6. Brexit a Chydraddoldebau — Canfyddiadau ar y cyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:13, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Felly, rydym wedi galw'n gyson am amddiffyn yr hawliau hyn. Mae canfyddiadau'r adroddiad hwn gan y ddau bwyllgor ar y cyd ar effaith Brexit ar hawliau dynol hefyd yn cefnogi llawer o'n pryderon. Mae'r llythyr cychwynnol at y Prif Weinidog yn nodi, er enghraifft, yn wahanol i lawer o wledydd eraill, nad yw'r hawl i gydraddoldeb yn y DU wedi'i diogelu gan fil hawliau cyfansoddiadol a fyddai'n cyfyngu ar y graddau y gallai deddfwriaeth seneddol erydu neu ddiddymu cydraddoldeb. Mae cyfraith yr UE ar hyn o bryd yn cyflawni'r swyddogaeth wrth gefn hon.

Yr hyn sy'n peri fwyaf o bryder i ni yw goblygiadau'r cytundeb a wnaed rhwng y DU a Llywodraeth Cymru i ddiddymu Deddf y Gyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018. Fel y byddwch yn gwybod, nid yw Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 Llywodraeth y DU yn cynnwys siarter hawliau sylfaenol Ewrop yng nghyfraith y DU, er gwaethaf ymgais i ddiwygio'r Ddeddf honno i'w chynnwys. Mae hyn wedi arwain at y cwestiwn rhesymol, a ofynnwyd gan y pwyllgor, ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu amddiffyn yr hawliau hynny. Mae'r ymateb yn llai na boddhaol a dweud y lleiaf. Rwy'n dyfynnu:

Mae'r rhain yn faterion a fydd yn galw am ystyriaeth ofalus. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio sicrwydd ynghylch hawliau unigol yn y misoedd sydd i ddod.

Wel, dyna ddweud wrthynt, onid e?

Pan ofynnwyd iddi sut y gall sicrhau na chaiff hawliau presennol eu herydu, mae'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi bodloni ar ddyfynnu Deddf Hawliau Dynol 1998. Yn fwy rhyfedd byth, cyfeiriodd at ymrwymiad y Llywodraeth i hawliau drwy nodi'r ffaith bod egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn wedi eu hymgorffori yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O ddifrif? Yr unig reswm y cafodd hyn ei gynnwys yn y Ddeddf honno oedd oherwydd bod un o'u grŵp wedi pwyso'r botwm anghywir ac wedi pleidleisio o blaid gwelliant i'w ymgorffori. Nid oedd yn y Ddeddf am fod Llywodraeth Cymru eisiau iddo fod yno. Felly, mae'n amlwg i ni fod angen gwneud llawer mwy, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth sy'n bosibl i amddiffyn hawliau pobl yng Nghymru ar ôl Brexit. Mae hynny'n golygu peidio ag ildio i Lywodraeth y DU sy'n cael ei chadw'n wystl gan ffwndamentalwyr y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd a Rees Mogg. Ac mae hefyd yn golygu bod angen bil hawliau ar gyfer Cymru. Nid dyna yw diben y ddadl heddiw, ond mae'n rhywbeth y byddaf yn dychwelyd ato ar adeg arall.