Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Ddoe, ceisiais amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cymuned y lluoedd arfog. Hoffwn groesawu'n gynnes iawn y sylwadau a wnaed gan Mark Isherwood wrth agor y ddadl y prynhawn yma. Roeddwn yn teimlo iddo wneud rhai sylwadau rhagorol, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn gyfraniad meddylgar a gwerthfawr i'r ddadl hon. Byddaf yn ceisio ateb y rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaed yn y ddadl yn ystod yr ateb hwn, ond rwy'n cydnabod na fyddaf yn gallu ymateb i'r holl bwyntiau a wnaed. Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddweud y byddaf yn ysgrifennu at Mark gyda chopi i'r holl Aelodau yn ymateb yn llawnach i'r pwyntiau a godwyd yn y cyfraniad agoriadol, oherwydd rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni ymateb yn llawn i'r pwyntiau a wnaed ganddo.
O ran ein hymagwedd at hyn, a gaf fi ddweud fy mod wedi mwynhau gwrando ar yr areithiau yn y ddadl a gawsom y prynhawn yma? Roedd hi'n dda clywed geiriau Hedd Wyn yn cael eu llefaru y prynhawn yma, ac roeddwn yn credu bod Dai Lloyd a Helen Mary Jones wedi gallu gweu straeon teuluol pawb ohonom, ein straeon personol, i mewn i'n stori genedlaethol. Credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod wrth inni sôn am y colledion y mae'r wlad hon wedi'u dioddef yn gwarchod ein rhyddid, ein cymdeithas, ein cymunedau a'n democratiaeth, mai dyma'r bobl—maent yn dadau a mamau, yn wragedd a gwŷr, yn frodyr, chwiorydd, meibion a merched—ac mae pawb ohonom yn adnabod pobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i wrthdaro.
Mae'n sobreiddiol iawn meddwl, pan fo Caroline Jones yn siarad am y gynnau'n tawelu ar yr unfed awr ar ddeg o'r unfed dydd ar ddeg, fod dros 800 o filwyr o Brydain a'r Gymanwlad wedi cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw. Byddai meddwl am y fath laddfa ar unrhyw ddiwrnod heddiw yn golled na ellid ei dychmygu, ond mae meddwl amdano'n digwydd ar y diwrnod pan wnaethom groesawu diwedd y rhyfel a dyfodiad heddwch yn dangos effaith wirioneddol y rhyfel ar gymunedau ar hyd a lled y wlad.
Mae'n bwysig cydnabod y pwyntiau a wnaeth Mohammad Asghar yn ei gyfraniad hefyd, pan siaradodd am y milwyr a ymladdodd yn y rhyfel hwnnw, a'r ffaith y byddai'r ffiwsilwyr, y byddai taid Dai Lloyd wedi ymladd ochr yn ochr â hwy mae'n debyg, wedi ymladd gyda, ac ochr yn ochr â milwyr o India, a byddent wedi ymladd ochr yn ochr â rhai a oedd yn addoli duwiau gwahanol—byddent wedi ymladd ochr yn ochr â milwyr Mwslimaidd a Hindŵaidd hefyd, milwyr rydym yn eu hadnabod yn ein hanes ein hunain. Mae'n bwysig ein bod, bob un ohonom, a rhai ohonom yn y Siambr hon, yn y dadleuon a gawn heddiw, a'r dadleuon gwleidyddol a gawn, yn cydnabod bod yr aberth a welwyd yn y rhyfel byd cyntaf yn aberth a wnaed gan bobl o bob gwlad, gan bobl o gefndiroedd diwylliannol a chrefyddol gwahanol iawn. Pan ddefnyddiwn iaith lac heddiw, dylem bob amser gydnabod bod canlyniad rhagfarn, canlyniad gwahaniaethu, yn rhy aml i'w weld ar faes y gad. Ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o bobl yn myfyrio ynglŷn â'r iaith a ddefnyddiant mewn gwleidyddiaeth heddiw wrth gofio aberth pobl eraill dros y blynyddoedd.
Rydym wedi treulio pedair blynedd yn edrych yn ôl dros y rhyfel byd cyntaf, a bydd canmlwyddiant y cadoediad ddydd Sul yn gyfle i ni, nid yn unig fel Llywodraeth, ond fel Cynulliad Cenedlaethol, fel Senedd genedlaethol y wlad hon, i ymuno â gwledydd eraill, nid yn unig yn y DU ond mewn mannau eraill, i nodi'r canmlwyddiant. Byddwn yn cael gwasanaeth cenedlaethol o ddiolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i allu coffáu'r holl rai a gollwyd, a anafwyd ac yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel hwnnw. Ond rwy'n gobeithio y byddwn oll yn ymuno â'r holl wledydd a gymerodd ran yn y gwrthdaro i gofio aberth pob gwlad, a'r holl bobl a gollwyd yn y rhyfel hwnnw. Gwn y bydd yr Aelodau hefyd yn manteisio ar y cyfle i fynychu digwyddiadau a gynhelir yn eu hetholaethau eu hunain, ar draws y wlad, i nodi'r adeg bwysig hon mewn hanes. Mae'n iawn ac yn briodol i bob un ohonom ymuno gyda'n gilydd i gofio aberth y lluoedd arfog o bob un o'n cymunedau yn y ffordd hon.
Credaf ei bod hi'n iawn ac yn briodol hefyd i ni ganmol gwaith Cymru'n Cofio a ddarparodd raglen gynhwysfawr i goffáu canmlwyddiant y rhyfel hwnnw, y rhyfel byd cyntaf. Bydd y cyllid yn parhau tan 2020 gan ganiatáu inni sicrhau hefyd ein bod yn gallu dysgu gwersi o'r rhyfel hwnnw. Rydym yn cofio mai cadoediad a gafwyd ym mis Tachwedd 1918, nid heddwch. Ac fe ddaeth heddwch, a chafodd yr heddwch ei greu gan arweinwyr gwledydd, gan gynnwys, wrth gwrs, ein David Lloyd George ein hunain lawer yn ddiweddarach, ac mae'n iawn ac yn briodol inni fyfyrio ar ganlyniadau rhyfel a chanlyniadau heddwch. Rwy'n gobeithio mai gwaddol barhaus Cymru'n Cofio fydd i bobl ar hyd a lled y wlad hon gofio nid yn unig digwyddiadau'r rhyfel byd cyntaf, ond canlyniadau'r digwyddiadau i'n gwlad a'r canlyniadau i gymunedau a theuluoedd.
Ddirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth yn cytuno ag ail bwynt y cynnig, a byddwn yn cefnogi llawer o'r hyn a ddywedwyd yn y ddadl ac yn y cynnig heddiw. Fel llawer o rai eraill, rwyf wedi gweld y silwetau tawel yn ymgyrch y Lleng Brydeinig Frenhinol #ThankYou100. Maent wedu'u lleoli ledled ein cymunedau, ac mae'r ffigurau hyn yn rhoi cyfle i ni fel gwlad ddweud 'diolch' wrth bawb sydd wedi gwasanaethu, aberthu a newid ein byd. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi'r ymgyrch bwysig hon, ac mae'n ein hatgoffa, rwy'n credu, nad enwau ar gofebau'n unig yw'r rhain, fod y rhain yn bobl, ac roedd y rhain yn bobl a safodd ac a fu'n byw ac a fu farw, a fu'n gweithio ac yn caru yn ein cymunedau, ac maent yn bobl a fu farw'n amddiffyn ein cymunedau. Dyma bobl y gall pawb ohonom eu hadnabod yn ein cof, ond weithiau rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod eu lle yn ein trefi a'n pentrefi ar draws Cymru.
Byddwn yn parhau â'n pecyn cymorth i anrhydeddu cyfraniad yr holl rai a fu'n gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog, a byddwn yn ceisio parhau i sicrhau na fydd unrhyw aelodau dan anfantais o ran cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i'w gwasanaeth yn y lluoedd arfog. Yr wythnos hon rwyf eisoes wedi trafod y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu fel rhan o'n gwaith ar gyflawni'r cyfamod. Nid wyf yn dymuno ailadrodd y pwyntiau hynny heddiw, ond rwyf am ddweud gair am y grŵp arbenigol. Roedd Mark Isherwood yn llygad ei le pan ddywedodd fod yn rhaid cael atebolrwydd cyhoeddus am y gweithredoedd y mae'r Llywodraeth hon yn eu cyflawni ar y cyfamod. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Rwy'n gobeithio bod y grŵp arbenigol yn ein galluogi i wneud hynny, i ddeall sut y byddwn yn cyflawni'r cyfamod, ac i ddeall lle nad ydym yn gwneud hynny, ac i ddeall sut y mae'n rhaid inni ddarparu mewn ffordd wahanol neu ffordd well mewn rhai mannau, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Byddwn yn cynhyrchu adroddiad blynyddol a fydd yn galluogi'r lle hwn i'n dwyn i gyfrif am yr hyn a wnawn a'r addewidion a wnawn. Gobeithiaf y bydd modd inni ystyried hefyd sut y gall ein democratiaeth yma yng Nghymru ein helpu i fy nwyn i ac eraill i gyfrif am yr hyn a ddywedwn, am yr ymrwymiadau a wnawn. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny gyda'r grŵp arbenigol a hefyd gyda'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog.
Ddirprwy Lywydd, wrth ddod â fy sylwadau i ben heddiw, gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn ymuno â mi i ddiolch i bawb sydd wedi gwasanaethu a phawb sy'n parhau i wasanaethu, a byddwn yn ymuno gyda'n gilydd fel gwlad y penwythnos hwn i gydnabod aberth enfawr y rhai na chafodd gyfle i ddod adref.