Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Mi fuaswn yn hoffi diolch i Llyr Gruffydd, fy rhagflaenydd ar y pwyllgor yma, am ei waith trwyadl, ac rydw i hefyd yn edrych ymlaen at gyfrannu yn egnïol at waith y pwyllgor yma ac fel llefarydd addysg Plaid Cymru. Mae gwella cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig yn fater hollbwysig i Blaid Cymru, ac yn ôl yr Ysgrifennydd Cabinet, mae o hefyd yn flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mi roedd ymrwymiad i gynnal y grant datblygu disgyblion drwy gydol y pumed Cynulliad yn un o'r deg blaenoriaeth addysg y cytunodd efo'r Prif Weinidog pan gafodd ei phenodi i'r Cabinet ym Mehefin 2016.
Ond, yn anffodus, mae nifer o'r argymhellion pwyllgor sydd wedi cael eu gwrthod gan yr Ysgrifennydd addysg yn ymwneud ag ymestyn cymhwyster disgyblion ar gyfer y grant datblygu disgyblion. Mi fydd cynigion Llywodraeth Cymru i newid y meini prawf ar gyfer cinio ysgol am ddim yn cael effaith andwyol ar ddisgyblion difreintiedig. Ar hyn o bryd, mae teuluoedd sy'n gymwys ar gyfer credyd cynhwysol yn gymwys ar gyfer cinio ysgol am ddim. O dan gynigion y Llywodraeth, dim ond teuluoedd gydag enillion net dan £7,400 y flwyddyn fydd yn gymwys ar gyfer cinio am ddim o fis Ionawr 2019. Mae Cymdeithas y Plant yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol yn parhau i dderbyn cinio ysgol am ddim. Byddai hynny'n costio £35 miliwn ychwanegol y flwyddyn. Mi fyddai codi'r cap ar enillion net i £14,000 y flwyddyn, fel sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon, yn costio £20 miliwn yn ychwanegol.
Fe gollwyd £15 miliwn y flwyddyn o'r portffolio addysg pan ddaeth Her Ysgolion Cymru i ben. Yr oedd £12 miliwn o'r arian hwnnw yn swm canlyniadol Barnett. Mae'r Alban hefyd yn darparu cinio am ddim i'r holl ddisgyblion mewn adrannau babanod, gan olygu mai Llywodraeth Lafur Cymru a'r Ysgrifennydd Cabinet o'r Democratiaid Rhyddfrydol fydd gan y polisi mwyaf cybyddlyd yng ngwledydd Prydain. Byddwn i'n awgrymu y byddai'r £15 miliwn a gollwyd o'r gyllideb addysg yn gallu cyfrannu tuag at y gost o wrthdroi'r penderfyniad yma. Fe gyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar ddiwygio'r meini prawf cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim ar ôl i'r pwyllgor orffen ystyried y dystiolaeth. Mae'n siomedig bod amseru'r Llywodraeth wedi golygu nad oedd gan y pwyllgor gyfle i graffu ar hyn fel rhan o'r adroddiad yma.
Rydw i am droi at ail agwedd yr adroddiad sydd yn tynnu fy sylw i ac wedi tynnu sylw nifer o aelodau'r pwyllgor dros gyfnod o flynyddoedd erbyn hyn, sef mater ariannu ysgolion yn gyffredinol. Mae £94 miliwn, neu 6 y cant o gyfanswm cyllideb refeniw addysg yn cael ei wario ar y grant datblygu disgyblion, gyda £400 miliwn yn cael ei fuddsoddi hyd yn hyn. Fe fyddaf i’n siomedig, felly, fod Estyn, yn eu tystiolaeth nhw, yn dweud mai dim ond dwy ran o dair o ysgolion sy’n defnyddio’r grant yma mewn ffordd effeithiol. Yn anffodus, mae’n rhaid inni ddod i’r casgliad bod toriadau cyson i gyllidebau cynghorau wedi arwain at doriadau i gyllidebau ysgolion, ac felly nid ydy hi’n peri syndod bod ysgolion wedi bod yn defnyddio arian o’r grant—y grant datblygu disgyblion—er mwyn llenwi bylchau yn eu cyllidebau craidd. Rŵan, rydw i'n gwybod nad dyna ydy’r pwrpas, ond dyna ydy realiti’r sefyllfa mewn nifer cynyddol o ysgolion.
Yn ôl grŵp ffocws y pwyllgor, mae’r grant yn celu’r ffaith nad yw cyllideb ysgolion yn ddigonol. Nid adnodd ychwanegol ydy’r grant bellach, ond cyllideb graidd ar newydd wedd. Nid fi sy’n dweud hynny; arbenigwyr yn y maes sy’n dweud hynny. Daeth y pwyllgor i’r casgliad, felly, ei fod yn cefnogi’r egwyddor o gyllid wedi’i dargedu, ond ei fod o’r farn na all yr egwyddor hon lwyddo oni bai bod cyllidebau craidd ysgolion yn cael eu hariannu’n ddigonol.
Mae argymhelliad 30 yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu pa mor ddigonol ydy cyllidebau ysgolion ac ystyried sut y mae hyn yn effeithio ar ystyriaeth ysgolion o gyllid wedi’i dargedu, fel y grant datblygu disgyblion a’r defnydd ohono fo.
Mae gwir angen mynd i’r afael â’r broblem yma, ac mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod arian digonol i ddarparu addysg safonol ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Dylai codi cyrhaeddiad plant difreintiedig fod yn un o’r prif flaenoriaethau, ond nid yw hyn am ddigwydd dan raglen o lymder, lle mae ysgolion yn colli athrawon a chymorthyddion dysgu, gan arwain at gylch dieflig o ostwng safonau addysg.