Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Rwy'n hyderus o hynny. Fel y dywedais i yn gynharach, rŷm ni wedi bod yn datblygu strwythur dysgu proffesiynol i athrawon, a hefyd rŷm ni wedi sicrhau bod yna gyllid ar gael er mwyn hybu seicolegwyr addysgol a hefyd athrawon arbenigol. Rydym ni hefyd, wrth gwrs, yn gweithredu pecyn eang o hyfforddiant er mwyn helpu pawb sydd yn rhan o'r system i gefnogi dysgwyr gydag ALN er mwyn, wrth gwrs, iddyn nhw'n deall ac yn paratoi am y system newydd sy'n mynd i ddechrau yn 2020. So, rŷm ni'n hyderus y bydd y system, o achos y ffaith y bydd yna eithaf amser wedi bod cyn bod y gyfraith newydd yn dechrau—bydd y system felly yn barod i ddechrau yn iawn pan fydd y gyfraith yn dod i rym.