Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 7 Tachwedd 2018.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r grŵp Ceidwadol am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw? Rwyf am ddechrau gydag ychydig o eiriau byr yn egluro sut y bydd grŵp Plaid Cymru yn pleidleisio yn y ddadl hon. Byddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, nid oherwydd ein bod yn credu bod popeth y gellid ei wneud yn cael ei wneud, gwnaeth Mark Isherwood achos effeithiol iawn a ddangosai nad dyna fel y mae, ond nid ydym yn argyhoeddedig ar hyn o bryd mai comisiynydd yw'r ateb, er y byddem yn agored i gael ein hargyhoeddi yn y dyfodol.
Yn yr un modd, gyda gwelliant 2, byddwn yn ymatal ar yr achlysur hwn, er ein bod yn sylweddoli cymaint o deimlad sydd y tu ôl iddo. Nid ydym yn gwbl argyhoeddedig eto mai deddfwriaeth yw'r ffordd ymlaen, ond mae'n bosibl y daw'n angenrheidiol, ac yn bersonol, buasai gennyf ddiddordeb mawr mewn archwilio sut y gallai deddfwriaeth o'r fath weithio a sut y gellid gwneud iddi sicrhau bod y cyfamod yn cael ei gyflawni'n effeithiol ac y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cosbi os ydynt yn methu gwneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, nid yw bob amser yn iawn defnyddio profiad personol pan fyddwn yn siarad yn y Siambr hon, ond teimlaf yr hoffwn wneud hynny heddiw. Hoffwn dalu teyrnged i fy nhad, John Mervyn Jones, a aned yn 1910 yng Nghwm Aman, Aberdâr. Ymunodd â'r Llynges Frenhinol Wrth Gefn yn 1938, nid oherwydd ei fod yn ifanc ac yn ddiniwed, roedd yn athro 28 mlwydd oed, nid oherwydd ei fod yn chwilio am antur neu'n awchu i ymladd, ef oedd un o'r dynion mwyaf addfwyn rwyf wedi'u hadnabod erioed ac roedd wedi gweld ei ewythr yn dod yn ôl wedi torri o'r rhyfel byd cyntaf; nid ymladd fyddai fy nhad wedi bod eisiau ei wneud. Ni wnaeth ymuno oherwydd gwladgarwch hyd yn oed, ond roedd wedi gweld twf ffasgiaeth yn Ewrop, ac roedd yn argyhoeddedig mai'r unig ffordd o drechu ffasgiaeth oedd drwy ymladd.
Gwasanaethodd drwy gydol y rhyfel ac fel llawer, ni siaradai lawer iawn am ei brofiadau. Fel plant, byddem yn clywed y straeon doniol. Fy ffefryn personol oedd fy nhad yn disgrifio cael pasta am y tro cyntaf yn yr Eidal ac yntau heb unrhyw syniad o gwbl beth ydoedd na beth ddylai ei wneud ag ef. Yn anffodus, yn enwedig i fy mam druan, gwnaeth iddo ymwrthod ag unrhyw beth yr ystyriai ei fod yn fwyd tramor ar hyd ei oes—cig yno, llysiau yno, ac na foed i'r ddau byth ddod at ei gilydd.
Lawer yn ddiweddarach, siaradai â mi yn arbennig, ac yn enwedig pan allai ddisgrifio'r profiadau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, am y profiadau tywyllach a wynebodd yn y rhyfel. Ond aeth ymlaen i gael teulu a gyrfa lwyddiannus, ac roedd yn ffodus ac yn ystyried ei hun yn lwcus. Yn fwy ffodus, wrth gwrs, na llawer o gyn-filwyr heddiw y gofynnir iddynt beryglu eu bywydau a cholli eu hiechyd mewn rhyfeloedd y mae llawer o bobl gartref yn eu gwrthwynebu.
Ar ddiwedd ei oes, arswydai fy nhad wrth dystio i'r aberth roedd gofyn i'n lluoedd arfog eu gwneud yn yr hyn a oedd yn ei farn ef yn rhyfel anghyfiawn ac anghyfreithlon yn Irac. Ar ôl ymladd ei hun, gwyddai beth oedd gofyn iddynt ei wneud. Byddai wedi ffieiddio, fel llawer o gyn-filwyr y lluoedd arfog rwy'n tybio, wrth weld bod disgwyl i bersonél eithriadol ein lluoedd arfog yma yng Nghymru heddiw hyfforddi peilotiaid Saudi i fomio sifiliaid diniwed yn Yemen. Nid dros hynny y brwydrodd.
Roedd yn gas ganddo ryfel, ond roedd bob amser yn credu iddo wneud y peth iawn a'r unig beth, a daeth adref i wlad ddiolchgar. Credai ei fod wedi amddiffyn democratiaeth, roedd yn falch o fod wedi gwneud hynny, ac roedd y genedl yn falch ohono. Mae'n llawer anos yn emosiynol i lawer o gyn-filwyr heddiw, gofynnwyd iddynt wasanaethu mewn rhyfeloedd dadleuol mewn amgylchiadau anodd iawn a chyda chanlyniadau aneglur. Eto i gyd, maent yn gwneud hynny.
Wrth i ni gofio'r rhai a wasanaethodd yn y gorffennol, rwy'n credu'n angerddol fod rhaid inni sicrhau ein bod yn cefnogi cyn-filwyr heddiw, yn enwedig y rhai sy'n dioddef trawma a phroblemau iechyd meddwl, ar ôl yr hyn y mae Llywodraethau olynol y DU wedi eu hanfon i'w wneud. Rhaid inni anrhydeddu'r cyfamod. Beth bynnag yw ein barn am y rhyfeloedd y gofynnwyd i'r dynion a'r menywod hynny wasanaethu ynddynt, fe wnaethant wasanaethu, a dylem roi ein diolch iddynt, a'u parchu a'u cefnogi.