– Senedd Cymru am 6:32 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud i'r bleidlais. Mae'r bleidlais honno ar y ddadl ar adroddiad y comisiynydd plant, ac felly pleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Galwaf am bleidlais, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, un yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Dyna ddiwedd ar y trafodion am y dydd.