– Senedd Cymru ar 13 Tachwedd 2018.
Sy'n dod â ni at eitem 10, sef y ddadl ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant 2017-18. Rydw i'n galw ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad at y ddadl hon drwy ddiolch i'r comisiynydd plant, nid yn unig am ei hadroddiad blynyddol, ond hefyd am ei gwaith diflino ar ran plant a phobl ifanc Cymru drwy gydol y flwyddyn. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno bod rhoi llais i blant ac eirioli ar eu rhan yn rôl hanfodol. Felly, rwy'n croesawu ei hadroddiad a'r gwaith gwerthfawr y bu hi yn ei wneud ac y bydd yn parhau i'w wneud.
Mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran hawliau plant trwy eu hymgorffori yn y gyfraith trwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011—y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny, ac mae'n rhywbeth y dylem ni yng Nghymru fod yn falch iawn ohono. Rydym ni wedi ymrwymo'n angerddol i hawliau plant, a gwelir hyn yn amlwg gan mai ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i benodi comisiynydd plant.
Hawliau yw hawliau plant—nid ydyn nhw'n ddewisol—a byddwn ni fel gwlad yn gweithio'n galed i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu deall a'u parchu. Mae hawliau plant yn cefnogi ein huchelgais i bob plentyn yng Nghymru gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Maen nhw'n ysgogi polisïau a rhaglenni allweddol yng Nghymru, rhaglenni fel Dechrau'n Deg, ein gwaith o fynd i'r afael â phrofiadau andwyol yn ystod plentyndod, ac, yn wir, ein hymgyrchoedd magu plant. Yn fyr, mae hawliau plant yn rhan o'n DNA—maen nhw'n hollbwysig i'r ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau yng Nghymru.
Wrth gwrs, ceir llawer o feysydd polisi sy'n effeithio ar fywydau plant ar draws ein rhaglen lywodraethu, ac rwyf i wedi ysgrifennu at fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a gweinidogol i dynnu sylw at bwysigrwydd cadw hawliau plant wrth wraidd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud. A gwn fod hawliau plant yn ystyriaeth o ddifrif ar draws Llywodraeth Cymru. Mae enghreifftiau diweddar o arfer da yn cynnwys y pwyslais gweinidogol ar iechyd meddwl a lles plant, a chymorth cynhwysol i blant trwy'r rhaglen Plentyn Iach Cymru. Ac mae'r comisiynydd plant yn chwarae rhan hollbwysig fel hyrwyddwr annibynnol ar gyfer hawliau plant yng Nghymru. Yn rhan o'r swydd hon mae'r comisiynydd plant yn helpu i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, a gallaf gadarnhau i Aelodau'r Cynulliad ei bod yn sicr yn cymryd y swydd honno yn hollol o ddifrif, ac rydym yn croesawu hynny.
Bob blwyddyn, mae'n ofynnol i'r comisiynydd gyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n nodi sut y mae ei swyddfa wedi diogelu a hybu hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Yn yr adroddiad blynyddol eleni mae'r comisiynydd wedi gwneud 15 o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar draws addysg ac iechyd, gwasanaethau plant a thrafnidiaeth. Nawr, bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ei ymateb llawn cyn neu ar 30 Tachwedd, sy'n golygu na fyddaf i'n nodi manylion llawn ein hymateb yn ystod y ddadl heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn deall hynny.
Ond, i ddychwelyd at adroddiad eleni, hoffwn i dynnu sylw'r Aelodau at rai o'r themâu allweddol y mae'r comisiynydd wedi'u gwneud. Nawr, yn arbennig, rwy'n falch iawn o weld bod yr adroddiad yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud ar y ddeddfwriaeth arfaethedig i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol ac ar eiriolaeth ar gyfer plant sy'n agored i niwed. Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu cyflawniadau'r comisiynydd ym mlwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn ei chynllun strategol tair blynedd o ran gwaith prosiect a gwaith craidd. Mae peth o'r gwaith craidd hwnnw yn cynnwys y comisiynydd yn helpu mwy na 550 o blant a phobl ifanc unigol trwy ei gwasanaeth ymchwilio a chynghori. Mae hyn yn waith hynod o werthfawr, sy'n cefnogi anghenion plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed.
Mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn nodi sut y mae'r comisiynydd wedi gweithredu egwyddorion ei hymagwedd hawliau plant yn ei gwaith ei hun a gwaith asiantaethau eraill. Ac mae'n galonogol i mi weld sut y mae ei gwaith wedi herio a chefnogi cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar hawliau plant. Mae enghreifftiau yn yr adroddiad yn cynnwys Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ymysg eraill.
Mae'r angen i gael gwasanaethau yn cydweithio'n fwy effeithiol ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc yn thema amlwg yn adroddiad eleni ac rwy'n cytuno'n llwyr fod angen gwneud hyn. Mae hyn hefyd yn flaenoriaeth bwysig ar gyfer rhaglen ddiwygio Llywodraeth Cymru. Os ydym ni'n dymuno sicrhau newid gwirioneddol a chynaliadwy, mae'n rhaid inni gydweithio i ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig ac integredig mewn modd amserol. Ac mae'n rhaid inni sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc wedi eu hymwreiddio'n ddwfn ym mhob dim yr ydym ni'n ei wneud. Dim ond pan fydd ein rhaglenni'n dod at ei gilydd yn ddi-dor y cawn ni'r gwerth gorau ar gyfer rhieni a phlant o'r adnoddau prin sydd ar gael i ni. Felly, rydym ni wedi ymrwymo i weithio ar draws Llywodraeth Cymru, gyda'r cyhoedd, gyda'r trydydd sector a gyda'n cymunedau ein hunain, gan gynnwys gyda phlant a phobl ifanc.
Mae'r ymchwil, rydym yn gwybod, yn glir, mae profiadau yn ystod plentyndod yn rhan ganolog o lunio ein bywydau, maen nhw'n effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol ac yn dylanwadu ar ganlyniadau addysgol a ffyniant economaidd gydol oes. Mae'r ymchwil hefyd yn ei gwneud yn glir, gyda'r cymorth cywir, y gall plant oresgyn adfyd plentyndod a dod drosto. Ein gwaith ni yw eu helpu i feithrin y gwytnwch sydd ei angen arnyn nhw i allu gwneud hynny. I gyflawni hyn, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r system gydgysylltiedig, ymatebol, honno yn y blynyddoedd cynnar sy'n rhoi anghenion unigryw bob plentyn a'r teulu yn ganolog iddi. Roedd hyn yn ymrwymiad canolog a wnaethom yn 'Ffyniant i bawb'.
Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gynyddu'r cyfleoedd i wella canlyniadau ein plant a'n pobl ifanc i sicrhau eu bod i gyd yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd a'u bod yn symud ymlaen i gyflawni eu potensial. Rydym yn gwybod ein bod yn gwneud hynny'n effeithiol dim ond pan fyddwn yn gwrando ar safbwyntiau ac anghenion plant a phobl ifanc eu hunain ac yn ymateb iddyn nhw. Mae erthygl 12 yn cydnabod eu bod yn iawn i gael eu llais wedi ei glywed ac i bobl wrando ar eu llais a gweithredu arno wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddinasyddion llawn a gweithgar yng Nghymru, sydd â barn a gaiff ei hystyried. Mae ganddyn nhw farn glir a chyfraniad gwerthfawr i'w wneud i gynllunio ein gwasanaethau. Rwyf i'n eglur, fel Gweinidog, y bydd barn y plant yn parhau i fod yn hanfodol wrth ddatblygu a chyflawni ein deddfwriaeth, ein polisïau a'n rhaglenni. Mae'n rhaid inni sicrhau bod ganddyn nhw lais gweithredol cyson yng ngweithrediadau'r Llywodraeth.
Am yr unig dro heddiw, fe hoffwn droi at Brexit. Wrth i Brexit ddominyddu'r newyddion ledled y DU ar hyn o bryd, mae'n hanfodol nad ydym yn colli golwg ar y rhai y bydd yn effeithio arnyn nhw fwyaf. Rwyf i wedi rhoi amser i wrando ar safbwyntiau plant ar Brexit a materion eraill. Maen nhw wedi siarad yn angerddol iawn am eu pryderon am gyllid yn y dyfodol, eu cyfleoedd i astudio dramor, pa un a fydd Brexit yn arwain at ddirywiad mewn safonau amgylcheddol, ac ati. Mae'n ddyletswydd arnom ni ar eu rhan nhw i frwydro dros y canlyniad gorau i Gymru yn y trafodaethau presennol. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ac na chaiff dyfodol ein plant ei niweidio. Rydym ni eisiau i'n plant dyfu mewn Cymru y gallan nhw fod yn falch ohoni.
Rwy'n nodi bod yr Aelod dros Ynys Môn wedi cyflwyno gwelliant i gynnig y Llywodraeth. Mae'n ddrwg gennyf, ond rwyf i'n dweud na fyddwn yn cefnogi'r gwelliant. Y sgoriau coch, ambr a gwyrdd y cyfeirir atyn nhw yn y gwelliant yw asesiad y comisiynydd o ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2016-17, nid ydyn nhw'n ffurfio rhan o adroddiad blynyddol eleni. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn deall pam na fyddwn yn cefnogi'r rheini, er mor ddefnyddiol yw'r sgoriau RAG.
Fel Llywodraeth, rydym ni wedi gweithio ar y cyd â'r comisiynydd ac eraill er budd plant a phobl ifanc a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rwyf i'n parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Cymru, gan sicrhau bod eu lleisiau a'u hawliau ar flaen y gad ym mhob dim yr ydym ni fel cenedl yn gobeithio ei gyflawni.
Felly, edrychaf ymlaen at gael sgwrsio gyda'r comisiynydd plant, ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant, ac yn bwysicaf oll gyda phlant a phobl ifanc ynghylch sut y gwnawn ni hynny. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig ac rydw i'n galw ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y Comisiynydd Plant wedi sgorio cynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwasanaethau elw mewn gofal, iaith arwyddion Prydain, eiriolaeth iechyd, gofal plant ac addysg yn y cartref dewisol fel coch, sy'n golygu na chafwyd unrhyw dystiolaeth o newidiadau polisi neu arfer ers y gwnaethpwyd yr argymhelliad a ni chafwyd unrhyw welliant o ran profiadau plant.
Diolch yn fawr iawn. Er gwaethaf honiadau'r Gweinidog, mae'n destun pryder fod nifer o benderfyniadau diweddar Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud heb roi ystyriaeth lawn i hawliau plant. Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig yn yr ymgynghoriad craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, mae'r comisiynydd plant, mewn adroddiad sy'n eithaf damniol o Lywodraeth Cymru, yn dweud hyn:
Mae'n ymddangos bod hawliau plant yn 'ychwanegiad' o fewn y gyllideb hon...
Nid yw'n ymddangos bod cynnydd wedi bod o ran amlygrwydd hawliau plant a phlant o fewn ystyriaethau'r gyllideb;
Mae diffyg tystiolaeth ddadansoddol ar ffurf asesiadau effaith ar hawliau plant i ddangos a yw plant yn well neu'n waeth eu byd o ganlyniad i'r penderfyniadau cyllidebol.
Nid oedd yna asesiad effaith ar hawliau plant wedi ei baratoi ar gyfer cynigion y gyllideb, nid hyd yn oed ar gyfer tri maes pwysig sydd wedi bod yn destun toriadau cyllidebol, sef y grant gwisg ysgol, y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig a'r rhaglen gyswllt ar ysgolion Cymru gyfan.
Mae adroddiad y comisiynydd, a fydd yn cael ei drafod ddydd Iau, yn codi cwestiynau mawr, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed y Llywodraeth yn ymrwymo i gymryd camau penodol i wella ei pherfformiad yn sylweddol.
Rydw i'n troi yn benodol, felly, at adroddiad blynyddol y comisiynydd ar gyfer 2017-18, ac yn cyfeirio'n benodol at y dull goleuadau traffig o fonitro cynnydd Llywodraeth Cymru ar weithredu ar ei hargymhellion sydd yn system ardderchog ar gyfer craffu—ac, ie, craffu ar waith oedd yn deillio o adroddiad blynyddol 2016-17 mae'r comisiynydd, ond mae hi'n rhoi diweddariadau byw ar y wefan, ac rydym ni''n dyfynnu yn ein gwelliant ni o adroddiad Medi 2018, sydd yn dangos diffyg cynnydd, yn anffodus. Dim ond pedwar o'r argymhellion a wnaed sydd wedi eu categoreiddio'n wyrdd, efo pump wedi eu categoreiddio'n goch. Mae hyn yn codi cwestiynau mawr ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant.
Mae'r argymhellion coch yn cynnwys gofal plant, efo'r comisiynydd yn dweud:
'Trwy'r cynllun gofal plant peilot ac unrhyw gynllun dilynol, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw plant rhieni nad ydynt yn gweithio yn colli allan ar y cynnydd o ran gofal plant sy'n cael ei gynnig i blant rhieni sy'n gweithio.'
Mae'n mynd ymlaen i ddweud y byddai'r cynnig cyfredol yn golygu bod y plant a fyddai'n elwa fwyaf o ofal plant yn colli cyfle i ddatblygu sgiliau bywyd allweddol yn ifanc. Gyda'r plant mwyaf difreintiedig yn cychwyn yr ysgol 10 mis y tu ôl i blant o deuluoedd sydd efo mwy o arian, mae Plaid Cymru yn rhannu pryderon y comisiynydd.
Mater arall sy'n cael golau coch gan y comisiynydd yw diffygion y Llywodraeth o safbwynt addysg ddewisol yn y cartref. Eto, rwy'n dyfynu'r comisiynydd. Mae
'angen i Lywodraeth Cymru ddiwygio'r canllawiau cyfredol er mwyn rhoi iddynt rym statudol, yn ogystal â chynnwys cofrestr orfodol ar gyfer pob plentyn a addysgir yn y cartref, a hynny er mwyn sicrhau nad yw'r plant hynny yn disgyn “o dan y radar”, hyd yn oed o ran y gwasanaethau cyffredinol.'
Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg, ac mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn derbyn addysg. Mae angen galluogi awdurdodau lleol i wneud y gwaith hwn.
Yn ôl y comisiynydd plant,
'Ers i'r argymhelliad hwn gael ei wneud, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn y Senedd ym mis Ionawr 2018, yn amlinellu'r bwriad i ymgynghori ynghylch newidiadau i is-ddeddfwriaeth i gryfhau pwerau presennol yr awdurdodau lleol.
'Hyd yma, ni chyflwynwyd unrhyw ymgynghoriad, a'r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer hyn yw gwanwyn 2019.'
Geiriau'r comisiynydd.
Tra bod Llywodraeth Cymru yn llusgo'i thraed, mae peryg bod nifer o blant yn methu allan ar eu hawl i addysg ac mae peryg bod yna blant yn disgyn o dan y radar o ran derbyn gwasanaethau sylfaenol.
Yn fyr, mater arall nad ydy Llywodraeth Cymru wedi gweithredu arno fo yw Iaith Arwyddo Prydain. Yn ôl Cymdeithas Plant Byddar Cymru, flwyddyn ddiwethaf, roedd disgyblion byddar 26 y cant yn llai tebygol o dderbyn graddau A* i C yn y pynciau craidd na'u cyd-ddisgyblion sydd yn clywed. Mae'r bwlch yma'n bodoli oherwydd y rhwystrau y mae dysgwyr byddar yn eu hwynebu. Mae hwn hefyd yn cael y golau coch gan y comisiynydd.
Nid oes yna amser i fynd ar ôl y ddau faes arall, ond mae angen i Weinidogion roi sylw buan i'r materion yma—i'r rhai sydd wedi cael eu nodi'n goch gan y comisiynydd, ond hefyd y rhai sydd yn ambr. Mae angen i'r Llywodraeth ddod ag amserlen gerbron i'n hargyhoeddi y bydd pethau'n wahanol, y bydd pethau'n well pan ddown ni nôl i fan hyn flwyddyn nesaf.
Hoffwn ddiolch i'r comisiynydd plant, a'i swyddfa hefyd. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru i'r cynnig oherwydd ei fod yn crynhoi yn eithaf da, yn fy marn i, rai o'r pryderon presennol, sydd, fel y nododd Siân Gwenllian, yn risgiau coch o hyd, fel y mae pwyllgor archwilio risg a sicrwydd swyddfa'r comisiynydd wedi'i nodi. Ac maen nhw'n bum maes polisi sy'n cael effaith uniongyrchol, sylweddol ar bobl ifanc, eu teuluoedd, cyfleoedd bywyd y ddau, lle'r ydym yn gweld rhwystredigaeth y rhai sy'n dymuno darparu gwasanaethau, a rhwystredigaeth y comisiynydd ei hun, sydd wedi methu â gorfodi newid. Rhywbeth arall sy'n peri pryder braidd, yn fy marn i, yw nad yw hyn yn dominyddu'r penawdau i'n helpu ni i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a helpu'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn yr ydym yn ei wneud yn y lle hwn, a sut yr ydym yn eu cynrychioli nhw a'u blaenoriaethau. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y cyfryngau yn craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwn—neu, fel yr ydym ni newydd ei glywed, diffyg ymateb i'r adroddiad hwn—oherwydd fy mod i'n amau bod y camau gweithredu i fynd i'r afael â'r methiannau a nodir ynddo o fwy o bwys i'n hetholwyr nag ysmygu yng nghanol trefi a'r llanast pitsa Nadolig ym Mhowys, mae'n rhaid imi ddweud.
Oherwydd y dylai peth o'r feirniadaeth a geir yn yr adroddiad hwn beri cymaint fyth o ddicter â'r canfyddiadau hynny a gafodd sylw, a bod yn deg, gan y BBC heddiw ynghylch nifer y bobl ifanc sy'n hunan-niweidio pan fyddan nhw yn y carchar, oherwydd bod y materion i gyd yn gysylltiedig. Dylai iechyd meddwl y bobl ifanc hyn fod yn llawer mwy o bwys brys iddyn nhw ac i ninnau fel cymdeithas, na'r pwnc sy'n tynnu sylw, sef a oes ganddyn nhw bleidlais ai peidio, oherwydd bod angen i'r rhai ohonom ni sydd â phleidlais ofyn pam yr ydym yn methu â chadw ein pob ifanc iawn allan o'r carchar. Er gwaethaf gwaith da y comisiynydd gyda byrddau iechyd a charchar y Parc yn fy rhanbarth i—lle mae ganddyn nhw hanes da iawn o weithio gyda theuluoedd i gynnal perthynas iach â rhieni, ond a oedd ar ben anghywir yr adroddiad hunan-niwedio—ac er gwaethaf gwaith gyda chynghorau lleol, mae'n ymddangos nad yw ein dyheadau am well eiriolaeth iechyd, a gostyngiad yn nifer yr achosion o fwlio ac effeithiau bwlio ar oedran cynnar, wedi'u gwireddu ar y cyfan.
Wrth gwrs, mae hyn yn adleisio'r pryderon a fynegwyd yn yr adroddiad 'Cadernid Meddwl', na fyddaf yn sôn amdano eto heddiw. Ond os yw'r comisiynydd yn argymell rhoi grym statudol i'r dull cenedlaethol o eiriolaeth statudol er mwyn gwella'r hyn a gynigir mewn iechyd ac addysg hyd yn oed, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym a yw'n bwriadu gwneud hyn a pha bryd.
Rydym yn sôn am ymyrraeth gynnar yn y lle hwn drwy'r amser, ac mae eiriolaeth yn rhan o hynny. Gall fod yn hynod o effeithiol ar lefel y gymuned, gan atal materion cynyddol sy'n caniatáu i'n pobl ifanc ddatblygu i fod yn oedolion sydd wedi'u niweidio. Er efallai y bu rhywfaint o gynnydd, nid yw'n ddaearyddol gyson—er enghraifft, o ran plant sy'n derbyn gofal, dim ond 2 y cant a fanteisiodd ar y cynnig o eiriolaeth yng Ngwynedd, ond gwnaeth 88 y cant hynny yng Nghaerffili—ac nid yw ychwaith yn cofnodi iechyd ac addysg mewn modd mor gyflawn ag y gallai. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld cynnydd clir erbyn y flwyddyn nesaf ar yr argymhelliad sy'n ymwneud â'r byrddau partneriaeth rhanbarthol.
Wedi dweud hynny, byddwn i hefyd yn gobeithio gallu dilyn y gwariant ar y cynnydd hwnnw. Fel yr ydym ni wedi'i ddweud o'r blaen, yn arbennig yn ein pwyllgor ni, mae cyllidebau integredig yn ei gwneud yn anodd nodi'r cysylltiad rhwng gwariant a chanlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc, a hynny heb fod angen.
Nawr, gan droi at addysg yn uniongyrchol, rwyf i wedi gweld drosof i fy hun sut y mae'r ffordd gywir wedi gwneud gwahaniaeth. Mae Ysgol Gynradd Craigcefnparc yn fy rhanbarth i fy hun yn enghraifft dda iawn o sut y mae dealltwriaeth pawb o hawliau plant wedi cyfrannu at ethos yr ysgol gyfan, ac mae cymhwyso hynny wedi dwyn ffrwyth yn yr ysgol honno erbyn hyn, trwy ei gwneud yr union fath o ysgol yr hoffem ni i gyd ei gweld. Mor drist wedyn yw clywed, er gwaethaf gwaith cynghorydd Mawr y Ceidwadwyr Cymreig Brigitte Rowlands a'r teuluoedd yn y gymuned honno, fod aelodau cabinet dinas Abertawe yn gwrthod ymweld â'r ysgol i'w gweld drostynt eu hunain, sy'n siomedig iawn o ystyried y byddan nhw'n penderfynu cau'r ysgol honno neu beidio.
Rwy'n gobeithio bod y comisiynydd yn ymwybodol o'r adegau hynny pan fo ymrwymiad ac esgus cefnogi yn ymddangos yn gyfnewidiol, oherwydd nid wyf i wedi fy argyhoeddi o hyd bod y sylw dyledus y mae'n rhaid i ni a Llywodraeth Cymru ei roi i hawliau plant mewn polisi a deddfwriaeth wedi'i efelychu yng nghyflawniad y polisïau a'r ddeddfwriaeth hynny gan gyrff cyhoeddus. Nid wyf i'n credu, Gweinidog, ei fod yn y DNA eto, felly a oes angen deddfu?
Yn fyr, felly, terfyn tri phwynt. Argymhelliad y comisiynydd ar ddiwygio cynnig trafnidiaeth presennol Llywodraeth Cymru, rydym wedi clywed ychydig mwy am hynny ar gefn y gyllideb, ond mae gan y Ceidwadwyr Cymreig eu hargymhelliad eu hunain—cynnig mwy hael o gerdyn gwyrdd a fydd yn rhoi cludiant bws am ddim hyd at 24 oed, gan gydnabod efallai fod angen cymorth ar bobl ifanc o hyd i gyrraedd eu gwaith, yn enwedig os yw'n swydd gyntaf â chyflog isel, fel sy'n wir yn aml.
Yn ail, rwy'n ategu'r hyn a ddywedodd Siân Gwenllian ynglŷn ag Iaith Arwyddion Prydain, ac yn nodi naws gofidus barn Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru ar ganfyddiadau'r Comisiynydd.
Ac, i orffen—y Gymraeg. Hoffwn weld mewn adroddiadau yn y pen draw fwy o fanylion am sut mae hawliau plant sy'n byw yn y Gymraeg yn cael eu cyflawni ac, efallai, tipyn o gydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar hynny. Diolch.
Hoffwn ddechrau trwy dalu teyrnged i Sally Holland a'i staff am yr holl faterion gwahanol maen nhw wedi gweithredu arnyn nhw yn ystod y flwyddyn hon, ac am y ffordd y mae hi wedi gweithio mor agos gyda ni, Aelodau'r Cynulliad a gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, trwy fod yn bresennol yn aml a chael dylanwad mawr, yn fy marn i, ar y ffordd yr ydym ni wedi gwneud penderfyniadau. Ac wrth gwrs, yn bwysicaf oll, yn gweithio gyda phlant yn uniongyrchol gan roi llais i blant yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch iddi am ei hymrwymiad—ei hymrwymiad ers llawer dydd—i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Nodaf, yn ei hadroddiad blynyddol mai dyma yw ei phrif argymhelliad i'r Llywodraeth, a dywed y dylai'r ddeddfwriaeth hon ddigwydd cyn gynted â phosibl. Rwy'n gwybod ei bod hi mewn gwirionedd wedi ymgyrchu dros hyn ers blynyddoedd lawer. Mewn gwirionedd, dyma argymhelliad pob comisiynydd plant ers sefydlu'r swydd: Peter Clarke, Keith Towler a nawr Sally Holland.
Felly, rwy'n credu bod eu dyfalbarhad a'u hymrwymiad i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol, o'r diwedd yn dod i ddiweddglo, ac rwy'n falch iawn bod y Gweinidog wedi dod i'r casgliad ac wedi cadarnhau y byddwn yn cael deddfwriaeth y flwyddyn nesaf. Mae mwy a mwy o ymchwil mewn gwirionedd yn atgyfnerthu'r pwysigrwydd i Lywodraeth Cymru gymryd y camau hyn, oherwydd canfu adroddiad a gyhoeddwyd yn y BMJ Open ym mis Hydref, a oedd yn edrych ar 88 o wledydd, yn y gwledydd hynny sydd wedi gwahardd smacio neu daro plant, roedd trais ac ymladd rhwng pobl ifanc yn llawer llai tebygol. Roedd ymladd yn llai cyffredin ymhlith bechgyn a merched 13 oed mewn gwledydd lle ceir gwaharddiad llwyr ar gosbi corfforol o'i gymharu â'r rhai heb waharddiad, gyda 31 y cant yn llai o ymladd ymhlith bechgyn a 58 y cant yn llai ymhlith merched.
Cafwyd llawer o ymchwil yn ddiweddar gan Academi Pediatreg America, sy'n darparu canllawiau ar gyfer meddygon a darparwyr gofal iechyd plant. Mae wedi cyhoeddi datganiad polisi newydd sy'n argymell bod oedolion sy'n gofalu am blant yn defnyddio ffurfiau disgyblu iach, megis atgyfnerthu ymddygiad priodol yn gadarnhaol, pennu terfynau a gosod disgwyliadau, a pheidio â rhoi chwip-din, peidio â tharo, slapio, bygwth, sarhau, bychanu na chodi cywilydd. Felly, yn sicr mae'r ymchwil yn atgyfnerthu'r penderfyniad a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hon. Ac mae Sally Holland, yn ei hadroddiad blynyddol, yn dyfynnu barnau plant a phobl ifanc ynghylch y ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n credu ei fod yn dangos mewn gwirionedd beth yw barn plant. Mae'n dweud,
'Dylai plant gael eu gwarchod yn hytrach na chael eu smacio.'
'Gall smacio bob amser fynd yn rhy bell, ble ydych chi'n tynnu'r llinell?'
'Mae rhai pobl yn credu bod angen smacio plant i'w dysgu sut i ymddwyn. Rwy'n anghytuno, mae'n gwbl ddiangen.'
'Dylech chi siarad ac egluro er mwyn sicrhau na fyddan nhw'n gwneud yr un peth eto.'
'Yn hytrach na smacio gallwch wahardd y teledu neu'r iPad; mae unrhyw beth yn well na smacio.'
Felly, mae Sally Holland wedi bod yn casglu tystiolaeth uniongyrchol gan y plant am eu barn ar smacio plant. Felly, mae'n hollol iawn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau hyn, a hefyd, yn fuan bydd yn ymuno â nifer o wledydd ledled y byd sydd wedi gwneud hyn eisoes.
Yn olaf, hoffwn gyfeirio at fater a godwyd gan y comisiynydd plant yr wythnos diwethaf pan dynnodd hi fy sylw at anghydraddoldebau mewn chwaraeon yn yr ysgol. Rwy'n siŵr bod llawer ohonoch chi wedi gweld y stwff ar y teledu am y rhwystredigaeth y mae menywod ifanc yn ei deimlo ynghylch peidio â chael cyfle cyfartal i gymryd rhan mewn chwaraeon. Ni all fod yn iawn pan fo mwy a mwy o ferched, er enghraifft, yn awyddus i chwarae pêl-droed, fe ddywed merch 13 oed iddi gael ei beirniadu a'i galw'n ddyn neu'n lesbiad am gymryd rhan mewn chwaraeon bechgyn. Dywedodd ei hathrawon wrthi na chaiff hi chwarae pêl-droed yn yr ysgol oherwydd mai hoci a phêl-rwyd yw'r chwaraeon ar gyfer merched.
Dywed Sally Holland yn gwbl briodol, ei bod hi'n dorcalonnus clywed am stereoteipio ar sail rhyw mewn ysgolion yn y dyddiau hyn, a disgrifiodd gwahanu chwaraeon yn yr ysgol ar sail rhyw fel 'syndod' yn 2018. Felly, rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn a godwyd gan Sally Holland, oherwydd ein bod eisiau i'n pobl ifanc—bechgyn a merched—aros mor egnïol â phosibl a chwaraeon ysgol yn amlwg yw un o'r ffyrdd allweddol o wneud hynny. Felly, fe hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar hynny pan fydd yn ymateb, oherwydd rwy'n credu bod yn rhaid inni ddarganfod nifer yr ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd, sy'n dal i gynnig chwaraeon ar wahân yn unig ar gyfer bechgyn a merched, a pha un a oes unrhyw ganllawiau i ysgolion ynghylch hyn.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, ac rwyf hefyd am ddiolch ar goedd i'r Comisiynydd Plant, Sally Holland, a'i thîm am y gwaith ardderchog y maen nhw'n ei wneud ar ran plant a phobl ifanc yma yng Nghymru? Rwy'n credu ei bod yn ffaith drist, yn 2018, bod llawer o blant a phobl ifanc yn ein gwlad nad ydynt yn mwynhau'r un diogelwch a breintiau a gawsom ni yn y Siambr hon wrth i ni dyfu'n oedolion. Felly, rwyf yn croesawu rhai o'r argymhellion allweddol yn adroddiad Sally Holland, a oedd wrth gwrs â'r nod o'i gwneud hi'n bosibl i bobl ifanc a phlant sy'n agored i niwed gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Nodais y cyfeiriadau a wnaed gan y Comisiynydd i waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl, ac mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod mynediad, fel y dywedodd Suzy Davies yn hollol gywir, i sicrhau y gall pobl gael gafael ar y gwasanaethau hynny mewn modd prydlon iawn. Ac fe sylwais wrth gwrs ar ei chyfeiriadau at fwlio hefyd a'r angen i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hynny, yn gwbl briodol fel y trafodwyd eisoes y prynhawn yma.
Ond, Llywydd, mae gennym ni lawer i'w wneud ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Pobl ifanc heddiw yw Aelodau'r Cynulliad yfory, ac mae'n rhaid inni ofyn i ni'n hunain beth yw'r etifeddiaeth yr ydym yn ei adael iddyn nhw. A fyddan nhw'n edrych yn ôl gyda diolch pan fyddan nhw'n eistedd yn y Siambr hon yn y dyfodol neu a fyddan nhw'n dymuno i ni fod wedi gwneud mwy? Rhan allweddol o'n heiriolaeth fydd gwneud y penderfyniadau polisi cywir. Pan fo cymaint i'w wneud, y mae'n hanfodol inni wneud yr hyn sy'n iawn ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, ac mae'n rhaid imi ddweud mai un peth sydd wedi fy siomi yn adroddiad y Comisiynydd yw'r argymhelliad i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol. I mi dyma'r camau gweithredu anghywir pan ystyriwch y niwed gwirioneddol sy'n wynebu plant. Dywed yr adroddiad nad yw plant yng Nghymru, o dan y gyfraith yn cael eu diogelu rhag ymosodiad yn yr un modd ag oedolion, ond, wrth gwrs, mae hynny'n anghywir ac yn gamarweiniol. Mae'r gyfraith yn amlwg yn diogelu plant ifanc a phob plentyn, mewn gwirionedd, rhag trais, ond y mae hefyd yn cydnabod na ddylid ystyried disgyblu corfforol ysgafn, megis slap ar y llaw neu chwip-din, yn drosedd. A bydd cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol, rwy'n credu, yn cymylu'r gwahaniaeth hwn a gadael llawer o rieni cariadus ledled Cymru sy'n smacio eu plant, mewn perygl o gael eu harestio, eu collfarnu a hyd yn oed eu herlyn.
Aiff yr adroddiad ymlaen i ddweud, wrth gwrs, bod gan y Llywodraeth ymrwymiad i gymryd camau pan fo perygl posibl o niwed i blant yng Nghymru, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ond fe geir pobl sydd yn cam-drin plant, a dylem ni rymuso ein gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu i ddod o hyd iddyn nhw a'u dwyn i gyfraith, yn hytrach na gwastraffu amser yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol drwy eu hanfon ar ôl tadau a mamau cyffredin, sy'n gweithio'n galed ac yn dewis weithiau i smacio eu plant fel math o ddisgyblaeth. Nid yw'r dystiolaeth yn dangos bod smacio ysgafn yn gwneud unrhyw niwed i blant. Mae ymgynghoriad y Llywodraeth ar ddiddymu cosb resymol yn cyfaddef hyn. Yn wir, dywedodd, a dyfynnaf:
'mae'n annhebygol y ceir unrhyw dystiolaeth ymchwil sy'n benodol yn dangos bod effeithiau smac ysgafn ac anfynych yn niweidiol i blant.'
Ac fe fyddwn i'n annog holl Aelodau'r Cynulliad sy'n bresennol yn y Siambr hon i ddarllen gwaith yr Athro Robert Larzelere, un o'r academyddion blaenllaw yn y maes hwn o ddisgyblu plant. Mae ei dystiolaeth i ymgynghoriad y Llywodraeth ar y mater hwn yn rymus iawn. Felly, a wnaiff y Llywodraeth hefyd ymrwymo i ddilyn y dystiolaeth honno ar y mater hwn, yn hytrach nag ymgymryd â'r hyn sydd yn ei barn hi yn rhywbeth ffasiynol? Ac mae'n rhaid imi ddadlau hefyd nad yw'n arbennig o ffasiynol ychwaith. Rydym ni'n gwybod bod canlyniadau pôl yng Nghymru yn ôl yn 2017 wedi dangos nad yw 76 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru yn credu y dylid gwneud smacio yn drosedd; mae 77 y cant yn pryderu y gallai gwahardd smacio orlwytho heddlu a gweithwyr cymdeithasol ag achosion dibwys a'i gwneud yn fwy anodd iddyn nhw dargedu eu hadnoddau, eu hadnoddau prin, i atal y camdrinwyr plant mwyaf difrifol; ac mae 77 y cant o bobl Cymru yn credu hefyd mai swyddogaeth rhieni a gwarcheidwaid, nid y wladwriaeth, yw penderfynu smacio eu plant neu beidio.
Rwy'n credu felly, ei bod yn gwbl hanfodol inni wneud ein gorau glas i wella byd plant a phobl ifanc yma yng Nghymru a'n bod yn mynd ar drywydd mesurau sydd o ddifrif yn helpu plant, ond nid y cynnig penodol hwn, o ran gwahardd smacio plant, yw'r ffordd iawn ymlaen, ac fe fyddwn i'n annog y Gweinidog, yn ei ymateb, i ystyried yr holl dystiolaeth, sy'n bendant yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth.
Galwaf ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Nid wyf yn credu, yn yr amser sydd ar ôl, y gallaf ateb pob pwynt gyda'r manylder yr wyf fel arfer yn ei gynnig, ond fe wnaf fy ngorau glas. A gaf i ddweud yn gyntaf oll, wrth Siân ac eraill sydd wedi ein herio ni ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud? Nid ydym ni—rydym ni'n cydnabod—yn ymwreiddio agenda hawliau dros nos ac rydym yn croesawu'r her, gan y Comisiynydd Plant a chan eraill, ond mae'n deg i ddweud hefyd bod y Comisiynydd Plant, yr ydym yn gweithio'n ddiwyd gyda hi ar amrywiaeth eang o feysydd polisi y cyfeiriwyd atyn nhw y prynhawn yma, y mae hi hefyd yn cydnabod lle yr ydym ni'n cyflawni yn ogystal â rhoi heriau i ni ynghylch yr angen inni wneud mwy, ac rydym ni'n gwybod bod angen inni wneud mwy, nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond yr holl bartneriaid ar draws Cymru, i ymwreiddio'r agenda hawliau plant. Gallwn gytuno ar hynny.
Mater y statws coch melyn gwyrdd: rwy'n cytuno'n llwyr bod angen i ni ymateb i'r rheini yn yr un modd. Fe ddywedais i ar ddechrau fy sylwadau na fyddem ni'n ymateb yn fanwl oherwydd bydd y Prif Weinidog hefyd—. Mae'n ddrwg gennyf fi. Ni allaf ymateb yn fanwl i bob un pwynt, ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod y comisiynydd plant yn yr adroddiad wedi cydnabod pa mor bell yr ydym ni wedi symud ymlaen. Mae hynny'n cynnwys o safbwynt y ddeddfwriaeth. Er na fyddwn ni'n cytuno â phob manylyn ynghylch manion gyda'r comisiynydd plant, rydym ni'n croesawu'r her.
Darren, mae'n ddiddorol eich bod chi newydd grybwyll maes lle'r rydych chi'n anghytuno'n sylfaenol gyda'r comisiynydd plant, ond hefyd llawer o bobl eraill hefyd yn awr, sydd yn gweld ei bod yn amser mewn gwirionedd i ddilyn yn ein ffordd ein hunain yng Nghymru yr hyn y mae 53 o wledydd eraill wedi ei wneud, ac nid mewn cwestiwn gyda llaw, o ymyrryd â hawliau plant, ond hefyd i gydbwyso'r hawliau hynny y buom yn sôn amdanynt, sef hawliau'r plentyn i gael cartref diogel, ynghyd â'r gwaith a wnaethom dros nifer o flynyddoedd bellach ynglŷn â rhianta cadarnhaol, sy'n dwyn ffrwyth hefyd.
Ac rydym ni wedi ymrwymo, Julie, mae'n rhaid imi ddweud, i ddwyn ymlaen—. Fe wnaeth y Prif Weinidog ei gwneud hi'n glir y byddem ni'n cyflwyno deddfwriaeth ym mlwyddyn tri y Cynulliad hwn, sef y flwyddyn sydd o'n blaenau nawr, ac rydym yn edrych ymlaen at wneud hynny. Fe fyddwn ni'n gweithio drwy'r manylion gyda'r holl bartïon, gyda llaw, a byddwn yn gwrando ar farn rhanddeiliaid, ond rydym ni wedi ei gwneud hi'n glir ein bod ni'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon oherwydd ei bod ni'n credu, mewn gwirionedd ei bod yn unol â'r gwaith yr ydym wedi ei wneud ar rianta cadarnhaol. Dyma'r peth iawn i'w wneud, hefyd, i wlad fodern a blaengar fel Cymru, sydd yn credu yn yr agenda hawliau plant.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nid wyf yn credu bod gennyf amser, Darren, yn anffodus.
Roedd yn ymwneud â'r pwynt am rianta cadarnhaol.
A mater carchar y Parc, a allaf i ddweud ei bod hi'n bwysig inni edrych ar y bobl ifanc hynny yng ngharchar y Parc a'u hystyried yn bobl ifanc yn anad dim a sicrhau bod y cymorth ar gael iddyn nhw yno, er mwyn ymdrin â'r hanesion brawychus a glywsom ni am hunan-niwed? Rwy'n credu bod carchar y Parc wedi ymateb mewn rhyw ffordd drwy ddweud efallai nad yw'r data sydd wedi'i gyflwyno yn adlewyrchu'r data diweddaraf, pryd y maen nhw'n awgrymu y bu gostyngiad sylweddol, ond rwy'n credu y dylem ni gymryd diddordeb yn hynny.
Pwynt Julie ynghylch gwahanu mewn chwaraeon ysgol: Mae hyn yn ddiddorol iawn ac rwy'n hapus i ysgrifennu ac i gadarnhau beth yw'r canllawiau ynghylch hyn. Rwyf wedi cael hyn mewn gwirionedd yn fy—. Ysgolion lleol da iawn yno, mae rhieni wedi dweud wrthyf fi, 'pam mae merched a bechgyn wedi'u rhannu ar gyfer y sesiynau a hwythau'n chwarae gyda'i gilydd y tu allan i'r ysgol mewn tîm chwaraeon ac, eto, o fewn yr ysgol, rywsut, maen nhw'n cael eu rhannu o fewn y sesiynau, neu hyd yn oed yn ystod amser chwarae?' Felly, rwy'n hapus i ysgrifennu ar y mater hwnnw.
Os caf i droi at fater iaith arwyddion yn yr amser byr iawn sydd ar gael i mi, yn amlwg, bydd pobl yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod iaith arwyddion Prydain yn ffurfiol yn iaith yn ei rhinwedd ei hun ym mis Ionawr 2004, ac ers hynny, bu fersiynau o'r hyfforddiant i gynyddu nifer y cyfieithwyr cymwysedig yng Nghymru i sicrhau bod deddfwriaeth, polisïau a rhaglenni ar waith ar draws y Llywodraeth sy'n cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu hygyrch. Ond, rydym ni yn cydnabod bod nifer o broblemau a wynebir o hyd gan aelodau'r gymuned fyddar yng Nghymru ar hyn o bryd sy'n ymwneud ag iaith arwyddion Prydain, gan gynnwys prinder cyfieithwyr iaith arwyddion Prydain. Felly, ymatebodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar i'r adroddiad 'Siaradwch fy iaith' gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Roedd yn cynnwys argymhellion ynghylch sut y dylai cyrff cyhoeddus, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau rheng flaen, ddarparu gwasanaethau dehongli a chyfieithu i iaith arwyddion Prydain ac ieithoedd eraill, a derbyniodd Llywodraeth Cymru y tri argymhelliad a nodi y byddwn yn adolygu'r ddarpariaeth bresennol o iaith arwyddion Prydain i sicrhau bod ein dull o weithredu yn bodloni anghenion unigolion a theuluoedd. Fe fyddwn yn parhau i ddatblygu'r gwaith ar y camau gweithredu hyn yn ystod y mis nesaf, ac rydym ni hefyd yn ystyried argymhellion a wnaed mewn adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau i'w gwneud hi'n haws i gael addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain.
Nawr rwyf eisiau diolch i'r holl Aelodau—.
Mae'n ddrwg gennyf i, yr oeddwn am droi at y mater o addysg ddewisol yn y cartref hefyd yn yr ychydig funudau sydd gennyf. Nawr, rydym ni'n cytuno â'r Comisiynydd Plant y dylai pob plentyn yng Nghymru gael ei ystyried. Fodd bynnag, nid yw hyn yn fater i addysg yn unig; mae hefyd yn fater o bryder i bob asiantaeth sydd â chyfrifoldeb dros blant a phobl ifanc sy'n eu gwneud nhw'n weladwy. Felly, rydym ni wedi dechrau gwaith traws-adrannol i ystyried cryfhau'r prosesau amlasiantaeth hynny ar gyfer y plant hynny nad ydyn nhw mewn cysylltiad rheolaidd â gwasanaethau cyffredinol. Ond o ran addysg, rydym ni'n glir mai bwriad y polisi sylfaenol sy'n sail i'r cynigion sy'n datblygu, yw sicrhau bod plant sy'n cael eu haddysgu gartref a phobl ifanc yng Nghymru yn cael yr addysg addas honno, ac wrth wneud hynny, gall rhieni gael eu cyfeirio at wasanaethau eraill sydd ar gael iddyn nhw.
Nawr, rwy'n cydnabod bod y Comisiynydd Plant wedi bod yn bryderus ynglŷn ag amseriad yr ymgynghoriad a'r rheoliadau, ond y mae'n rhaid inni gael hyn yn iawn. Mae'n rhaid inni ddwyn y rheoliadau a'r canllawiau statudol ymlaen gan roi sylw dyledus iddo a'i gael yn hollol gywir. Mae'n gofyn am gryn dipyn o waith i ddatblygu'r polisi'n briodol ac mewn modd llawn gwybodaeth, ac rydym ni'n bwrw ymlaen â hynny. Nid yw'n annhebyg yn ei gymhlethdod i ddeddfwriaeth sylfaenol.
Nawr, yr adroddiad—mae'r Prif Weinidog a minnau wedi manteisio ar y cyfle i gyfarfod â'r Comisiynydd Plant i drafod yr adroddiad. Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ymateb ysgrifenedig llawn Llywodraeth Cymru erbyn 30 Tachwedd—rwyf wedi troi'n goch. A gaf i—?
Do, rydych chi wedi troi'n goch.
Diolch, Llywydd. Nawr, bydd y drafodaeth a gawsom ni heddiw, yn helpu i lunio ein hymateb, a byddaf yn sicrhau y bydd ymateb ar gael i Aelodau'r Cynulliad. Fe fyddwn ni'n ymateb i bob un o'r 15 o argymhellion a wnaed gan y Comisiynydd. Efallai na fyddwn yn gallu cytuno â phob argymhelliad i'r radd eithaf, ond gallaf ymrwymo y byddwn yn parhau i ysgogi cynnydd ynghylch hawliau a lles plant. Diolch, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.