– Senedd Cymru am 3:19 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: diwygio trefniadau llywodraethu a chyllid awdurdodau tân ac achub, ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—Alun Davies.
Dirprwy Lywydd, rydym ni i gyd yn falch iawn o'n gwasanaethau tân ac achub, a hynny'n haeddiannol hefyd. Maen nhw'n ymateb yn gyflym, yn effeithiol ac yn anhunanol i fygythiadau difrifol i'n diogelwch. Yn fwy na hynny, mae eu gwaith ataliol wedi helpu i leihau nifer y tanau a nifer y bobl sy'n cael eu hanafu gan danau o fwy na hanner ers datganoli'r cyfrifoldeb i Gymru yn 2005. Mae hynny'n llwyddiant mawr, ond mae hefyd yn her. Wrth i nifer y tanau leihau, bydd swyddogaeth y gwasanaeth yn ehangu. Mae gan ddiffoddwyr tân y sgiliau, yr hyfforddiant, y galluoedd a'r gwerthoedd i ymdrin ag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau eraill, megis llifogydd, achosion meddygol brys ac ymosodiadau terfysgol. Mae ymgymryd â'r swyddogaeth ehangach hon nid yn unig yn fuddiol, ond rwy'n credu yn hanfodol i ddyfodol y gwasanaeth.
Mae gennym ni eisoes nifer o orsafoedd tân yng Nghymru sydd fel arfer yn ymdrin â llai nag un alwad brys i ddiffodd tân bob mis, a llawer sy'n gweld dim ond ambell ddwsin y flwyddyn. Rydym ni'n deall nad yw hyn yn gynaliadwy a'i fod yn gwneud recriwtio, ysgogi a chadw diffoddwyr tân yn anodd iawn. Ond ni ddylid cau gorsafoedd o'r fath chwaith, oherwydd byddai hynny'n gadael rhannau helaeth o'r wlad heb wasanaeth tân o gwbl.
Felly, mae'r dyfodol yn dibynnu ar wireddu'r potensial i wneud mwy trwy gydweithio ag asiantaethau eraill. I gyflawni hynny ac i sicrhau dyfodol sy'n hyfyw, mae angen i'r gwasanaeth gael ei lywodraethu a'i ariannu mewn ffordd fodern, atebol a chynaliadwy. Ar hyn o bryd nid dyna'r achos.
Ceir heriau cynyddol eraill hefyd. Mae pobl yn byw'n hwy ac yn aros yn annibynnol yn eu cartrefi, a dyna'n union beth yr ydym ni eisiau ei weld. Fodd bynnag, mae pobl hŷn mewn mwy o berygl o gael tanau yn eu cartrefi. Ar yr un pryd, mae angen i'r gwersi o drychineb Tŵr Grenfell gael eu dysgu a'u cymhwyso'n llawn o hyd. Bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu'r peryglon o lifogydd a thanau gwyllt, ac mae cyllid cyhoeddus yn hynod gyfyngedig—sefyllfa nad yw ond yn debygol o waethygu yn sgil Brexit. Unwaith eto, mae hyn yn galw am y safonau uchaf o arweinyddiaeth ac eglurder, gan sicrhau fod gan y gwasanaeth yr adnoddau y mae eu hangen, ond gan roi hynny hefyd yng nghyd-destun ehangach gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Nid yw'r trefniadau llywodraethu ac ariannu presennol yn addas at y diben newydd hwn. Maen nhw'n golygu y caiff y gwasanaeth ei redeg gan yr hyn sydd, i bob pwrpas, yn bwyllgorau mawr sydd led braich o'r holl wasanaethau lleol eraill a heb unrhyw fath o fandad democrataidd uniongyrchol. Nid oes unrhyw drafod cyhoeddus gwirioneddol nac atebolrwydd ynglŷn â'r hyn y mae'r gwasanaeth yn ei wneud neu'r hyn y dylai ei wneud, ac mae diffyg mecanweithiau ymgysylltu i ymateb i anghenion lleol sy'n newid. Eto i gyd, ni fu trafodaeth o'r fath ac atebolrwydd o'r fath erioed yn fwy pwysig.
Mae diffygion tebyg yn nhrefniadau ariannu awdurdodau tân ac achub. Mae'n rhaid i'r awdurdodau godi cyfraniadau ar ffurf ardoll gan awdurdodau lleol, gyda'r awdurdod tân ac achub a neb arall yn penderfynu ar y swm hwnnw. Nid oes unrhyw reolaeth neu gymeradwyaeth allanol o gwbl yn lleol nac yn genedlaethol. Ar adeg o gyni llym parhaus ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, mae hynny'n anodd ei gyfiawnhau. Mae angen ffynhonnell gynaliadwy o arian ar gyfer yr amrywiaeth gynyddol o gyfrifoldebau amgenach na diffodd tân a ddisgrifiais i eisoes y prynhawn yma.
Dirprwy Lywydd, mae'r trefniadau presennol yn dyddio o ganol y 1990au. Er y buont efallai yn ddigonol ar y pryd, mae'r gwasanaeth a'r gofynion a roddir arno wedi newid yn sylweddol ers hynny. Ni ddylai unrhyw un weld hyn fel unrhyw fath o feirniadaeth ar aelodau, rheolwyr neu staff presennol yr awdurdod tân ac achub. Rydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi gwneud eu gorau yn y system ddiffygiol sydd ohoni, ond mae angen newid y system honno ei hun bellach.
Mae'r Papur Gwyn yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn nodi sut yr hoffem ni ddiwygio'n ddelfrydol. Mae hyn wedi ei seilio'n gadarn ar yr angen i wella'r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli'n lleol, ac i sicrhau bod arweiniad effeithiol a gwir atebolrwydd ar y lefel leol honno. Bydd hynny'n golygu y bydd aelodaeth awdurdodau tân ac achub yn dod yn symlach ac yn fwy tryloyw, gyda mwy o gapasiti a gallu i ddarparu arweinyddiaeth strategol a gwleidyddol ac i ddatblygu cysylltiadau gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill. Hoffwn i hefyd weld aelodau anweithredol ar y lefel honno yn herio'n effeithiol.
Mae angen craffu'n briodol a chymeradwyo cyllidebau awdurdodau tân ac achub hefyd. Dylai'r swyddogaeth honno fod yn un i awdurdodau lleol, sy'n darparu'r mwyafrif sylweddol o gyllid awdurdodau tân ac achub. Rydym ni'n sylweddoli na all y gwasanaethau brys reoli na chwaith ragweld galw, felly mae'n rhaid adlewyrchu hynny wrth ddarparu adnoddau ar eu cyfer. Pe bai unrhyw fygythiad i hynny neu i safonau'r gwasanaeth yr ydym ni'n eu mwynhau, ni ddylai Llywodraeth Cymru oedi cyn ymyrryd.
Gall y rhan fwyaf o'r newidiadau hyn ddigwydd yn gymharol fuan, heb yr angen am ddeddfwriaeth sylfaenol. Yn y tymor hwy, rwy'n awyddus i archwilio diwygio mwy radical a fyddai'n llwyr gefnogi swyddogaeth gyfnewidiol y gwasanaeth ac yn sicrhau bod ganddo'r arweinyddiaeth broffesiynol briodol, gyda'r aelodau'n parhau i gael eu penodi i oruchwylio. Hoffwn i hefyd edrych ar y dewisiadau o ran ariannu'r ystod o gyfrifoldebau yr ydym ni'n disgwyl i'r gwasanaeth eu cyflawni mewn modd cynaliadwy a thryloyw.
Rhaid inni ganolbwyntio ar ganlyniadau'r diwygio yn hytrach na dim ond ar y ffordd o wneud hynny. Rwyf, felly, yn hapus hefyd i ystyried dewisiadau eraill ar gyfer diwygio drwy'r broses ymgynghori a fyddai'n amlwg yn bodloni'r meini prawf y mae'r Papur Gwyn yn galw amdanynt.
Fodd bynnag, gadewch imi fod yn glir iawn nad wyf i o dan unrhyw amgylchiadau yn barod i drosglwyddo rheolaeth dros y gwasanaeth i gomisiynwyr heddlu a throseddu, fel sy'n digwydd yn Lloegr. Nid wyf i chwaith yn bwriadu newid y patrwm cyfredol o gael tri awdurdod tân ac achub na diwygio eu ffiniau presennol. Fel yr ydym ni wedi gweld dros y ffin, mae mynd ati fel yna yn creu mwy o broblemau nag y bydden nhw'n eu datrys.
Hefyd, fe hoffwn i sicrhau ein diffoddwyr tân fod diwygio ynglŷn â dim ond sut mae awdurdodau tân ac achub yn gweithredu yn gorfforaethol, ac nid ynglŷn â darpariaeth rheng flaen. Rwyf eisiau sicrhau y caiff y gwasanaeth ei arwain mewn modd cliriach a mwy atebol, a'i ariannu mewn ffordd decach, fwy cynaliadwy. Nid oes a wnelo hyn o gwbl ag unrhyw beth a fydd yn effeithio ar nifer y diffoddwyr tân, y cyfundrefnau hyfforddiant, offer, gorsafoedd tân neu faterion gweithredol eraill.
Dirprwy Lywydd, mae newid yn rhy aml o lawer yn ymateb i fethiant ac yn creu hyd yn oed mwy o bwysau ar sefydliad sydd mewn anhawster. Nid yw hynny'n wir yn yr achos hwn. Rwyf eisiau adeiladu ar y llwyddiannau yr ydym ni wedi'u gweld a chynnal y llwyddiannau a gafodd y gwasanaeth er mwyn sicrhau bod gennym ni wasanaeth yn y dyfodol y gallwn ni i gyd barhau i ddibynnu arno.
Wel, fel yr ydych chi'n ei ddweud, rydym ni'n falch iawn o'n gwasanaethau tân ac achub, a hynny am resymau da. Rydych chi'n nodi yn eich paragraff agoriadol y buon nhw'n gweithio i helpu i leihau nifer y tanau a phobl sy'n cael eu hanafu gan dannau. Yn wir, ers 2001-02, ychydig ymhellach yn ôl nag yr ydych chi'n edrych, bu gostyngiad o 69 y cant. Fodd bynnag, sut ydych chi'n ymateb i'r pryder bod cynnydd o 3 y cant mewn gwirionedd yn nifer y tanau y galwyd awdurdodau tân ac achub i ymdrin â nhw yn 2017-18, gan wrthdroi'r duedd honno, gyda chynnydd o 13 y cant yn nifer y tanau eilaidd, a chynnydd o 22 y cant yn nifer tannau glaswelltir, coetiroedd a chnydau, a 15 o anafiadau o ganlyniad i danau yng Nghymru, sydd mewn gwirionedd 50 y cant yn uwch na'r ffigur o 10 o bobl a gafodd eu hanafu gan dân a ddefnyddiwyd fel dadl o blaid yr hyn a ddaeth yn ddeddfwriaeth systemau chwistrellu rhag tân?
Rydych chi'n cyfeirio at bobl hŷn sydd mewn mwy o berygl o gael tân yn eu cartrefi a'r gwersi o drychineb Grenfell. Pa ystyriaeth ydych chi'n ei rhoi neu a roesoch chi i adroddiad y Sefydliad Ymchwil Adeiladu a gomisiynwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog yn y DU yn 2002 a'r adroddiad dilynol gan Lywodraeth Cymru ei hun ar ddiwedd y ddeddfwriaeth systemau chwistrellu tân, a argymhellodd roi systemau chwistrellu rhag tân mewn tyrau uchel? Roedd yn llai brwdfrydig ynglŷn â thai newydd. Ond mae hi'n ymddangos na fu unrhyw ymateb i hynny tan ar ôl trychineb Grenfell.
Mewn llythyr ataf ar 20 Mehefin, fe wnaethoch chi ddweud nad ydych chi'n cytuno bod pobl hŷn yn wynebu risg benodol o danau trydanol, p'un ai o ran ffynhonnell y tân neu ei achos. Rwy'n credu o bosib eich bod chi wedi cwrdd ag Electrical Safety First ers hynny. Rwy'n credu yr oedd gennych chi gyfarfod wedi ei drefnu gyda nhw ym mis Gorffennaf. Roedd ganddyn nhw ffigurau yn dangos, o 1,485 o danau domestig y llynedd—rwy'n cymryd bod hynny'n golygu yn y DU—roedd 71 y cant ohonyn nhw yn danau trydanol a 63 y cant yn y gegin. Ac, yn y cyd-destun hwnnw, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r tanau a achosir gan drydan yng Nghymru?
Mae fy nghwestiynau olaf yn ymwneud â'ch newidiadau arfaethedig i drefniadau llywodraethu a chyllido, yr ydych chi'n dweud yn syml nad ydyn nhw'n addas at y diben. Yna yn eironig, rydych chi'n priodoli'r methiannau i
'bwyllgorau mawr o gynghorwyr meinciau cefn sydd led braich o'r holl wasanaethau lleol eraill a heb unrhyw fath o fandad democrataidd uniongyrchol.'
Mae hwnnw'n fodel, os cofiaf, y buoch chi'n ei amddiffyn pan oedd Llywodraeth y DU yn cynnig sefydlu comisiynwyr heddlu a throseddu, gan ddefnyddio geiriau bron yn union yr un fath bryd hynny. Rydych chi'n dweud y bydd hynny'n golygu y bydd aelodaeth awdurdod tân ac achub yn symlach a mwy tryloyw o ganlyniad, gyda'r angen i gymeradwyo a chraffu ar gyllidebau mewn modd priodol. Wel, diolch byth, mae'r awdurdodau tân ac achub yn dryloyw gyda dogfennau eu cyfarfod, sydd yn bwynt dilys wrth ystyried eu trefniadau cyllid a llywodraethu presennol. Cyfeiriodd adroddiad prif swyddog tân y gogledd i'w awdurdod tân ar 17 Medi at faterion allweddol a nodir mewn llythyr gennych chi at gadeiryddion awdurdodau tân ac achub ym mis Chwefror ar gyfer y cyfarfod a gafodd y tri chadeirydd gyda chi ar ddiwedd Ebrill, at eich penodiad ar y pryd o'r Athro Catherine Farrell o Brifysgol De Cymru a'r Athro Rachel Ashworth, Prifysgol Caerdydd, i siarad â chynrychiolwyr o awdurdodau tân ac achub a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac fe gyflwynwyd eu hadroddiad i chi. Ac roedd adroddiad dirprwy brif swyddog Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ym mis Medi i'w awdurdod ef neu hi yn cynnwys crynodeb o'r adborth a gasglwyd ynghyd o'r cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda chadeiryddion, penaethiaid a phersonél ychwanegol yr awdurdod tân ac achub a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwnnw nad yw penaethiaid a chadeiryddion yn gwrthsefyll newid, a'u bod wedi rhoi enghreifftiau lu o sut maen nhw wedi cofleidio hynny, ond fe wnaethon nhw sôn am nifer o bryderon ynghylch yr awgrym y gellid diwygio awdurdodau tân ac achub yng Nghymru?
Sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad bod sawl un ohonyn nhw yn cwestiynu'r diffyg tystiolaeth a'r sail resymegol glir ar gyfer diwygio, a'u bod yn teimlo nad yw'r problemau honedig gyda'r system bresennol wedi'u nodi'n glir, gan ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw amcangyfrif y gwerth ychwanegol y gellid ei ennill drwy unrhyw newid, a'r datganiad lle mynegodd rhai ohonyn nhw eu pryder am newid system sy'n gweithio'n dda ac am 'chwalu system nad yw wedi torri', gan roi'r enghraifft y canfuwyd bod atebolrwydd o ran tân yn ddigonol iawn o gofio'r raddfa a'r gyllideb ar gyfer y gwasanaeth, o gymharu â systemau atebolrwydd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill sy'n gweithredu ar raddfa lawer mwy, a'r datganiad y pwysleiswyd yn y cyfweliadau pa mor bwysig yw'r cyswllt etholiadol drwy awdurdodau lleol ac a oedd yn cynnig enghreifftiau o sut y caiff hyn ei weithredu ar hyn o bryd i sicrhau atebolrwydd, tryloywder, ymgynghori a gwybodaeth? Ac, yn olaf, sut ydych chi'n ymateb—ni wnaf ddarllen pob un ohonyn nhw oherwydd bod llawer ohonyn nhw—i'r crynodeb o'r awgrymiadau ar gyfer gwella yn yr adroddiad hwnnw, yr ydych chi rwy'n siŵr, wedi eu cerfio ar wal eich ystafell wely, ond a oedd yn cynnwys yr angen am gysondeb o ran manylebau swyddogaeth aelodau, eglurder ynglŷn â'r swyddogaeth o graffu a herio, arwydd o lefel datblygiad aelodau a'r cymorth y maen nhw yn ei gael, a'r angen i gyfethol aelodau sydd ag arbenigedd o'r tu allan i'r gwasanaeth, o feysydd megis iechyd a gofal cymdeithasol, ar gyfer yr awdurdod tân ac achub, neu is-bwyllgor newydd i graffu ar waith pwyllgor materion cenedlaethol? Diolch.
Dirprwy Lywydd, daeth ofn dychrynllyd arnaf hanner ffordd drwy'r cyfraniad hwnnw fod yr Aelod Ceidwadol yn mynd i ddarllen nodiadau pob cyfarfod a gefais dros y flwyddyn ddiwethaf, a darllen o nodiadau pob cyfarfod, cyfraniad pob aelod yn y cyfarfod hwnnw. [Chwerthin.] Gallai fod wedi bod yn sesiwn hir iawn, iawn.
Gadewch imi ddweud hyn: rydym ni, fel y dywedodd yr Aelod, wedi cael sgwrs hir iawn gyda'r cadeiryddion a'r prif swyddogion presennol wrth inni symud drwy'r broses. A, dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, rwyf wedi ceisio datblygu dadl, gyda'r cadeiryddion yn arbennig, dros yr angen i ddiwygio a ffurf y diwygio hwnnw. Cyflwynais yr elfen academaidd i hynny ar sail ymgais i lunio ac i ganiatáu datblygu syniadau eu hunain ar rai o'r materion hyn. A gadewch imi ddweud hyn: Papur Gwyn yw hwn, ac mae'n Bapur Gwyn sy'n holi barn ynglŷn â chynigion penodol, ond nid yw'n Bapur Gwyn sy'n anwybyddu dewisiadau eraill. Yn wir, pe bai'r Aelod yn rhoi o'i amser i ddarllen y Papur Gwyn yn fanwl, yna byddai'n gweld, yn y Papur Gwyn ei hun, ein bod ni yn gwneud ymdrech i ddweud, os oes cynigion eraill, awgrymiadau eraill, argymhellion eraill ar gyfer diwygio, ein bod ni'n hapus i roi sylw iddyn nhw ac i ystyried y cynigion ychwanegol hynny. Nid wyf ar unrhyw adeg yn y broses hon wedi siarad o blaid nac yn erbyn unrhyw fesurau amgen neu unrhyw awgrymiadau amgen, ac eithrio cael llu cenedlaethol, brigâd genedlaethol, a hefyd trosglwyddo cyfrifoldeb i'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Dyna'r ddau ddewis yr wyf i wedi eu diystyru, ond nid wyf i wedi diystyru dewisiadau eraill. Os oes gan lefarydd y Blaid Geidwadol unrhyw awgrymiadau y mae'n dymuno inni eu hystyried, yna rwy'n fwy na pharod i roi ystyriaeth briodol i'r materion hynny.
Ond yn ei gyfraniad, mae yntau, mewn sawl ffordd, yn dadlau dros ddiwygio. Efallai y bydd clywed hynny yn torri ei galon, ond mae yn dadlau o blaid diwygio, oherwydd mae yntau yn amlinellu'r newid yn natur bygythiad tân. Mae'n disgrifio tanau eilaidd, tannau ar y glaswelltiroedd a'r rhosydd, ac efallai yr hoffai werthfawrogi'r arbenigedd a'r deheurwydd sydd gennym ni yn awr yn y gwasanaethau tân yng Nghymru. Efallai ei fod yn ymwybodol bod gwasanaeth tân de Cymru wedi treulio llawer iawn o amser yn gweithio gydag eraill ar weunydd Saddleworth, er enghraifft, yn ymdrin â'r tanau a fu yn Lloegr, ar draws y ffin, dros fisoedd yr haf. Ac mae'r arbenigedd hwnnw—yr wybodaeth, y deheurwydd hwnnw—yn bethau y mae arnom ni eisiau eu gwella a buddsoddi ynddyn nhw ar gyfer y dyfodol. Mae'r galluoedd sydd gan yr awdurdodau a'r gwasanaethau tân ac achub bellach ymhell y tu hwnt i'r hyn y byddem ni wedi eu rhagweld yn bosibl yn y 1990au, pan luniwyd y strwythurau presennol. Ac mae'n addas ac yn briodol, felly, ein bod yn diwallu angen sy'n newid ac yn esblygu drwy ddadlau a thrafod sut mae ein strwythurau yn addas at y diben i ymateb i'r sefyllfa honno sy'n newid ac yn datblygu.
Felly, rwy'n gobeithio y gwnaiff efallai godi ei ben ychydig, a rhoi ystyriaeth ddyledus i'r materion hyn. Ac os yw'n dymuno bod yn rhan o'r drafodaeth am y dyfodol, rwy'n fwy na pharod i gael y sgwrs honno gydag ef. Bydd yr heriau y byddwn ni yn eu hwynebu yn y dyfodol yn rhai mawr. Rydym ni'n gwybod, ac rydym ni wedi trafod eisoes, y newidiadau sydd eu hangen i'r patrwm o ymateb i danau. Gofynnodd yr Aelod nifer o gwestiynau am Dŵr Grenfell a'n hymateb i hynny. Dywedaf wrtho ein bod wedi dilyn arweiniad y Gweinidog wrth ymateb i'r materion hyn, ac mae hi, fel y bydd yn ymwybodol, wedi gwneud sawl datganiad i'r Cynulliad hwn ar ymateb esblygol Llywodraeth Cymru i drychineb llwyr Tŵr Grenfell. A byddwn yn parhau, a bydd hithau'n parhau, i arwain yr ymateb hwnnw.
Ond gadewch i mi ddweud hyn: wrth inni symud ymlaen i ymateb—ac rwy'n credu, sefydlu strwythur newydd i ymateb i Grenfell—mae'n addas a phriodol bod yr awdurdodau tân ac achub yn chwarae rhan lawn a blaenllaw wrth ymateb i hynny. Dyna pam fod angen awdurdodau tân ac achub arnom ni sy'n addas at y diben, ac sydd â'r cyllid a'r drefn lywodraethu i'w galluogi i wneud hynny.
Dai Lloyd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyn imi ddechrau, mewn gwirionedd, mae'n gwbl briodol eich bod yn y gadair ar gyfer y datganiad hwn, Dirprwy Lywydd, gan mai chi yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'r ddeddfwriaeth systemau chwistrellu rhag tân, ac mae hi'n briodol inni gydnabod hynny unwaith eto.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am ei ddatganiad a chroesawu llunio'r Papur Gwyn hwn? Mae'n briodol inni dalu teyrnged i ddiffoddwyr tân—mae hi'n briodol inni fod yn falch iawn ohonyn nhw a'u holl wasanaethau achub. Maen nhw, yn briodol iawn, fel y dywedir bob amser, yn peryglu eu cyrff. Ac fel y crybwyllwyd, ceir heriau cynyddol eraill hefyd—mae pobl yn byw'n hwy fel y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet. Ac, ie, yn sicr yn y maes gofal cymunedol a gofal sylfaenol, rydym ni'n cadw pobl yn eu cartrefi yn awr nad oeddem ni'n arfer eu cadw yn eu cartrefi. Yn rheolaidd, mae gennym ni bobl eiddil iawn 80 a 90 mlwydd oed sy'n byw ar eu pen eu hunain, ac mae hynny'n her benodol, ac mae'n her, o bryd i'w gilydd, yr wyf yn ei thrafod gyda chydweithwyr o'r gwasanaethau tân ynghylch sut i fynd i'r afael â'r heriau hynny. Felly, yn sicr, mae'r maes yn newid, gyda mwy o bwyslais ar waith ataliol, wrth i nifer y tanau, fel yr ydym ni wedi clywed, leihau. Yn wir, mae hynny wedi dod yn amlwg wrth edrych ar y cartŵn Cymraeg sy'n cynnwys eicon y diffoddwyr tân, Sam Tân. Yn amlwg, rwy'n gwylio'r fideos hyn bellach gyda'r ŵyr ac maen nhw'n fideos hollol wahanol i'r rhai yr oeddwn i'n eu gwylio genhedlaeth yn ôl gyda'm plant, sy'n seiliedig ar gymuned Pontypandy lle mae rhywbeth o hyd yn mynd o chwith—ac mae llawer mwy o bwyslais ar atal y dyddiau hyn, ac ar swyddogaeth ehangach y gwasanaethau tân yn gyffredinol, sydd i'w groesawu, yn naturiol.
Nawr, ym 1999, dim ond un o'r gwasanaethau 999 oedd wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad hwn. Erbyn 2005, roedd yr ail wasanaeth 999 wedi ei ddatganoli, sef y gwasanaeth tân. Rydym ni'n dal i ddisgwyl i wasanaethau 999 eraill gael eu datganoli, megis yr heddlu. Felly, rwy'n croesawu sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch peidio â datganoli unrhyw reolaeth dros y gwasanaethau tân i'r heddlu, nad ydyn nhw, yn sicr wedi eu datganoli ar hyn o bryd. Felly, rwyf yn croesawu'r sylwadau hynny. Ond o ran cysondeb, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi o ran—? Rwy'n sylweddoli eich bod wedi cyflwyno eich cynigion, ond fe wnaethoch chi ddweud hefyd ei fod yn Bapur Gwyn, felly rydych chi'n croesawu safbwyntiau eraill. O ran cydweithio rhwng gwasanaethau 999 gwahanol, sut ydych chi'n teimlo y byddai cysondeb o ran ffiniau a chysondeb o ran y dull o ariannu gwasanaethau 999 gwahanol yn helpu i gael mwy o gyd-leoli a chydweithio rhwng y gwasanaethau brys o ran ymateb i achosion o argyfwng?
A sôn am eich Papur Gwyn, ar yr ail dudalen, rydych chi wedi nodi rhai cynigion yma. Oes gennych chi syniad cychwynnol o ymateb yr awdurdodau tân ac achub i'ch diwygiadau arfaethedig? I siarad yn blaen, rydym ni'n dal i gofio y cawsoch chi ychydig o anhawster lleol yn ddiweddar, o ran diwygio awdurdodau lleol. Ydych chi wedi cael unrhyw argoel o farn yr awdurdodau tân ac achub am y cynlluniau hyn, oherwydd, yn amlwg, nid ydym ni eisiau gweld y llanast hwnnw'n cael ei ailadrodd, nac ydym? Diolch.
Dirprwy Lywydd, fe wnaethom ni gwrdd, wrth gwrs, yn eglwys gadeiriol Southwark pan oedd y ddau ohonom ni yno i dalu teyrnged i waith Undeb y Brigadau Tân a diffoddwyr tân dros y ganrif ddiwethaf, ac mae llefarydd Plaid Cymru yn llygad ei le yn talu teyrnged i chi am y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud yn yr amser yr ydych chi wedi gwasanaethu yma, drwy'r ddeddfwriaeth yr ydych chi wedi arloesi gyda hi, ond hefyd, rwy'n credu, drwy fod—sut allaf i fynegi hyn yn foneddigaidd ac yn ddiplomataidd—yn llais uchel a chlir ar gyfer y gwasanaeth tân, diffoddwyr tân a lle'r gwasanaeth tân yn ein bywyd cenedlaethol. Rwy'n credu yr hoffai pob un ohonom ni yn y Siambr ymuno i dalu teyrnged i chi am y gwaith hwnnw dros y blynyddoedd.
Ni chewch chi fwy o amser—ewch ymlaen. Ewch ymlaen. [Chwerthin.]
Fe fyddwn i'n siomedig pe baech chi'n dangos unrhyw drugaredd tuag ataf o gwbl. [Chwerthin.]
Ond gadewch i mi ddweud hyn: yn amlwg, mae'r materion o atal ac ymwybyddiaeth yn faterion y bydd y gwasanaethau tân yn canolbwyntio arnyn nhw mewn ffordd efallai na wnaethon nhw yn y gorffennol, ac yn sicr nid 20 neu 30 mlynedd yn ôl, ac mae hynny'n rhywbeth y gobeithiaf y byddwn yn parhau i ganolbwyntio arno wrth inni weld, rwy'n gobeithio, gostyngiad parhaus yn nifer cyffredinol y tanau, tanau domestig yn benodol.
Rwy'n credu ei bod hi'n addas ac yn briodol—. Ac os yw'r Aelod yn gallu rhoi o'i amser i ddarllen drwy'r Papur Gwyn, bydd yn gweld ein bod yn ceisio bod yn gyson o ran yr egwyddorion yr ydym ni'n eu dilyn wrth geisio gweithredu rhaglen ddiwygio. Mae'r egwyddorion hynny'n cynnwys gweithio'n lleol. Rwyf eisiau gweld gwasanaethau sy'n atebol yn lleol, ac sy'n cael eu rheoli yn lleol. Nid wyf eisiau nac yn bwriadu chwaith ceisio gwladoli, os mynnwch chi, ein holl wasanaethau cyhoeddus. Rwy'n credu bod atebolrwydd lleol yn bwysig. Fe wrandewais i ar ddarlith ardderchog amser cinio gan brif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac fe'm trawyd wrth wrando arno gan y tir cyffredin, lle'r ydym ni'n rhannu'r un uchelgais, yntau a phobl eraill, ynghylch y weledigaeth ar gyfer dyfodol llywodraeth leol a darparu gwasanaethau lleol yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld yn y dyfodol.
Yn amlwg, rydym ni wedi rhoi rhywfaint o ystyriaeth i'r mater o ffiniau a chydleoli'r gwasanaethau brys. Fy marn gadarn i yw—a barn Llywodraeth Cymru yw hyn—y dylid datganoli plismona i'r lle hwn, ac rydym ni'n gweld, rwy'n credu, y manteision o ran cael cydlyniant wrth lunio polisïau a chydlyniant wrth ddarparu gwasanaethau lle mae gennym ni ffordd gynhwysfawr o reoli a darparu gwasanaethau sy'n hollol greiddiol ac allweddol. Mae'r pwyntiau a godwyd gan yr Aelod dros Ogledd Caerdydd yn ystod y cwestiynau busnes wrth gwrs yn cyfeirio at wasanaethau lle nad oes gennym ni'r un graddau o gysondeb ac na allwn ni ymdrin â pholisïau mewn modd cynhwysfawr, ac rwy'n credu ein bod ni'n gweld canlyniadau hynny yn ei effaith ar bobl ar hyd a lled ein gwlad.
A gaf i ddweud, rwyf wedi rhoi sylw, yn ystod fy amser yma, i'r materion o gydleoli'r gwasanaethau brys a chael mwy o gydweithio rhyngddynt? Rwy'n gobeithio y bydd y diwygiadau yr ydym ni'n eu hargymell yn galluogi hynny i barhau, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld mwy o gydleoli a mwy o gydweithio yn y dyfodol. O ran barn yr awdurdodau tân ac achub ynglŷn â'r materion hyn, fe all hi fod yn anodd bod yn Weinidog yn y wlad hon os ydych chi â'ch bryd ar ddiwygio. Mae Cymru'n wlad hardd, wych, sy'n llawn o bobl geidwadol y gall diwygio fod yn anodd iawn, iawn iddyn nhw, a'r hyn sydd gennyf i i'w ddweud wrth yr Aelod yw mai Llywodraeth radical yw hon a'n bod ni'n dymuno diwygio mewn modd radical. Gall yr Aelod benderfynu a yw'n rhan o Gynulliad sy'n diwygio neu beidio, ac mae hynny'n fater iddo ef bendroni yn ei gylch, ond rwy'n dweud wrthych chi, yn fy mhrofiad i o'r lle hwn, pan ydym ni'n diwygio, pan ydym ni'n ystyried rhoi strwythurau ar waith a fydd yn ein gwasanaethu ni yn y dyfodol, yna rydym ni'n darparu'r gorau y gallwn ni ar gyfer y bobl yr ydym ni'n ceisio'u cynrychioli.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad yma heddiw. Mae gen i ddau gwestiwn i chi. Yn gyntaf, a wnewch chi ymuno â mi wrth longyfarch tîm rhyddhau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru? Erbyn hyn, maen nhw nid yn unig yn bencampwyr cenedlaethol bum gwaith yn y Deyrnas Unedig, ond, am y drydedd flwyddyn yn olynol, fe wnaethon nhw ennill her y sefydliad achub byd-eang yn ddiweddar yn Cape Town, gan roi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gadarn ar y map.
O ran y ddogfen ymgynghori, rwy'n sylwi ar eich sylwadau am drefniadau llywodraethu. Nid wyf yn argyhoeddedig bod aelodau Cabinet mewn sefyllfa well i graffu nac aelodau meinciau cefn, sydd o bosib â swyddogaethau craffu uwch. Er enghraifft, nid oes unrhyw ofyniad i gynghorwyr sy'n eistedd ar baneli yr heddlu a throseddu neu fyrddau iechyd lleol fod yn aelodau gweithredol, ac rwy'n bryderus y gallai hyn arwain at ddiberfeddu, gyda chriw bach o aelodau gweithredol yn gwneud mwy a mwy a chwmpas y cynghorwyr meinciau cefn yn cael ei leihau. Byddai gennyf ddiddordeb clywed eich ymateb i hyn.
Yn drydydd, nodaf y sylwadau ynghylch lleihau maint yr awdurdodau. Fodd bynnag, rwy'n gwybod ei bod hi'n ofynnol drwy statud i awdurdodau gael amrywiaeth o bwyllgorau sefydlog, ac mae awdurdod tân mwy, wrth gwrs, yn golygu bod y rhain yn fwy hydrin. Ydych chi wedi ystyried sut y bydd hyn yn gweithio yn ymarferol?
Yn olaf, o ran y model ariannu, rwyf yn gweld y manteision o symud i fodel praesept, a phan wyf wedi cyfarfod â gwasanaeth de Cymru mae'r hyn y maen nhw yn ei wneud wastad wedi gadael argraff arnaf. Byddwn yn croesawu mwy o wybodaeth ynghylch ymyrraeth gan Weinidogion, fydd bynnag, ynghylch beth allai ddigwydd pan nad yw awdurdodau mewn gwirionedd yn cytuno ar faint y praesept. Felly, er enghraifft, petai dim ond un awdurdod yn anghytuno a'r gweddill yn cytuno ar faint y praesept, beth fyddai'n digwydd yn yr achos hwnnw? Oherwydd rwy'n pryderu y gallai hynny arwain at rai problemau posib.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei chroeso cyffredinol i'r Papur Gwyn, ac yn sicr fe hoffwn i ymuno â hi i longyfarch tîm rhyddhau de Cymru ar yr her achub fyd-eang y maen nhw wedi llwyddo i'w hennill eto. Un o bleserau mawr swydd etholedig yr ydym ni i gyd yn ei rannu yw'r cyfle i gwrdd â phobl sy'n gwneud gwaith mor wych yn ein cymunedau, ac, yn sicr, rwy'n ceisio treulio amser yn siarad â diffoddwyr tân sydd ar y rheng flaen, fel petai, sy'n darparu'r gwasanaethau y mae angen inni i gyd eu gweld yn ein cymuned. A gaf i ddweud hyn? Pan sefais yn y Rhondda yn siarad â'r diffoddwyr tân a oedd newydd ddychwelyd o Saddleworth a phan oeddwn yn siarad â diffoddwyr tân a oedd yn ymdrin â thanau rhostir ar draws de Cymru dros yr haf, fe'm trawyd gan eu proffesiynoldeb, gan eu gwybodaeth—ehangder eu gwybodaeth—a'u dealltwriaeth o'r bygythiadau yr oedd ein cymunedau yn eu hwynebu, ond hefyd eu hymrwymiad i ddefnyddio'r wybodaeth honno, i ddefnyddio'r profiad hwnnw, er mwyn diogelu ein pobl a'n cymunedau, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n fy nharo drachefn a thrachefn.
O ran swyddogaeth cynghorwyr y meinciau cefn, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw sicrhau bod gennym ni'r haenau llywodraethu sy'n gallu rhoi'r sicrwydd angenrheidiol inni er mwyn sicrhau craffu ac atebolrwydd lleol—yr ydym ni eisiau iddo fod yn lleol yn hytrach na chreu strwythurau cenedlaethol mwy— ond, ar yr un pryd, i sicrhau bod gennym ni'r gallu i gysylltu gwaith y gwasanaeth tân gyda gwaith y gwasanaethau eraill a ddarperir gan yr awdurdod hwnnw. Mae'r pwyntiau a wnaed gan lefarydd y Ceidwadwyr—Plaid Cymru, mae'n ddrwg gennyf—yn hyn o beth yn eithaf pwysig, oherwydd, yn yr un modd ag yr ydym ni eisiau gweld datganoli'r heddlu i sicrhau bod gennym ni'r cydlyniant gallu i ymateb i a chynllunio ymyriadau gwasanaeth, rydym ni hefyd eisiau yr un cydlyniant hwnnw rhwng awdurdodau lleol a gwasanaethau brys. A'r teimlad, rwy'n credu, yw drwy gael cynghorydd gweithredol neu aelod o'r cabinet yn gwasanaethu ar awdurdod tân, yna bydd gennym ni'r cysylltiad hwnnw, a bydd gennym ni fwy o gydlyniant a gwell cydlyniant. Yn amlwg, mae hynny'n drafodaeth y byddwn ni'n ei chael dros y misoedd nesaf.
O ran y modelau ariannu, rwy'n awyddus ein bod yn gallu sefydlu strwythur lle mae llywodraeth leol a'r awdurdodau tân ac achub yn gallu cydweithio a chytuno ar gyllideb ar y cyd ar gyfer y dyfodol. Dyna'r hyn y sydd arnaf ei eisiau. Mae'r Aelod yn gwbl briodol yn nodi meysydd lle mae'n bosib i hynny beidio â digwydd a lle ceir problemau yn hynny o beth. Yn amlwg, byddai angen pwerau wrth gefn i ddatrys hynny. Yr hyn yr ydym ni'n ei awgrymu yn y Papur Gwyn hwn yw bod y pwerau wrth gefn hyn yn rhoi pwerau i Weinidogion, ond dim ond pwerau i ymyrryd o dan amgylchiadau penodol ac wedyn i ymyrryd i ddarparu cyllideb sy'n ddim uwch na'r hyn y mae'r awdurdod tân ac achub yn ei gynnig. Felly, mae'r pwerau hynny wedi eu dylunio, os mynnwch chi, neu yn sicr mae ffiniau iddynt na allai Gweinidog ymyrryd y tu hwnt iddynt. Ond rwy'n gweld y rhai hynny i raddau helaeth iawn fel pwerau wrth gefn a fyddai'n galluogi awdurdod ac awdurdod tân ac achub i gytuno a dyfarnu a allan nhw wneud hynny. Ond nid wyf yn gweld y pwerau hynny fel pwerau a fyddai ar gael i Weinidog oni bai bod y pwerau, ac oni bai bod yr awdurdodau lleol cysylltiedig, yn methu â dod i gytundeb ymysg ei gilydd.
Diolch. Ac, yn olaf, Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu y gwnaf i ddechrau drwy ddweud bod ar bob un ohonom ni ddyled o ddiolchgarwch i ddiffoddwyr tân sy'n mynd i adeiladau pan fo'r gweddill ohonom ni'n gadael. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ar atal tannau, ac rydych chi a'r system chwistrellu wedi eu canmol, ond mae'r gwaith enfawr a wneir gan y gwasanaeth tân o ran mynd allan a rhoi larymau mwg mewn tai yn amlwg wedi arbed cannoedd o fywydau.
Roeddwn yn gobeithio y byddai'r datganiad hwn wedi cynnwys ad-drefnu gwasanaethau tân ac achub. Rwyf wedi bod o'r farn ers tro byd nad yw gwasanaeth tân ac achub ar gyfer y canolbarth a'r gorllewin yn gwneud fawr o synnwyr gweithredol. Er enghraifft, pe byddai tân mawr yn y Trallwng, byddai angen diffoddwyr o Wrecsam; nid o Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot.
O ran llywodraethu, mae diffyg democrataidd sylweddol. Nid yw hyn yn unigryw i'r gwasanaeth tân ac achub; mae'n berthnasol i bob math o gydweithio. Dyna pam mae rhai pryderon gan bobl dros weithio ar y cyd. Sut fydd newid aelodaeth bresennol awdurdodau tân ac achub yn sicrhau bod aelodau yn atebol i'w hetholwyr? Pam ddim cael adroddiad oddi wrth yr awdurdod tân ac achub i bwyllgor craffu ym mhob cyngor, neu, gwell fyth, cael adroddiad blynyddol gan y prif swyddog tân a'r awdurdod tân i gyfarfod cyngor? Sut fydd penodi aelodau nad ydyn nhw'n gynghorwyr a lleihau nifer y cynghorwyr yn gwella atebolrwydd?
O ran cyllid, a all Ysgrifennydd y Cabinet enwi gwasanaeth cyngor arall na hoffai newid gallu yr awdurdodau tân ac achub i godi ardoll ar y cynghorau dan sylw? Rwy'n credu y byddai addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol yn eiddgar iawn i gael cyfle o'r fath. Felly, mae angen dull gwell arnom ni o ariannu gwasanaethau tân oherwydd maen nhw yn cael eu hariannu mewn ffordd gwbl wahanol. Ac nid oedd ots pan oedd gennym ni swm cynyddol o arian yn y gwasanaethau cyhoeddus; mae yn bwysig bellach. Ac rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir—ni ddylem ni fod ag ofn newid, ond beth y dylem ni ei wneud bob amser yw gwneud yn siŵr bod y newid er gwell, nid er gwaeth.
Rwyf wastad yn croesawu cyfraniad gan yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe i'r ddadl ar ad-drefnu gwasanaethau lleol, ac mae'r cysondeb y mae'n ei ddangos yn ei gyfraniadau yn rhywbeth i'w groesawu.
A gaf i ddweud—? A gaf i ddweud fy mod i'n cytuno â'r sylwadau y mae wedi eu gwneud? Ac a gaf i ddweud hefyd ein bod ni, mewn sawl ffordd, wedi etifeddu systemau a strwythurau o'r gorffennol a'i bod hi'n ddyletswydd ac yn gyfrifoldeb arnom ni i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol? A'n cyfrifoldeb ni, felly, yw edrych ar y prosesau a'r strwythurau i sicrhau, o bryd i'w gilydd, bod gennym ni'r cyfle i roi'r ystyriaeth ddwys sy'n ddyledus i'r materion hyn. O ran yr awgrymiadau y mae wedi eu gwneud o ran adroddiadau i bwyllgorau craffu awdurdodau lleol, byddwn yn croesawu hynny'n fawr iawn. Wyddoch chi, mae un o'r dadleuon a'r trafodaethau a gawsom ni o ran y pwerau sydd wedi eu crynhoi mewn llywodraeth leol a mannau eraill yn anghofio nad dim ond y pwerau a roddir drwy statud yw pwerau awdurdod lleol, ond y pŵer sydd ganddo fel corff etholedig i gynrychioli buddiannau'r bobl y mae'n eu gwasanaethu? Fel y cyfryw, gall fynnu'r adroddiadau hynny, gall alw ar bobl i ymddangos i roi tystiolaeth, gall greu strwythurau craffu, ac nid oes angen statud i wneud hynny, ac yn sicr nid oes angen sêl bendith Gweinidog arno er mwyn gwneud hynny. Mae hynny'n fater i lywodraeth leol ac rwy'n annog pob awdurdod lleol ledled y wlad i sicrhau eu bod yn defnyddio eu swyddogaeth graffu yn y modd creadigol hwnnw, os mynnwch chi, sydd ddim yn gaeth i'r hyn y maen nhw'n gallu ei wneud neu dan orfodaeth i'w wneud gan y gyfraith. Felly, rwy'n sicr yn croesawu hynny.
O ran y pwyntiau y mae'n eu gwneud—a byddaf yn ceisio cadw o fewn yr amser, Dirprwy Lywydd—rwyf wedi ystyried y mater o ffiniau, ac roedd yn bwynt a godwyd, wrth gwrs, gan lefarydd Plaid Cymru. Ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod dadl dros wneud newidiadau sylweddol i unrhyw un o'r ffiniau na niferoedd presennol awdurdodau tân ac achub. Ond nid wyf yn diystyru newid o'r fath yn llwyr, pe byddai dadl o'r fath yn cael ei chyflwyno. Nawr, mae hi'n amlwg yn bosib pwyntio at gymunedau ar y naill ochr i unrhyw ffin a dweud y dylai'r cymunedau hynny weithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau. Dyna'r peth hawsaf yn y byd i'w wneud, ac rwy'n derbyn, yn amlwg, yn yr enghraifft a roddwyd, y byddai'r awdurdodau hynny, rwy'n rhagweld, yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen. Mae'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma yn fater gwahanol; mae'n ymwneud â llywodraethu, ac rwyf eto i gael fy argyhoeddi bod dadl dros newid yn y modd a ddisgrifiwyd gan yr Aelod, ond nid wyf wedi diystyru hynny, ac os yw'n gallu cyflwyno'r dadleuon o blaid y newid y mae'n ei awgrymu, yna rwy'n hapus iawn i roi ystyriaeth briodol i hynny yn y dyfodol.
O ran—. Hwn yw fy mhwynt olaf, Dirprwy Lywydd. O ran y pwynt y maen ei wneud ynglŷn â'r ddau neu dri aelod ychwanegol rwy'n credu a fyddai'n eistedd ar fyrddau diwygiedig er mwyn eu dwyn i gyfrif, craffu a herio, rydym ni'n edrych i sicrhau bod gennym ni'r cyfuniad cywir o aelodau wedi eu hethol yn lleol, sy'n atebol yn lleol sy'n gallu herio rheolwyr yr awdurdodau, ond hefyd i sicrhau bod gennym ni'r cyfuniad o sgiliau ar fyrddau newydd yr awdurdodau tân ac achub i sicrhau bod gennym ni'r bobl yno sy'n gallu herio'r bwrdd hwnnw hefyd. Dyna swyddogaeth cyfarwyddwr anweithredol mewn llawer o fusnesau ar hyd a lled y wlad. Mae'n swyddogaeth yr wyf eisiau gweld ei chyflawni ar y byrddau newydd hyn, ond, unwaith eto, dyma ddechrau ymgynghoriad, nid diwedd ymgynghoriad, felly rwy'n hapus iawn i ymuno yn y ddadl os yw Aelodau yn dymuno cyfrannu ymhellach dros y misoedd nesaf.
Diolch yn fawr iawn.