Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Rwyf wastad yn croesawu cyfraniad gan yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe i'r ddadl ar ad-drefnu gwasanaethau lleol, ac mae'r cysondeb y mae'n ei ddangos yn ei gyfraniadau yn rhywbeth i'w groesawu.
A gaf i ddweud—? A gaf i ddweud fy mod i'n cytuno â'r sylwadau y mae wedi eu gwneud? Ac a gaf i ddweud hefyd ein bod ni, mewn sawl ffordd, wedi etifeddu systemau a strwythurau o'r gorffennol a'i bod hi'n ddyletswydd ac yn gyfrifoldeb arnom ni i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol? A'n cyfrifoldeb ni, felly, yw edrych ar y prosesau a'r strwythurau i sicrhau, o bryd i'w gilydd, bod gennym ni'r cyfle i roi'r ystyriaeth ddwys sy'n ddyledus i'r materion hyn. O ran yr awgrymiadau y mae wedi eu gwneud o ran adroddiadau i bwyllgorau craffu awdurdodau lleol, byddwn yn croesawu hynny'n fawr iawn. Wyddoch chi, mae un o'r dadleuon a'r trafodaethau a gawsom ni o ran y pwerau sydd wedi eu crynhoi mewn llywodraeth leol a mannau eraill yn anghofio nad dim ond y pwerau a roddir drwy statud yw pwerau awdurdod lleol, ond y pŵer sydd ganddo fel corff etholedig i gynrychioli buddiannau'r bobl y mae'n eu gwasanaethu? Fel y cyfryw, gall fynnu'r adroddiadau hynny, gall alw ar bobl i ymddangos i roi tystiolaeth, gall greu strwythurau craffu, ac nid oes angen statud i wneud hynny, ac yn sicr nid oes angen sêl bendith Gweinidog arno er mwyn gwneud hynny. Mae hynny'n fater i lywodraeth leol ac rwy'n annog pob awdurdod lleol ledled y wlad i sicrhau eu bod yn defnyddio eu swyddogaeth graffu yn y modd creadigol hwnnw, os mynnwch chi, sydd ddim yn gaeth i'r hyn y maen nhw'n gallu ei wneud neu dan orfodaeth i'w wneud gan y gyfraith. Felly, rwy'n sicr yn croesawu hynny.
O ran y pwyntiau y mae'n eu gwneud—a byddaf yn ceisio cadw o fewn yr amser, Dirprwy Lywydd—rwyf wedi ystyried y mater o ffiniau, ac roedd yn bwynt a godwyd, wrth gwrs, gan lefarydd Plaid Cymru. Ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod dadl dros wneud newidiadau sylweddol i unrhyw un o'r ffiniau na niferoedd presennol awdurdodau tân ac achub. Ond nid wyf yn diystyru newid o'r fath yn llwyr, pe byddai dadl o'r fath yn cael ei chyflwyno. Nawr, mae hi'n amlwg yn bosib pwyntio at gymunedau ar y naill ochr i unrhyw ffin a dweud y dylai'r cymunedau hynny weithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau. Dyna'r peth hawsaf yn y byd i'w wneud, ac rwy'n derbyn, yn amlwg, yn yr enghraifft a roddwyd, y byddai'r awdurdodau hynny, rwy'n rhagweld, yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen. Mae'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma yn fater gwahanol; mae'n ymwneud â llywodraethu, ac rwyf eto i gael fy argyhoeddi bod dadl dros newid yn y modd a ddisgrifiwyd gan yr Aelod, ond nid wyf wedi diystyru hynny, ac os yw'n gallu cyflwyno'r dadleuon o blaid y newid y mae'n ei awgrymu, yna rwy'n hapus iawn i roi ystyriaeth briodol i hynny yn y dyfodol.
O ran—. Hwn yw fy mhwynt olaf, Dirprwy Lywydd. O ran y pwynt y maen ei wneud ynglŷn â'r ddau neu dri aelod ychwanegol rwy'n credu a fyddai'n eistedd ar fyrddau diwygiedig er mwyn eu dwyn i gyfrif, craffu a herio, rydym ni'n edrych i sicrhau bod gennym ni'r cyfuniad cywir o aelodau wedi eu hethol yn lleol, sy'n atebol yn lleol sy'n gallu herio rheolwyr yr awdurdodau, ond hefyd i sicrhau bod gennym ni'r cyfuniad o sgiliau ar fyrddau newydd yr awdurdodau tân ac achub i sicrhau bod gennym ni'r bobl yno sy'n gallu herio'r bwrdd hwnnw hefyd. Dyna swyddogaeth cyfarwyddwr anweithredol mewn llawer o fusnesau ar hyd a lled y wlad. Mae'n swyddogaeth yr wyf eisiau gweld ei chyflawni ar y byrddau newydd hyn, ond, unwaith eto, dyma ddechrau ymgynghoriad, nid diwedd ymgynghoriad, felly rwy'n hapus iawn i ymuno yn y ddadl os yw Aelodau yn dymuno cyfrannu ymhellach dros y misoedd nesaf.