Dyfodol Trefi yng Nghymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 13 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:05, 13 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod yr adroddiad yn dangos yn eglur—ac, wrth gwrs, roeddem ni eisoes yn gwybod hyn—bod siopau gwag yn amharu ar berfformiad cyffredinol canol trefi ac yn atal busnesau newydd rhag lleoli eu hunain yno. Mae'n debyg y byddwch chi'n gwybod bod Cyngor Sir Caerfyrddin dan arweiniad Plaid Cymru wedi gwneud buddsoddiad mawr yn Llanelli, gan brynu siopau, eu rhannu'n unedau llai y gall pobl fforddio eu rhentu wedyn, a throi lefelau uwch y siopau yn eiddo preswyl sydd hefyd yn dod â phobl i fyw yng nghanol y dref. Pa gymorth arall all Llywodraeth Cymru ei roi i awdurdodau lleol i'w galluogi i barhau i ymateb yn greadigol i'r argyfwng a wynebir gan ganol llawer o'n trefi?