7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Lluoedd Arfog

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 6:15, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'n bleser gennyf fod yn rhan o'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, a hoffwn ddiolch i Darren Millar am yr ymrwymiad y mae'n ei ddangos wrth ei arwain. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Carl Sargeant, a weithiodd yn ddiflino yn y maes hwn a chyflawni llawer.

Ddydd Sul, byddwn yn ymgasglu wrth gofebion rhyfel ledled y wlad i nodi Diwrnod y Cadoediad, y diwrnod y tawelodd y gynnau yn ystod y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel. Gan mlynedd yn ôl ar yr unfed awr ar ddeg o unfed dydd ar ddeg yr unfed mis ar ddeg, daeth yr arllwys gwaed i ben, pum mlynedd o ryfel a welodd filiynau o fywydau'n cael eu colli yn y 'rhyfel mawr' fel y'i gelwir. Ond yn anffodus, nid hwn oedd y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel ac yn y 100 mlynedd wedyn, mae'r byd wedi gweld rhyfeloedd dirifedi heb ddiwedd ar yr arllwys gwaed. Mae'n ffaith drist fod rhyfel yn anochel weithiau. Rhaid inni wneud safiad yn erbyn cyfundrefnau ac unbeniaid gormesol sy'n benderfynol o ladd eu pobl eu hunain hyd yn oed.

Ar hyn o bryd mae 60 gwrthdaro arfog yn mynd rhagddynt ledled y byd ac oherwydd hyn, rydym yn gweld Rwsia fwyfwy eofn yn benderfynol o adfer ei ffiniau i'r hyn roeddent yn y cyfnod Sofietaidd. Oherwydd hyn, mae angen ein lluoedd arfog arnom yn fwy nag erioed. Mae arnom angen ein dynion a'n menywod ifanc mewn iwnifform sy'n barod i wneud yr aberth eithaf, i roi eu bywydau er mwyn amddiffyn ein rhyddid. Er mwyn anrhydeddu'r rhai a wnaeth yr aberth hwnnw ac i ddiolch i'r rhai sydd, ac a oedd yn barod i wneud yr aberth hwnnw, byddwn yn dod at ein gilydd ar yr unfed awr ar ddeg o unfed dydd ar ddeg yr unfed mis ar ddeg a byddwn yn eu cofio.

Ond fel Aelodau etholedig, mae gennym ddyletswydd i wneud cymaint yn fwy nag anrhydeddu ein harwyr marw. Rhaid inni sicrhau bod ein harwyr byw yn cael gofal da. Mae gormod o lawer o gyn-filwyr yn cael cam gan y wladwriaeth, mae llawer gormod yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma, a gormod o lawer yn y carchar am na chawsant eu helpu i ymaddasu i fywyd sifil, a gormod o lawer yn cysgu ar y stryd am nad oes ganddynt do addas dros eu pennau. Dynion a menywod sydd wedi brwydro drosom, sy'n barod i farw drosom, wedi'u hanghofio.

Mae cyfamod y lluoedd arfog i fod i sicrhau nad yw hyn yn digwydd, a dyna pam rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi penodi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog ledled Cymru. Fel y Ceidwadwyr, rwyf am sicrhau bod y cyfamod yn cael ei gynnal, ond nid wyf yn gwybod ai comisiynydd y lluoedd arfog yw'r ffordd iawn o wneud hynny. Credaf hefyd nad yw'r cyfamod yn mynd yn ddigon pell a byddaf yn cefnogi gwelliant Neil McEvoy yn galw am Ddeddf i warantu tai a gofal iechyd o ansawdd ar gyfer cyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol. Sut y gallwn ganiatáu i rywun a beryglodd eu bywyd drosom wrth amddiffyn ein gwlad a'n rhyddid gysgu mewn bin sbwriel y tu ôl i siopau neu i ail-fyw erchyllterau a thrawma'r rheng flaen drachefn a thrachefn? Dylid rhoi'r driniaeth orau sydd ar gael a chartref iddynt fel mesur bach iawn o ad-daliad am y ddyled enfawr sydd arnom iddynt.

Roedd hi'n anrhydedd ychydig wythnosau yn ôl ym Mhort Talbot: roedd ein maer lleol yn anrhydeddu cyfamod y lluoedd arfog, ac roedd hi'n wych cael sefyll ochr yn ochr â Blesma, yr elusen ar gyfer cyn-filwyr rhyfel sydd wedi colli breichiau neu goesau, a chasglu a gweld haelioni pobl Port Talbot wrth i'r bwced fynd yn drymach ac yn drymach. Pa ffordd well o nodi Sul y Cofio, a chanmlwyddiant diwedd y rhyfel mawr nag ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i wella bywydau ein cyn-filwyr? Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig a'r ddau welliant. Diolch.