4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Trefniadau Llywodraethu a Chyllid Awdurdodau Tân ac Achub

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 13 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:20, 13 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae gennym ni eisoes nifer o orsafoedd tân yng Nghymru sydd fel arfer yn ymdrin â llai nag un alwad brys i ddiffodd tân bob mis, a llawer sy'n gweld dim ond ambell ddwsin y flwyddyn. Rydym ni'n deall nad yw hyn yn gynaliadwy a'i fod yn gwneud recriwtio, ysgogi a chadw diffoddwyr tân yn anodd iawn. Ond ni ddylid cau gorsafoedd o'r fath chwaith, oherwydd byddai hynny'n gadael rhannau helaeth o'r wlad heb wasanaeth tân o gwbl.

Felly, mae'r dyfodol yn dibynnu ar wireddu'r potensial i wneud mwy trwy gydweithio ag asiantaethau eraill. I gyflawni hynny ac i sicrhau dyfodol sy'n hyfyw, mae angen i'r gwasanaeth gael ei lywodraethu a'i ariannu mewn ffordd fodern, atebol a chynaliadwy. Ar hyn o bryd nid dyna'r achos.

Ceir heriau cynyddol eraill hefyd. Mae pobl yn byw'n hwy ac yn aros yn annibynnol yn eu cartrefi, a dyna'n union beth yr ydym ni eisiau ei weld. Fodd bynnag, mae pobl hŷn mewn mwy o berygl o gael tanau yn eu cartrefi. Ar yr un pryd, mae angen i'r gwersi o drychineb Tŵr Grenfell gael eu dysgu a'u cymhwyso'n llawn o hyd. Bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu'r peryglon o lifogydd a thanau gwyllt, ac mae cyllid cyhoeddus yn hynod gyfyngedig—sefyllfa nad yw ond yn debygol o waethygu yn sgil Brexit. Unwaith eto, mae hyn yn galw am y safonau uchaf o arweinyddiaeth ac eglurder, gan sicrhau fod gan y gwasanaeth yr adnoddau y mae eu hangen, ond gan roi hynny hefyd yng nghyd-destun ehangach gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Nid yw'r trefniadau llywodraethu ac ariannu presennol yn addas at y diben newydd hwn. Maen nhw'n golygu y caiff y gwasanaeth ei redeg gan yr hyn sydd, i bob pwrpas, yn bwyllgorau mawr sydd led braich o'r holl wasanaethau lleol eraill a heb unrhyw fath o fandad democrataidd uniongyrchol. Nid oes unrhyw drafod cyhoeddus gwirioneddol nac atebolrwydd ynglŷn â'r hyn y mae'r gwasanaeth yn ei wneud neu'r hyn y dylai ei wneud, ac mae diffyg mecanweithiau ymgysylltu i ymateb i anghenion lleol sy'n newid. Eto i gyd, ni fu trafodaeth o'r fath ac atebolrwydd o'r fath erioed yn fwy pwysig.

Mae diffygion tebyg yn nhrefniadau ariannu awdurdodau tân ac achub. Mae'n rhaid i'r awdurdodau godi cyfraniadau ar ffurf ardoll gan awdurdodau lleol, gyda'r awdurdod tân ac achub a neb arall yn penderfynu ar y swm hwnnw. Nid oes unrhyw reolaeth neu gymeradwyaeth allanol o gwbl yn lleol nac yn genedlaethol. Ar adeg o gyni llym parhaus ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, mae hynny'n anodd ei gyfiawnhau. Mae angen ffynhonnell gynaliadwy o arian ar gyfer yr amrywiaeth gynyddol o gyfrifoldebau amgenach na diffodd tân a ddisgrifiais i eisoes y prynhawn yma.

Dirprwy Lywydd, mae'r trefniadau presennol yn dyddio o ganol y 1990au. Er y buont efallai yn ddigonol ar y pryd, mae'r gwasanaeth a'r gofynion a roddir arno wedi newid yn sylweddol ers hynny. Ni ddylai unrhyw un weld hyn fel unrhyw fath o feirniadaeth ar aelodau, rheolwyr neu staff presennol yr awdurdod tân ac achub. Rydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi gwneud eu gorau yn y system ddiffygiol sydd ohoni, ond mae angen newid y system honno ei hun bellach.

Mae'r Papur Gwyn yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn nodi sut yr hoffem ni ddiwygio'n ddelfrydol. Mae hyn wedi ei seilio'n gadarn ar yr angen i wella'r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli'n lleol, ac i sicrhau bod arweiniad effeithiol a gwir atebolrwydd ar y lefel leol honno. Bydd hynny'n golygu y bydd aelodaeth awdurdodau tân ac achub yn dod yn symlach ac yn fwy tryloyw, gyda mwy o gapasiti a gallu i ddarparu arweinyddiaeth strategol a gwleidyddol ac i ddatblygu cysylltiadau gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill. Hoffwn i hefyd weld aelodau anweithredol ar y lefel honno yn herio'n effeithiol.

Mae angen craffu'n briodol a chymeradwyo cyllidebau awdurdodau tân ac achub hefyd. Dylai'r swyddogaeth honno fod yn un i awdurdodau lleol, sy'n darparu'r mwyafrif sylweddol o gyllid awdurdodau tân ac achub. Rydym ni'n sylweddoli na all y gwasanaethau brys reoli na chwaith ragweld galw, felly mae'n rhaid adlewyrchu hynny wrth ddarparu adnoddau ar eu cyfer. Pe bai unrhyw fygythiad i hynny neu i safonau'r gwasanaeth yr ydym ni'n eu mwynhau, ni ddylai Llywodraeth Cymru oedi cyn ymyrryd.

Gall y rhan fwyaf o'r newidiadau hyn ddigwydd yn gymharol fuan, heb yr angen am ddeddfwriaeth sylfaenol. Yn y tymor hwy, rwy'n awyddus i archwilio diwygio mwy radical a fyddai'n llwyr gefnogi swyddogaeth gyfnewidiol y gwasanaeth ac yn sicrhau bod ganddo'r arweinyddiaeth broffesiynol briodol, gyda'r aelodau'n parhau i gael eu penodi i oruchwylio. Hoffwn i hefyd edrych ar y dewisiadau o ran ariannu'r ystod o gyfrifoldebau yr ydym ni'n disgwyl i'r gwasanaeth eu cyflawni mewn modd cynaliadwy a thryloyw. 

Rhaid inni ganolbwyntio ar ganlyniadau'r diwygio yn hytrach na dim ond ar y ffordd o wneud hynny. Rwyf, felly, yn hapus hefyd i ystyried dewisiadau eraill ar gyfer diwygio drwy'r broses ymgynghori a fyddai'n amlwg yn bodloni'r meini prawf y mae'r Papur Gwyn yn galw amdanynt.

Fodd bynnag, gadewch imi fod yn glir iawn nad wyf i o dan unrhyw amgylchiadau yn barod i drosglwyddo rheolaeth dros y gwasanaeth i gomisiynwyr heddlu a throseddu, fel sy'n digwydd yn Lloegr. Nid wyf i chwaith yn bwriadu newid y patrwm cyfredol o gael tri awdurdod tân ac achub na diwygio eu ffiniau presennol. Fel yr ydym ni wedi gweld dros y ffin, mae mynd ati fel yna yn creu mwy o broblemau nag y bydden nhw'n eu datrys.

Hefyd, fe hoffwn i sicrhau ein diffoddwyr tân fod diwygio ynglŷn â dim ond sut mae awdurdodau tân ac achub yn gweithredu yn gorfforaethol, ac nid ynglŷn â darpariaeth rheng flaen. Rwyf eisiau sicrhau y caiff y gwasanaeth ei arwain mewn modd cliriach a mwy atebol, a'i ariannu mewn ffordd decach, fwy cynaliadwy. Nid oes a wnelo hyn o gwbl ag unrhyw beth a fydd yn effeithio ar nifer y diffoddwyr tân, y cyfundrefnau hyfforddiant, offer, gorsafoedd tân neu faterion gweithredol eraill.

Dirprwy Lywydd, mae newid yn rhy aml o lawer yn ymateb i fethiant ac yn creu hyd yn oed mwy o bwysau ar sefydliad sydd mewn anhawster. Nid yw hynny'n wir yn yr achos hwn. Rwyf eisiau adeiladu ar y llwyddiannau yr ydym ni wedi'u gweld a chynnal y llwyddiannau a gafodd y gwasanaeth er mwyn sicrhau bod gennym ni wasanaeth yn y dyfodol y gallwn ni i gyd barhau i ddibynnu arno.