Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon ar ein lluoedd arfog yn ystod yr wythnos bwysig hon o gofio cenedlaethol ac rwy'n codi i gefnogi gwelliant y Llywodraeth.
Hoffwn ddechrau ar nodyn personol. Gwn fod yr Aelod dros Orllewin Clwyd hefyd yn ffrind a chydweithiwr i Carl Sargeant. Flwyddyn wedi marw Carl, gwn fod ei ddiffuantrwydd a'i bresenoldeb yn byw o hyd i'r rhai ohonom yma heddiw a oedd yn malio amdano, ond mae hefyd yn parhau yn y mentrau a'r ddeddfwriaeth barhaus a ysgogodd ar ran Cymru gyfan, a chredaf y bydd yn parhau i flodeuo ar gyfer Cymru gyfan. Ar y mater hwn, rwyf am ddyfynnu'r Aelod dros Orllewin Clwyd a ddywedodd fod Carl yn allweddol yn y gwaith o sicrhau bod rhai o'r gwelliannau arwyddocaol wedi'u darparu, ac mewn gwirionedd, un o'r rhannau pwysicaf oedd cael cymunedau'r lluoedd arfog at ei gilydd, yn enwedig y sector gwirfoddol, sy'n aml yn y gorffennol wedi bod yn rhanedig ac yn gweithio mewn seilos. Helpodd Carl i sicrhau bod cynhadledd y lluoedd arfog yn cael ei chynnal bob blwyddyn i helpu i oresgyn y rhwystrau hynny. Ac mae Darren hefyd yn rhannu'r un ymrwymiad i'n lluoedd arfog ag y dangosai Carl mor angerddol bob amser. Ar ôl cael yr anrhydedd yn ddiweddar o ymuno â grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar y lluoedd arfog, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi, Darren, yn y maes pwysig hwn.
Felly, wrth i ni nodi canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad a diwedd y rhyfel byd cyntaf, mae'n iawn ein bod yn ymuno ag ymgyrch #ThankYou100 y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n cofio'r rhai a wasanaethodd, a aberthodd ac a newidiodd ein byd rhwng 1914 a 1918. Fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, mae'n anrhydedd i minnau hefyd ac rwy'n falch iawn o sefyll yma heddiw yn Siambr Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi diolch ar ran ein cymunedau a fy nghymunedau i yn Islwyn am yr arwriaeth a ddangoswyd gan ein brodyr a'n chwiorydd ganrif yn ôl. Byddwn yn eu cofio.
Er bod y cyfrifoldeb hwn dros y lluoedd arfog heb ei ddatganoli wrth gwrs, gwn fod y Llywodraeth Lafur hon yn hynod o falch o'r 385,000 o bobl sy'n aelodau o gymuned y lluoedd arfog ar draws Cymru, ac rydym wedi ymrwymo'n gadarn i egwyddorion cyfamod y lluoedd arfog. Fel y dywedais wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gynharach heddiw a ddoe, credaf ei bod hi'n bwysig inni barhau i gryfhau'r uned cyn-filwyr o fewn Llywodraeth Cymru a thyrchu ymhellach er mwyn asesu unrhyw fylchau posibl yn y ddarpariaeth o wasanaethau a fydd yn galw am sylw. Fe allwn ac fe fyddwn yn parhau gyda'r hyn a adawodd Carl ar ei ôl yn y lle hwn yn hyn o beth, ac rwy'n hyderus ac yn bendant mai dyma yw ewyllys wleidyddol a gweledigaeth glir Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth.
Lywydd, i gloi, rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi cyflwyno'r cynnig hwn, yn galw'n briodol hefyd ar arweinwyr Torïaidd y DU yn y Llywodraeth i gefnogi ein lluoedd arfog, oherwydd ym mis Gorffennaf, clywsom y bydd personél y lluoedd arfog yn derbyn codiad cyflog o 2 y cant. Mae hynny'n is nag argymhelliad corff adolygu cyflogau'r lluoedd arfog, ac mae'n gynnig cyflog sy'n is na chwyddiant. Yn yr hinsawdd ansefydlog sydd ohoni, nid yw'n syndod fod bron i 15,000 o bobl wedi gadael y lluoedd arfog dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig, er bod nifer y bobl sy'n ymuno â'r lluoedd arfog yn gostwng yn fawr.
Nid wyf yn credu bod hyn yn iawn, ac mewn cyfnod o ansicrwydd byd-eang cynyddol, bygythiad terfysgaeth a phryderon ynghylch diogelwch Brexit, gadewch inni gofio am bawb sydd wedi gwasanaethu, sy'n barod i wasanaethu ac a oedd yn barod i wneud yr aberth eithaf ar ran ein gwlad—yn barod i sicrhau ein bod yn parhau i anrhydeddu eu hymrwymiad, nid yn unig mewn gair a rhethreg, ond fel y gwnaeth Carl, drwy weithredu deddfwriaethol a chynlluniau, i sicrhau diogelwch pawb yn ein cymdeithas. Diolch.