodau eraill o staff i wneud penderfyniadau, ond daw hynny law yn llaw â mwy o gyfrifoldeb dros dryloywder a llywodraethu. Oherwydd gallwn ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif hyd ddydd y farn, ond fel y gwelwn dro ar ôl tro, nid yw hynny yr un fath â Llywodraeth Cymru yn derbyn atebolrwydd ac yn gweithredu pan fydd y Cynulliad yn tynnu sylw at ei gwendidau. Felly, mae'n braf nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi derbyn cynifer o argymhellion yr adroddiad sy'n ymdrin â phryderon ynglŷn â methiant cenhadaeth mewn gwirionedd—nid yn gyffredinol, ond mewn rhai achosion.
Ac mae'r pwynt am golli ffocws ar blant mwy abl a thalentog o grwpiau targed y grant datblygu disgyblion yn sylw sy'n bwysig i mi, rhaid imi gyfaddef. I fod yn glir, nid wyf yn mynd i fod yn gwneud unrhyw ddadleuon dros ysgolion gramadeg yn ystod y ddadl hon, felly os gwelwch yn dda peidiwch â chael eich dargyfeirio gan hynny, ond mae'r cwestiwn ynglŷn â beth a ddigwyddodd i statws y Gymru ddosbarth gweithiol, anffyniannus fel crochan cyflawniad addysgol yn dal i hofran uwch ein pennau. Ac er y gallwn sôn am ein dealltwriaeth ehangach o effeithiau tlodi a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod, nid yw fel pe na baent yn bodoli o'r blaen, ac eto nid yw'n ymddangos bod ein system addysg yn darparu ar gyfer, nac yn codi mwy o'r bobl ifanc dlawd ond gwirioneddol alluog hyn i gyrraedd y cyfleoedd i'r un graddau ag y gallai ei wneud o'r blaen. Felly, byddwn yn disgwyl gweld yr argymhellion a dderbyniwyd, gan gynnwys argymhelliad 3, yn troi'n weithredu ac yn gwella cyrhaeddiad, a byddwn hefyd yn disgwyl asesiad o effaith briodoladwy eich ymgynghorwyr strategol y grant datblygu disgyblion.
Yn olaf, eich dull o atal rhai o'r ysgolion rhag chwarae'r system—y newid hwn o BTEC i TGAU ar gyfer y carfannau disgyblion y soniwn amdanynt yn y ddadl hon, a'r effaith ymddangosiadol ar raddau a natur cymwysterau galwedigaethol. Mae wedi cael ei godi o'r blaen, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed ychydig mwy eto heddiw fod cofrestru'r plant y soniwn amdanynt am gymwysterau cyfwerth â TGAU yn hytrach na TGAU wedi gwneud i gau'r bwlch cyrhaeddiad edrych ychydig yn fwy trawiadol na'r hyn ydoedd mewn gwirionedd. Felly, rwy'n eich edmygu am beidio â derbyn hynny, ond nid wyf yn siŵr beth fydd yn digwydd nesaf i'r bobl ifanc sydd ar ochr anghywir i'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw, a'r hyn sydd angen i chi ei wneud bellach gyda'r grant datblygu disgyblion—gan mai am ariannu rydym yn sôn—yn ogystal â strategaethau eraill.
Yr hyn y mae wedi ei amlygu, er hynny—neu'r rhagfarnau y mae wedi eu cadarnhau, os mynnwch, Ddiprwy Lywydd—yw bod cymwysterau galwedigaethol cyn-16 wedi cael eu trin fel cymwysterau ansylweddol, ac ar ôl gweld copïau o'r papurau gwyddoniaeth perthnasol ar fy aelwyd fy hun, gallaf weld pam. Does bosib na ddylai cyrsiau ac arholiadau galwedigaethol ymwneud ag ymateb i wahanol alluoedd ac arddulliau dysgu dysgwyr, a dylent ddal i ymwneud â sicrhau rhagoriaeth, ond mewn ffordd wahanol gyda ffyrdd gwahanol o gyflawni lefelau uchel o berthnasedd ymarferol. Ni lwyddwn i gyrraedd unman yn debyg i barch cydradd os yw'r sefydliad yn trin arholiadau galwedigaethol fel opsiwn 'gwneud y tro', yn enwedig ar gyfer y rhai sydd fwyaf o angen symudedd cymdeithasol.