Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Mae gan y grŵp cynghori gweinidogol gynrychiolaeth gan bob uwch arweinydd a sefydliad sy'n ymwneud â gwasanaethau i blant. Mae'r grŵp wedi bod yn allweddol o ran fy nghynghori ar, a chyd-gynhyrchu, y rhaglen waith gwella canlyniadau i blant, ac rwy'n falch bod ein partneriaid yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith hwn. Yn wir, roeddwn yng nghyfarfod diwethaf y grŵp cynghori gweinidogol, ac fe allwn i weld unwaith eto bod y dull cydweithredol hwn o weithio yn parhau i fod yn gryfder gwirioneddol sydd gan y grŵp.
Felly, beth ydym ni wedi ei gyflawni? Wel, fe gofiwch chi y llynedd ein bod ni wedi buddsoddi £9 miliwn i gefnogi plant sydd wedi cael y profiad o dderbyn gofal. Fe hoffwn i ddweud wrthych chi am rai o'r prif ganlyniadau o ran sut y defnyddiwyd yr arian hwnnw gan awdurdodau lleol. Mae mwy na 1,900 o blant ledled Cymru sydd wedi bod drwy'r system gofal wedi cael arian drwy ein Cronfa Dydd Gŵyl Dewi £1 miliwn, i'w cefnogi wrth iddyn nhw drosglwyddo i fod yn oedolion ac i annibyniaeth. Roedd ein buddsoddiad o £5 miliwn mewn gwasanaethau gofal ymylol yn golygu bod awdurdodau lleol wedi helpu dros 3,600 o blant i aros o fewn yr uned deuluol, drwy weithio gyda mwy na 2,000 o deuluoedd. Mae gennym bellach wasanaethau gofal ymylol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at sefydlu gwasanaethau Adlewyrchu rhanbarthol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gwasanaethau hyn wedi cefnogi 150 o rieni ifanc y mae eu plant wedi eu rhoi yn y system gofal gydag amrywiaeth eang o faterion emosiynol ac ymarferol. Mae hwn yn wasanaeth poblogaidd, ac rydym yn disgwyl gweld nifer y rhai sy'n cael eu hatgyfeirio yn codi yn sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Rydym ni hefyd wedi darparu £1 miliwn i ymestyn y ddarpariaeth o gynghorwyr personol, fel bod pawb hyd at 25 oed sy'n gadael gofal, waeth beth fo'u hamgylchiadau, yn cael cynnig cynghorydd personol. O ganlyniad, mae 20 o gynghorwyr personol ychwanegol wedi eu recriwtio erbyn hyn, ac mae mwy na 500 o'r rhai sy'n gadael gofal wedi derbyn y cynnig estynedig. Ac yn olaf, mae'r rhai sy'n gadael gofal wedi cael cymorth i fanteisio ar gyfleoedd mewn addysg, gwaith a hyfforddiant, gyda 70 o bobl ifanc yn cael lleoliad gwaith drwy'r awdurdod lleol neu'n mynd ar gynllun hyfforddeiaeth. Mae'r rhain yn ganlyniadau real, mesuradwy, sy'n cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc.
Rydym ni wedi gwneud cynnydd gyda meysydd gwaith eraill. Er enghraifft, ym mis Mai eleni, fe wnaethom ni gyhoeddi ymchwil ar ganlyniadau lleoliadau i blant ar ôl gorchymyn gofal terfynol. Roedd yr ymchwil pwysig hwn yn dangos bod dros dri chwarter y plant yn yr astudiaeth yn sefydlog iawn o ran lleoliadau yn ogystal â nodi profiadau cadarnhaol eraill o ofal. Rydym ni hefyd wedi datblygu safonau cenedlaethol ar gyfer swyddogion adolygu annibynnol ac ar gyfer ymwelwyr annibynnol i sicrhau ansawdd a chysondeb y gwasanaeth. Ac fe wnaethom ni ariannu blwyddyn gyntaf gweithredu'r fframwaith maethu cenedlaethol. Rwy'n falch iawn bod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, wedi cyhoeddi ymgynghoriad yr wythnos diwethaf ynglŷn ag eithrio bawb sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor fel bod gennym ni gysondeb ledled Cymru.
Mae hyn i gyd yn gynnydd da, ond mae mwy eto i'w wneud. Cyn yr haf, gofynnais am y rhaglen waith i gael ei chyflymu a'i dwysáu, i hwyluso cyflawni yn erbyn yr heriau allweddol, gan gynnwys y rhai a nodwyd yn 'Adolygiad o Ofal mewn Argyfwng'. O ganlyniad, mae'r rhaglen waith gwella canlyniadau ar gyfer plant wedi ei hadnewyddu. Mae'r trydydd cam hwn o'r rhaglen yn parhau llawer o'r gwaith pwysig sydd eisoes ar y gweill, ond mae'n rhoi mwy o bwyslais ar leihau'r angen am ofal drwy ddarparu cymorth effeithiol, ataliol a chynnar i deuluoedd, yn ogystal â sicrhau bod cefnogaeth therapiwtig i blant a theuluoedd yn hanfodol drwy gydol y rhaglen. Er mwyn llywio'r cam hwn, mae fy swyddogion yn cynnal ymchwiliad gwerthfawrogol ar draws chwe awdurdod lleol. Mae'r ymchwiliad yn tynnu sylw at waith cymdeithasol ataliol da a chymorth i deuluoedd a ddarperir gan awdurdodau lleol. Roedd pob awdurdod lleol yn dangos bod ganddyn nhw systemau gofal integredig lle mae timau aml-asiantaeth yn darparu cymorth amserol i deuluoedd fel y gallai argyfyngau gael eu lleihau neu eu hosgoi, gan helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ddiogel. I ddangos hyn, un enghraifft oedd defnyddio cyfarfodydd grŵp teulu. Mae hyn yn ddull sy'n canolbwyntio ar y teulu sy'n galluogi plant, pobl ifanc, yn ogystal ag aelodau'r teulu ehangach, i gymryd rhan a rhoi eu hatebion eu hunain a fydd yn gwella eu hamgylchiadau. Mae hyn yn gydnaws â'n dull cydgynhyrchu, sy'n ganolog i'n Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae buddsoddi mewn dulliau ataliol ac ymyraeth gynnar o'r fath yn sicrhau arbedion yn y tymor hir.
Yn rhan o gynigion y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid ar gyfer 2019-20, dyranwyd £30 miliwn yn ychwanegol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol i helpu i gryfhau'r trefniadau integreiddio hyn. Heddiw, rwyf yn falch o gyhoeddi y bydd £15 miliwn o'r arian hwn yn cael ei ddyrannu i symud ymlaen ein huchelgais a rennir o leihau'r angen i blant fod yn derbyn gofal. Mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol er mwyn newid y system gyfan.
Hoffwn i awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector a byrddau iechyd weithio gyda'i gilydd i ddefnyddio'r gronfa hon mewn modd hyblyg a chreadigol ar draws eu rhanbarthau. Fy nisgwyliad yw y bydd yr arian hwn yn canolbwyntio ar wasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar ar gyfer teuluoedd sydd angen cefnogaeth a chymorth, gan adeiladu ar y dulliau y gwyddom eisoes sydd yn helpu teuluoedd i osgoi sefyllfaoedd argyfwng. Ar gyfer y plant a'r bobl ifanc hynny sy'n derbyn gofal, rwyf eisiau sicrhau bod gennym ar waith y gwasanaethau therapiwtig sydd eu hangen i'w helpu i aduno â'u teuluoedd yn llwyddiannus pan fo hynny'n briodol.
Cyn imi orffen, hoffwn atgoffa pawb ei bod hi'n Wythnos Diogelu Genedlaethol. Rwyf yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Stop It Now! Cymru i lansio ymgyrch newydd, a fydd yn helpu i annog pobl Cymru i chwarae eu rhan wrth atal cam-drin plant yn rhywiol.