Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fel eraill yn y ddadl hon, hoffwn ddechrau fy sylwadau drwy roi teyrnged i waith fy ffrind a fy rhagflaenydd, Carl Sargeant. Rwy'n credu bod heddiw wedi bod yn ddiwrnod anodd i lawer ohonom, ac mae ein meddyliau gyda Bernie, Jack a Lucy a'r teulu. Ac wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom yn meddwl am y gwaith a wnaeth Carl a gobeithio hefyd y bydd pawb ohonom yn gallu uno gyda'n gilydd a chofio rhywun a oedd yn ffrind ac yn was da i bobl y wlad hon.