7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Lluoedd Arfog

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:51, 7 Tachwedd 2018

Diolch am y cyfle i gofio'r rhyfel mawr. Yn 1916, roedd fy nhaid yn 21 mlwydd oed, newydd briodi, ac yn y Royal Welch Fusiliers yn y Somme ac yn Ypres. Roedd taid yn un o fechgyn Dolgellau a'r cylch efo'i gilydd yn y rhyfel mawr, a bechgyn Traws—Trawsfynydd—heb fod ymhell oddi wrthynt, ar faes y gad, a'r cyfathrebu yn Gymraeg ar gaeau dramor, a marwolaethau ffrindiau agos yn cael effaith ddwys arnynt i gyd yng nghanol y brwydro ac yn rhwygo calonnau mamau a gwragedd a chymunedau clos Cymraeg gwledig Cymru a'i magodd nhw, a rhwygo seiliau anghydffurfiaeth heddychlon Cymraeg ar yr un pryd. Bechgyn a oedd yn gwrthod y consgripsiwn ar sail ffydd yn cael eu herlid a'u dilorni, a'n capeli llawn ar y pryd yn llawn gwewyr hefyd. Gweision ffermydd Meirionnydd wedi cael mynd i ryfel, a meibion y meistri wedi cael aros adre. Ie, mae pobl yn cofio. 

Un dydd, ar ganol brwydr, bu i gyfaill taid gael ei anafu yn ddifrifol, wedi ei saethu tra'n brwydro nesa i taid. Bu i taid ei godi a'i gario ar ei gefn a cheisio mynd â'i gyfaill i loches, ond bu i fwled arall y gelyn saethu ei gyfaill o Ddolgellau yn farw, tra'i fod ar gefn taid, a taid yn goroesi yn rhyfeddol. Ond wrth i'r brwydro barhau dros erwau gwaedlyd Fflandrys a Ffrainc, dioddefodd taid gael ei wenwyno gan y nwy gwenwynig, y mustard gas, a oedd yn cerdded y ffosydd yn niwl llosg, dieflig, angheuol—ie, rhaid cofio—a phydrodd ei draed wrth sefyll am fisoedd yn y ffosydd llawn dwr, gwaed a budreddi o bob math, yn wynebu’r gweddillion cnawd ar y weiren bigog bondigrybwyll.

Bu i taid oroesi yn wyrthiol, neu fuaswn i ddim yma, ond prin bu iddo siarad am ei brofiadau erchyll a'r holl ddioddefaint. Cofio mud oedd cofio taid, mor wahanol i ffawd Hedd Wyn, bardd y gadair ddu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhenbedw, 1917. Enillodd Hedd Wyn, y ffarmwr a'r bardd o Drawsfynydd, y gadair y flwyddyn honno, ond roedd wedi ei ladd ar Pilckem Ridge, brwydr Passchendaele, ar 31 Gorffennaf  1917—mis cyn yr Eisteddfod, ond wedi iddo fo ddanfon ei awdl Yr Arwr i mewn i'r Eisteddfod. Daeth dydd y cadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol 1917—mis Medi—a David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain, yn y gynulleidfa. Ond er galw'r bardd buddugol, arhosodd cadair yr Eisteddfod yn wag, a chwrlid du yn cael ei rhoi drosti, a'r dagrau yn llond y lle, wrth i bawb ddarganfod ffawd y bardd buddugol.

Ie, rydym ni'n cofio. Gwnaeth Hedd Wyn ymuno â'r fyddin er mwyn i'w frawd iau osgoi gorfodaeth filwrol—osgoi y conscription. Heddiw, mae cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, Yr Ysgwrn, wedi'i adfer, yn sefyll fel yr oedd ym 1917, inni gofio aberth cenhedlaeth ifanc ddisglair ein gwlad. A Hedd Wyn, yn gadael toreth o farddoniaeth fendigedig ar ei ôl, yn cael ei ladd yn 30 mlwydd oed.

Clywch, i orffen, ei gerdd Rhyfel:

'Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng, / A Duw ar drai ar orwel pell; / O'i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng, / Yn codi ei awdurdod hell. / Pan deimlodd fyned ymaith Dduw / Cyfododd gledd i ladd ei frawd; / Mae sŵn yr ymladd ar ein clyw, / A'i gysgod ar fythynnod tlawd. / Mae'r hen delynau genid gynt / Ynghrog ar gangau'r helyg draw, / A gwaedd y bechgyn lond y gwynt, / A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw.'

Cofiwn aberth cenhedlaeth taid.