Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Y gobaith ydy, wrth gwrs, y bydd y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol wir yn trawsnewid addysg ar gyfer plant a phobl ifanc ond, fel rydym ni wedi ei glywed, mae adnoddau digonol yn hollbwysig, ond hefyd y sgiliau priodol. Ac mae yna gwestiwn ynglŷn ag a ydy'r sgiliau yna ar gael ym mhob man ar hyn o bryd. Pa mor hyderus ydych chi felly y bydd disgwyliadau uchel sydd gan ddisgyblion, rhieni ac athrawon yn sgîl y Ddeddf newydd yma—pa mor hyderus ydych chi fydd y disgwyliadau yma yn cael eu gwireddu yn wyneb y toriadau yn enwedig?